| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Llyfr Mawr y PantsDaniel Glyn, Matthew Glyn
Gweld rhagor o deitlau gan 'Daniel Glyn, Matthew Glyn' |
ISBN: 9780862439316 (0862439310)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2006
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bontDarluniwyd gan Chris GlynAddas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 209x149 mm, 80 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£4.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Llyfr o hiwmor, cerddi dwl a syniadau na ddylid eu rhoi i blant cynradd. Yn cynnwys degau o ffeithiau di-chwaeth, disgrifiad manwl o sut i wneud peiriant rhechu, a hunangofiant y pêl-droediwr Dwayne Lwni. Llawer o hwyl yng nghwmni dau o ddigrifwyr mwyaf gwallgof Cymru. Ceir cartwnau gan Chris Glynn. Clip SainA book of humour, funny poems and unsuitable(!) ideas, including many facts in poor taste, advice on how to construct a farting machine, an 'autobiography' by footballer Dwayne Lwni. And much more fun and frolics with two of Wales's craziest comics. Includes cartoons by Chris Glynn. Play Audio
|
|
Sôn am chwerthin! Dyma lond trol hollol ddi-chwaeth o ffeithiau, jôcs, straeon, posau, cwisiau, awgrymiadau, a ryseitiau sy’n sicr o apelio at blant 7-12 oed (a phlant mawr hefyd). Mae’n llawn o gyfeiriadau at drôns, mynd i’r tŷ bach, rhechu, tisian hynny yw yr union bethau mae bechgyn bach yn arbennig o hoff o greu jôcs amdanynt. Mae cartwnau Chris Glynn yn ychwanegiadau ardderchog at yr hiwmor.
Dylai bod copi o hwn ym mhob cartref a dosbarth yng Nghymru bydd hyd yn oed y darllenwyr mwyaf anfoddog yn ysu i gael eu dwylo anarchaidd ar hwn!
Bethan Hughes
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Mae'r awduron, Daniel a Matthew Glyn, yn wynebau cyfarwydd iawn ar y sin gomedi "stand-up" ac ar raglenni teledu i blant cynradd. Daniel a Matthew Glyn sydd yn gyfrifol am rhai o glasuron teledu plant Cymraeg, megis 'Y Rhaglen Wirion 'Na', 'Hotel Eddie' ac 'O Na Y Morgans'. Ond fel y dywed Daniel Glyn: “Dyma’r tro cynta iddyn nhw chwydu cynnwys eu hymennyd ar bapur, a’r canlyniad yw Llyfr Mawr y Pants!” Gwybodaeth Bellach: Llyfr o hiwmor, cerddi dwl a tips dylach byth i blant cynradd. Yn cynnwys degau o ffeithiau di-chwaeth, disgrifiad manwl ar sut i wneud peiriant rhechu, a hunangofiant y peldroediwr twp, Dwayne Lwni... Miloedd o hwyl yng nghwmni dau o ddigrifwyr mwya cracyrs Cymru. Llawn cartwnau gan yr artist Chris Glynn. |
|
|
|
Diweddarwyd ar 16 Awst 2010
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|