Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Valentine - Cofiant i Lewis Valentine
Arwel Vittle
ISBN: 9780862439293 (0862439299)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2006
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 209x149 mm, 416 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn l y galw Ein Pris: £14.95   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Cofiant un o genedlaetholwyr Cymreig ac arweiniwr Cristnogol mwyaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Dilynir ei yrfa o Landdulas i ffosydd y Rhyfel Mawr, o ddyddiau cynnar Plaid Cymru i garchar Wormwood Scrubs adeg Penyberth, a'i gyfnod fel gweinidog. Bwrir golwg ar ei ddylanwadau gwleidyddol, crefyddol a phersonol a chroniclir rhai datblygiadau'r mudiad cenedlaethol cynnar.

A biography of one of Wales's foremost patriots and religious leaders in the twentieth century. His career is described from its beginnings in Llandulas to the Great War, from the early days of Plaid Cymru to Wormwood Scrubs at the time of Penyberth; also his period as a minister. His political, religious and personal influences are examined.
Mae Arwel Vittle yn cydnabod yn ei ragarweiniad i'r gyfrol swmpus hon nad yw'n ddiduedd (partisan yw ei air ). Ond cam mawr 'r gyfrol fyddai ei beirniadu am hynny, oherwydd mae cyfoeth y gyfrol yn fwy o lawer na'r dyrchafu a'r canmol sydd i or-ewythr yr awdur. Y mae yma ddigon o ddeunydd a sylwedd i'r darllenydd fedru codi cwestiynau, nid yn unig am Lewis Valentine ei hun, ond am genhedlaeth a chyfnod eithriadol o bwysig yn hanes Cymru, e.e. pennod am ddechrau Plaid Cymru yw 'Efengylu' ac er cymaint ei ddyled i gapel Bethesda yn Llanddulas-gardd-baradwys eto y mae mwy nag un cyfeiriad at Lewis Valentine yn darganfod y koinonia oedd mor allweddol iddo ymysg ei ffrindiau ym Mhlaid Cymru yn fwy nag yn unman arall. Y mae'r ffaith hon ynddi'i hun yn codi cwestiwn diddorol iawn am Lewis Valentine, am y Blaid Cymru gynnar ac am y newidiadau mawr a welodd Valentine yn yr eglwys.

Oherwydd bod hanes sefydlu Plaid Cymru a hanes llosgi Penyberth wedi eu hadrodd yn fanwl eisoes fe fyddai'n hawdd meddwl y dylid bod wedi cwtogi'r rhannau hyn, ond, ar y llaw arall, fe fyddai wedi bod yn amhosibl adrodd stori bywyd Valentine heb roi sylw manwl iddynt. Mae'r un peth yn wir am erchylltrar Rhyfel Mawr. Yr ydym yn hen gyfarwydd 'r uffern honno ac y mae Dyddiadur Milwr Lewis Valentine gennym ers 1988. Ond ni fyddai cofiant i Valentine yn gyflawn heb yr wybodaeth a'r manylion i gyd. Wedi'r cyfan, yn y manylion y mae'r portread.

Y mae gwahaniaeth rhwng 'edmygedd' a 'dyrchafu', wrth gwrs, a dyna pam y cyfeiriais at y cwestiynau sy'n codi yn y gyfrol. Fe fydd natur y cwestiynau yn dibynnu ar ddiddordeb y darllenydd. Os mai hynt a helynt Plaid Cymru sy'n apelio, yna mae digon i'w gael: o etholiad 1929 a'r enwog 609 a bleidleisiodd i Lewis Valentine i'w ymateb i isetholiad Caerfyrddin yn 1966 'Gwyrth? Deffroad? Daeargryn?'. Os mai hanes Cristnogaeth Cymru yw'r diddordeb pennaf, mae digon i'w gael yma hefyd! Cwestiwn sydd yn brigo i'r wyneb yn aml yw'r berthynas rhwng iaith a chrefydd: dirywiad yn iaith y pulpud yn arwain at ddirywiad pregethu; dyfodol Cymru a'r iaith Gymraeg ynghlwm wrth ddyfodol anghydffurfiaeth! Trafodwch yn dawel, Gymry 2007! Y mae Arwel Vittle yn nodi ei fod yn 'cydymdeimlo, nid cytuno' rhai pethau: dadansoddiad cyson a manwl Valentine mor gynnar ag 1936 o'r dirywiad crefyddol, yn arbennig yn Y Deyrnas yn Llandudno ac yn ei olygyddiaeth chwarter canrif o Seren Cymru, ond prin iawn oedd unrhyw arweiniad i atal y dirywiad. Y gwir yw na lwyddodd cenhedlaeth Lewis Valentine, na'r un genhedlaeth arall chwaith, i'w atal. (Yr oedd Valentine, gyda llaw, yn feirniadol o unrhyw ddyhead am ddiwygiad emosiynol fel 1904-05.) O gofio mor ganolog oedd pregethu i Valentine, mae'n rhyfedd na fyddai'r awdur wedi cynnwys un o'i bregethau yn yr atodiadau.

Y mae digon o le i gredu nad oedd ei weinidogaeth yn Rhos-y-blaid-lafur mor hapus 'r cyfnod yn Llandudno. Yr oedd y cyfnod cyn llosgi'r Ysgol Fomio, y weithred ei hun a'r cyfnod yn union ar l hynny yng ngharchar, yn fwy 'hanesyddol' na'r cyfnod o fyw gyda'r hanes a'r canlyniadau. Yn y cyfnod hwnnw y daeth yr hen wrthdaro rhwng crefydd a gwleidyddiaeth i'r golwg. Daw wyneb yn wyneb rhagfarnau ac yr oedd ganddo ei elynion. Cawn ar ddeall hefyd fod Valentine wedi dod i gredu ar ddiwedd ei weinidogaeth mai'r unig fater crefyddol o bwys bellach oedd achub yr iaith Gymraeg dyna hen asgwrn cynnen arall. Achub yr iaith Gymraeg er mwyn y pregethu oedd y nod i Lewis Valentine ond tybed nad oes croesddweud yma oherwydd fe ddaeth hefyd i gredu tan ddylanwad Barth a Brunner nad oedd y 'pregethu cymdeithasol' yn ddigon ac mai 'pregethu athrawiaethol/diwinyddol' oedd yr unig wir bregethu? Un manylyn diddorol, ymhlith llawer o fanylion eraill, oedd na wnaeth Lewis Valentine yr anghydffurfiwr mawr drafod ei Babyddiaeth gyda Saunders Lewis o gwbwl, ar wahn i un sgwrs fer yn ystod egwyl de yn Wormwood Scrubs (tud. 252).

Rwyf wedi codi un neu ddau o sylwadau a chwestiynau a ddaeth i feddwl un darllenydd beth bynnag, a hynny er mwyn profi fod yma gyfrol gyfoethog sydd wedi'i hysgrifennu mewn Cymraeg graenus fyddai wrth fodd calon Lewis Valentine. I lawer o'm cenhedlaeth i ac o'r genhedlaeth hŷn, fe fyddwn yn weddol gyfarwydd 'r hanes. Neu, ac yn fwy cywir, ddarnau o'r hanes, a chymwynas fawr Arwel Vittle yw rhoi'r stori gyfan i ni. Mae'n stori hanfodol i'n bywyd fel cenedl. Clywais y sylw gan rywun sydd wedi darllen y mwyafrif o hunangofiannau'r Nadolig (ac yr oedd llawer iawn ohonynt) eu bod i gyd yn ddifyr, ond eu bod i gyd, hefyd, yn sn am gymunedau a ffordd o fyw nad ydynt yn bod bellach. Faint mwy gwir yw hynny am y cofiant hwn! Fe gredai Lewis Valentine fod ffrwydrad wedi chwalu cymdeithas y Rhos yn y 50au ac fe welodd Llanddulas ei ymddeoliad yn newid cymaint fel na allai aros yno. Dyna pam fod y gyfrol yn codi'r cwestiynau oedd yn ganolog i Valentine fel cwestiynau sydd yn rhaid i ninnau eu hwynebu a'u hateb: sut Gymru fydd Cymru yfory? A wnaiff Cymru droi ei chefn yn llwyr ar ei hetifeddiaeth Gristnogol Gymraeg? A yw gobeithion a breuddwydion cenedlaethol Lewis Valentine yn fwy tebygol o gael eu gwireddu na'r rhai crefyddol? Ac a fyddai'r cwestiwn olaf hwn ynddo'i hun yn tanseilio ei weledigaeth gyfan i Gymru? Dyna'r cwestiynau pwysig yng nghofiant Valentine gweinidog yr Efengyl, ysgolhaig, heddychwr, cenedlaetholwr, carwr cyfiawnder, proffwyd a Chymro mawr.

Pryderi Llwyd Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Cafodd yr awdur ei fagu yn Sir Gaerfyrddin, a rhoddwyd cynnig ar ei addysgu yn Ysgol Rhydfelen a Phrifysgol Bangor. Erbyn hyn mae'n byw a gweithio fel cyfieithydd yn Arfon.
Gwybodaeth Bellach:
Un o genedlaetholwyr Cymreig ac arweinwyr Cristnogol mwyaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif oedd Lewis Valentine. I Gwynfor Evans yr oedd yn "ymgorfforiad o'r gorau ym mywyd y genedl". Yn y cofiant cyflawn yma dilynir ei yrfa o Landdulas i ffosydd y Rhyfel mawr, o ddyddiau cynnar Plaid Cymru i garchar Wormwood Scrubs am ei ran yn llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, a'i gyfnod fel gweinidog yn Llandudno a Rhosllannerchrugog.

Gan ddefnyddio ffynonellau heb eu cyhoeddi o'r blaen - y dyddiaduron gwreiddiol a gadwodd Valentine yn y Rhyfel byd Cyntaf, a gohebiaeth bersonol rhyngddo a'i deulu a'i gyfeillion D J Williams, Saunders Lewis a Kate Roberts - edrychir ar y dylanwadau crefyddol, gwleidyddol a phersonol a ffurfiodd ei gymeriad, a throeon yr yrfa a'i arweiniodd i weithredu fel y gwnaeth. Ar yr un pryd croniclir, mewn modd meistrolgar a darllenadwy, rai o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn nhwf y mudiad cenedlaethol yng Nghymru.

*********************************
Cofio Lewis Valentine
70 mlynedd ers y Tn yn Llŷn yn 1936, ac 20 mlynedd ers marwolaeth Lewis Valentine yn 1986, cyhoeddir y cofiant cyflawn cyntaf ir Cymro mawr yma. Yn l Gwynfor Evans yr oedd Lewis Valentine yn ymgorfforiad o'r gorau ym mywyd y genedl", ac yn sicr yr oedd yn o genedlaetholwyr Cymraeg ac arweinwyr Cristnogol mwyaf yr ugeinfed ganrif. Mewn cofiant darllenadwy a thrylwyr mae Arwel Vittle yn dilyn llwybr Valentine o Landdulas, ger Abergele i erchylltra ffosydd y Rhyfel Mawr yn Fflandrys, sefydlu Plaid Cymru yn 1925, a charchar Wormwood Scrubs am ei ran yn llosgir Ysgol Fomio ym Mhenyberth.

Roedd bywyd Valentine yn ymestyn oi eni yn 1893 mewn oes pryd oedd yr Ymerodraeth Brydeinig ar ei hanterth ac Anghydffurfiaeth ar ei chryfaf yng Nghymru, hyd at Refferendwm 1979 a llywodraeth Margaret Thatcher. Yn y cofiant hwn trwy gyfrwng hanes bywyd Valentine croniclir rhai o ddigwyddiadau arwyddocaol y mudiad cenedlaethol yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif - o ddylanwad Cymru Fydd a Lloyd George, y Rhyfel Byd Cyntaf, awr anterth a dirywiad Anghydffurfiaeth, sefydlur Blaid Genedlaethol, llosgi Ysgol Fomio Penyberth a brwydrau Cymdeithas yr Iaith yn y 1960au a'r 1970au hyd at sefydlu S4C yn yr 1980au.

Yn ogystal bod yn genedlaetholwr amlwg roedd Valentine hefyd yn un o weinidogion mwyaf Cymru yn y ganrif ddiwethaf. Ac mae'r gyfrol yn edrych ar y dylanwadau mawr arno fel Cristion yn cynnwys ei fagwraeth yng nghapel Bethesda Llanddulas, ei heddychiaeth ai ddiwinyddiaeth, ai ddadansoddiad treiddgar o argyfwng Anghydffurfiaeth ar dudalennau Seren Gomer.

Trwy ddefnyddio ffynonellau heb eu cyhoeddi o'r blaen - dyddiaduron gwreiddiol a gadwodd Valentine yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a gohebiaeth bersonol rhyngddo i deulu ai gyfeillion D J Williams, Saunders Lewis a Kate Roberts - edrychir ar y dylanwadau crefyddol, gwleidyddol a phersonol a ffurfiodd ei gymeriad, ar argyhoeddiadau ar egwyddorion, a throeon yr yrfa ai harweiniodd i weithredu fel y gwnaeth.

Dywed Arwel Vittle, yr oedd ei nain yn chwaer i Lewis Valentine, Mae'n siŵr bod y cyswllt teuluol yn un o'r rhesymau dros fynd ati i ysgrifennu'r cofiant. Ond y prif gymhelliad oedd awydd i gael cofnod manwl a chywir o hanes bywyd un o genedlaetholwr mwyaf Cymru yn y ganrif ddiwethaf. Efallai bod tueddiad ynom yn dilyn holl gyffro sefydlur Cynulliad i anghofio gymaint o frwydro y bu'n rhaid i genedlaetholwyr ei wneud i gael hyd yn oed ychydig o hawliau gwleidyddol a ieithyddol i Gymru. Mae'r cofiant yma yn un ffordd o atgoffa ein hunain pa mor bell ryn ni wedi dod, ac i beidio llaesu dwylo dros y pethau yr oedd Valentine yn credu ynddynt.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres y Cewri: 30. Bywyd Bach
Gwyn Thomas
£7.95
 
Prynwch
Helpwch eich Plentyn/Help ...
Elin Meek
£4.99
 
Prynwch
Geiriau a Gerais
T. Llew Jones
£8.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch