Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
A Fu Heddwch? Gorsedd a Steddfod - Y Difri a'r Digri
Robyn Léwis
ISBN: 9780862439002 (0862439000)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2006
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 208x147 mm, 248 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc - Archebir yn l y galw Ein Pris: £9.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Cyfrol llawn straeon difyr a doniol am Orsedd y Beirdd a'r Eisteddfod Genedlaethol - o ffwlbri Iolo Morganwg i sensoriaeth Cynan ceir pob math o straeon, lluniau a chartwnau hwyliog wedi eu casglu ynghyd gan y cyn-Arch-dderwydd, Robyn Llŷn.

A volume packed with humourous stories about Gorsedd y Beirdd and the National Eisteddfod - including Iolo Morganwg's foolishness and Cynan's censorship, with many pictures and cartoons. Compiled by the Archdruid, Robyn Llŷn.
Bu Robyn Lwis yn aelod ffyddlon a gweithgar o'r Orsedd dros y blynyddoedd. Yr oedd yn ysu am gael bod yn Archdderwydd ond yr arferiad oedd ethol allan o blith y rhai oedd wedi ennill y Gadair a'r Goron ac yr oedd yr arferiad hwnnw megis deddf y Mediaid a'r Persiaid yn ymddangos fel un amhosib ei newid. Nid oedd gan ein llenorion rhyddiaith obaith mul yn y Darbi. Ond daeth tro ar fyd a gwireddwyd breuddwyd Robyn.

Yr oedd yn Archdderwydd urddasol; yr oedd ganddo lais da, ac yr oedd ganddo farn gadarn ar bynciau llosg y dydd yn arbennig os oedd ei annwyl Walia'n cael cam. Gan ei fod wedi ymddeol nid oedd ganddo chwaith ddim i'w golli wrth ddatgan ei farn a'i ragfarn yn ddiflewyn-ar-dafod. Ac fe wnaeth. Addas, felly, oedd iddo benderfynu cyhoeddi cyfrol yn llawn o hanesion am yr Orsedd a'r Eisteddfod.

Wrth fynd drwy'r gyfrol hon - a chael blas arni - yr oeddwn yn cael y teimlad o dj vu. Ble gwelais i rai o'r straeon hyn o'r blaen? Yna cofiais fy mod wedi eu darllen yn Cymreictod Gweladwy, Cyfrol 1. Ond y mae yma hefyd beth wmbredd o stwff newydd a straeon diddorol ac ofnadwy am yr Eisteddfod a'i Gorsedd.

Codwyd aml ael ac aml wn a rhyfeddu at rai o gampau'r Orsedd dros y blynyddoedd: ei Seisnigrwydd, ei hoffter o'r teulu brenhinol, rhai o'r cymeriadau brith a llawer o eiriau chwerw amdani megis a gaed gan Cynddelw a soniodd am y bwbachdod ac ofergoel ddisynnwyr . . . pac o wallgofiaid. Os ei dweud hi, ei dweud hi.

Wedyn dyna i chi Wil Ysgeifiog yn Eisteddfod Caernarfon 1821 yn cerdded i'r Cylch yn garpiau i gyd ac yn datgan:

'Dyn gln, yn nhraed ei sanau
O Brydydd, sydd yn neshau'

a'r rheswm am y cwpled oedd bod yr Orsedd am yr unig dro yn ei bywyd wedi deddfu bod rhaid i bawb dynnu ei esgidiau cyn cael mynediad fel pe baent yn cerdded i ryw fosg. Allwch chi ddychmygu mwd Abergwaun . . .

A dyna Talhaiarn yn cael y stranc fwyaf a welwyd erioed mewn Eisteddfod pan glywodd nad oedd wedi ennill Cadair Aberffraw yn 1849. Rhuthrodd at fwrdd yr Ysgrifennydd, a chan wneud rhyw fath o ysgrech orffwyll rhwygodd ei awdl yn afrir rubanau gan eu lluchio fel eirblu i bob cyfeiriad . . . Sydd yn profi bod ein beirdd cyfoes yn hynod barchus a llywaeth.

Eithr parhaodd ambell weithred dan din ymhell i'n hoes ni, a gwyddom oll i Harri Gwynn golli'r Goron yn 1952 oherwydd sbeit W. J. Gruffydd. Nid wyf yn meddwl bod yna sn yn y gyfrol am yr un math o sbeit yn erbyn Caradog Prichard pan gollodd Gadair Dinbych 1939.

Stori wnaeth i mi chwerthin oedd honno am Thomas Gee yn Eisteddfod Dinbych 1860. Nid oedd arno eisiau cael ei urddo. Eithr fe'i llusgwyd i mewn i gylch yr Orsedd gan gicio a phrotestio a Clwydfardd yn gweiddi I mewn fo a chafodd ei urddo'n Dderwydd yn groes i'w ewyllys. Meddylier am y gŵr crefyddol parchus unbenaethol hwn (oedd mor gybyddlyd gyda'i weithwyr) yn cael ei lusgo dan sgrechian. Yr wyf yn mwynhau'r darlun.

Nid yw Robyn wedi cael gafael ar bob stori chwaith. Beth am y forwyn fach o Ruthun aeth i Landudno yn 1899 er mwyn cael gweld y teulu brenhinol? Daeth adre'n andros o siomedig gan ddweud nad oedd Duges Efrog (sef y Frenhines Mary yn ddiweddarach) yn ddim byd tebyg i'w llun, yn wir yr oedd hi'n hyll. Sylweddolwyd wedyn bod yr eneth wedi bod yn edrych ar Hwfa Mn yn ei lifrai Archdderwydd!

Y stori fwyaf naci yn y gyfrol yw'r llythyrau ffug yn gwahodd yr Orsedd i sefydlu un yn yr Almaen oddi wrth Iorwerth Fain ap Ieuan neu oddi wrth Gianfranco Botticelli ap Caradog Gwynedd o Rufain, er enghraifft. Am gyfnod byr fe dwyllwyd Bwrdd yr Orsedd gan y llythyrau athrylithgar hyn. Pwy oedd yr awdur, tybed? Mae o'n llenor penigamp ac yn dynnwr coes heb ei ail ac yn f'atgoffa o Henry Root.

Ychwanegwch hanes Norah Isaac a'i hesgidiau, Cynan a helynt Lol, cwestiwn amserol gan Trevor Fishlock a chronicl o anwybodaeth y cyfryngau Saesneg, ac y mae gennych 'sgrepan o chwedlau difyr a diddorol', chwedl Gwyn Stiniog yn ei ragymadrodd.

Er cymaint gwybodaeth Robyn (ac y mae o'n dipyn o bolymath) mae o'n medru methu weithiau. Er enghraifft, nid yw'r Dr Arturo Roberts yn un o ddisgynyddion Emrys ap Iwan - dim cysylltiad o gwbl 'r hen lanc hwnnw o Ddyffryn Clwyd. Mab i Michael D. Jones, sef Llwyd ap Iwan, a saethwyd gan wylliaid yn y Wladfa (Butch Cassidy a'r Sundance Kid medd rhai) oedd taid Arturo.

Dywed hefyd bod gan wraig Hubert von Herkomer, cynllunydd dillad yr Archdderwydd a'r gorseddogion, gysylltiad agos Chymru. Oedd yn wir: yr oedd ei ddwy wraig, Eliza a Maggie Griffiths, wedi eu magu yn Stanley House, Stryd Llanrhydd, dafliad carreg o'r fan lle'r wyf yn eistedd ar hyn o bryd. Mae hon yn stori ryfeddol gyda llaw. Un peth arall: Huana oedd enw mam Prys a Rhodri Morgan, nid Rhuana.

Cyfrol fyrlymus yw hon, yn llawn hanesion difyr am ein gŵyl arbennig ni, gŵyl sydd yn agos at ein calon, warts and all chwedl yr hen Oliver ers talwm. A Chymro oedd hwnnw hefyd. Ys gwn beth fyddai ei enw ef yn yr Orsedd - Olfyr Ben Haearn, efallai.

Hafina Clwyd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Tabl Cynnwys:
Rhagair Gwyn Stiniog;
Rhagymadrodd Yr Awdur;
Diolchiadau;
I Y Gwr Iolo;
II Gorseddau Cynnar;
III 'Cenedlaethol' a Brenhingar;
IV Y Chwe Degau a'r Saith Degau (19eg Ganrif);
V Yr Wyth Degau a'r Naw Degau (19eg Ganrif);
VI Dechrau Canrif Newydd, Hyd 1939;
VII Wedi'r Ail Ryfel;
VIII Cynan: Anrhydedd ac Anrhydeddau;
IX Hedd a Chledd;
X O'r Maen Llog;
XI Gorseddau Dieithr;
XII Gorseddau Dieithriach Eto Fyth;
XIII ...I Bawb o Bobol y Byd?
XIV Y Beirdd a Rhyddiaeth;
XV Gwisgo'n Grand;
XVI Sawl Cymr;
XVII Cau'r Orsedd;

Cyn bod 'Arch'-Dderwyddon;
Archdderwyddon Cymru hyd Heddiw.
Bywgraffiad Awdur:
Bu Robyn Lewis yn Archdderwydd Cymru (2002-2005) - y Prif Lenor cyntaf i ddal y Swydd. Mae'n fargyfreithiwr, a bu'n Ddirprwy-Farnwr a Chofiadur Cynorthwyol yn Llys y Goron am wyth mlynedd. Dyfarnwyd iddo radd PhD am draethawd ymchwil dwy gyfrol, "Geiriaduraeth y Gyfraith" ac enillodd Esgid yn Gwasgu iddo'r Fedal Ryddiaith. Mae ef a'i briod, Gwenan, yn byw yn Nefyn, Llyn, ac maent yn hoff o grwydro'r byd.
Gwybodaeth Bellach:
Datgelu Gorseddau ym Mafaria, Catalunya a Taiwan

Mewn cyfrol newydd gan gyn-archdderwydd Cymru, Robyn Lwis, datgelir y bu gorseddau o bedwar ban byd mewn cysylltiad r Orsedd yn ystod y pum mlynedd diwethaf er mwyn rhannu ou profiadau a gwahodd gorseddigion Cymru i weithgareddau mewn amryw o wledydd.

Yn y gyfrol a elwir yn A Fu Heddwch?, cyhoeddir yr ohebiaeth ddifyr oddi wrth ddarpar dderwyddon rhyngwladol megis Iorwerth Fain ap Ieuan (Gorsedd Bafaria), Elfed ap Gethin Llwyd (Gorsedd Catalunya) a Curig Xangun Prydderch (Gorsedd Taiwan). Yn yr ohebiaeth i Robyn Lwis ceisiodd cynrychiolydd Taiwan hyd yn oed drefnu cyfarfod gyda gorseddigion Cymru yn Kabul neu Bagdad, ond ni ddaeth dim or ymdrechion i ymestyn Gorsedd Beirdd Ynys Prydain tu hwnt i Gymru, er mawr siom ir llythyrwyr a edmygai Robin Lewis fel Syr Robin, Pontiff Gorseddaur Byd.

Yn y llyfr A Fu Heddwch? maer awdur yn cyfadde nad ywn siŵr pwy oedd tu l ir llythyrau dychanol a anfonwyd o bob man, ond maen cyfadde fod y person yn ddychanwr ac yn sgwennwr penigamp a bod eu cyhoeddi yn ei gyfrol yn fodd i bawb gael chwerthin rywfaint ar y Sefydliad Archdderwyddawl: Roeddwn yn credu unwaith mair arch-dynnwr coes Eirug Wyn oedd yn gyfrifol, ond erbyn hyn rwyf hefyd yn ystyried y posibilrwydd mair Prifardd Twm Morys fu wrthi, ond rhaid cyfadde fod y cyfan dal i fod yn rhywfaint o ddirgelwch.

Yn ogystal storau dychanol, ceir pob math o anecdotau a ffeithiau difyr am eisteddfodau a gorseddaur gorffennol yn y gyfrol A Fu Heddwch? a gyhoeddir gan Y Lolfa. Ceir hefyd ddegau o gartwnau a lluniau i ddarlunio hanes dau o sefydliadau rhyfeddaf ein cenedl.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Trin Cerddi
Euros Bowen
£1.50
Marwnad o Dirdeunaw
Alan Llwyd
£1.50
Gwyfyn y Gaeaf
Alan Llwyd
£1.95
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch