Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Ffydd, Gobaith, CariadLlwyd Owen
Gweld rhagor o deitlau gan 'Llwyd Owen' |
ISBN: 9780862439392 (0862439396)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2006
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bontFformat: Clawr Meddal, 183x120 mm, 341 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£7.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Nofel rymus, ddirfawr sy'n llawn datblygiadau annisgwyl. Mae'r stori yn troi o gwmpas Alun Brady, dyn sydd wedi byw bywyd tawel a chysgodol yng nghartref crand ei rieni yng Nghaerdydd. Ond pan ddaw ei dad-cu drygionus i fyw ac i farw gyda'r teulu, dyma ddechrau ar newidiadau enfawr a dyfodiad cymeriadau lliwgar i fywyd Alun. Nofel am yr hyn sy'n tarfu ar dawelwch undonog bywyd.
A powerful and profound novel, full of unexpected developments. Alun Brady, a young man who has led a sheltered life with his parents in a rich Cardiff suburb, is the focal character. When his grandfather comes to live with the family Alun is thrown into bizarre new situations, and encounters colourful characters. This is a novel about how a monotonous life is shattered and disrupted
|
|
Yn dynn ar sodlau ei nofel gyntaf, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau, daw ail nofel Llwyd Owen, Ffydd, Gobaith, Cariad. Unwaith eto mae’r nofel hon wedi’i gosod yn y brifddinas, ond nid bywyd bras y cyfryngis sydd o dan sylw y tro hwn, ac mae’r arwr, Alun Brady, yn annhebyg iawn i Luc Swan, prif gymeriad y nofel gyntaf honno. Mae ei fywyd saff, undonog yn troi o gwmpas y teulu a’u cartref yng Nghyncoed, ond pan ddaw ei dad-cu oedrannus i fyw atyn nhw oherwydd gwaeledd, mae pethau’n newid, ac unwaith eto, cawn ein llusgo i ganol bywyd llai parchus y ddinas: selogion y tafarndai, y troseddwyr mawr a mân, a’r pedlwyr cyffuriau.
Mae’r nofel yn agor gyda disgrifiad grymus o ddamwain car, ond ni chawn wybod tan y diwedd beth yw cefndir y ddamwain. Mae’r nofel wedi’i strwythuro yn arbennig o gelfydd gan osod dwy stori ochr yn ochr: cawn bennod yn disgrifio bywyd Alun ag yntau newydd ddod allan o’r carchar, ac yna pennod yn egluro'r digwyddiadau a’i hanfonodd yno yn y lle cyntaf. Beth ar wyneb daear yrrodd cymeriad mor sidêt i droseddu? Hynny, a dirgelwch y ddamwain car sy’n sbarduno diddordeb y darllenydd, ac mae’r ddwy stori yn cydio’n gryf yn y dychymyg.
Roedd nofel gyntaf Llwyd Owen yn tour de force go iawn, a llwyddodd ei ddisgrifiadau cignoeth o ryw a thrais, a’i iaith gref, ansafonol, i ddenu beirniadaeth ar y naill law, a llawer o ddarllenwyr brwd ar y llaw arall. Efallai na fydd arddull Llwyd Owen yn plesio’r rhai sy’n darllen er mwyn gwerthfawrogi iaith goeth, ond mae yna lawer o ddarllenwyr sy’n awchu am y math yma o nofel ddinesig, sy’n disgrifio byd sy’n debycach i Gaeredin Irvine Welsh neu i ffilm gan Quentin Tarantino nag i’r hyn a gawn fel arfer mewn nofelau Cymraeg. Mae Llwyd Owen yn storïwr penigamp, sydd wedi llwyddo unwaith eto i ddod â bywyd Caerdydd yn weledol fyw ar y dudalen. Bydd y ffaith fod yma lai o elfennau ‘ych a fi’ yn siomi rhai, ac yn rhyddhad i eraill, ond mae Ffydd, Gobaith, Cariad yn aeddfetach na’i nofel gyntaf. Gallwn ond gobeithio bod y ffaith mai dyma’r ail nofel i Llwyd Owen ei rhyddhau o fewn llai na blwyddyn yn arwydd bod llawer mwy i ddod eto gan yr awdur talentog hwn.
Kate Crockett
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Brodor o Gaerdydd sydd wedi gweithio mewn amryw o swyddi yn y cyfryngau ers 1998. Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yw ei nofel gyntaf. Ar hyn o bryd mae Llwyd wrthi’n gorffen ei ail nofel (fydd allan yn hwyrach eleni... gobeithio) ac hefyd wedi dechrau ar y broses o addasu Ffawd… yn ffilm. Mae'n byw yn ardal Parc Buddug y ddinas gyda'i wraig Lisa a'u 'plant' Moses a Marley. Gwybodaeth Bellach: Gorffennol. Presennol. Dyfodol. Mae popeth yn gysylltiedig. Mae Alun Brady, dyn ar drothwy ei 30 oed, wedi byw bywyd tawel, di-nod a chysgodol yng nghartref crand ei rieni yn un o faestrefi mwyaf cefnog Caerdydd. Ond, pan ddaw Patrick, ei dad-cu drygionus, i fyw ac i farw yng nghartref Alun a'i rieni dyma ddechrau newidiadau enfawr ym mywyd y dyn ifanc.
Yn llawn cymeriadau lliwgar, plotio gwreiddiol a diweddglo cofiadwy, mae "Ffydd Gobaith Cariad" yn esblygiad naturiol o nofel gyntaf yr awdur, "Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau".
Wedi ei ysgrifennu yn gyfan gwbl trwy lygaid Alun, mae'r nofel yn rymus gyda datblygiadau annisgwyl ac anhygoel. Gan archwilio themau cyfoes, mae "Ffydd Gobaith Cariad" yn nofel am undonedd bywyd a'r pethau bach (a mawr) sy'n tarfu ar y tawelwch.
Nofel llawn cymeriadau lliwgar, plotio gwreiddiol a diweddglo tanllyd - ail nofel wefrediddiol sy'n esblygiad naturiol o'i nofel gyntaf. Gwobrau: Llyfr y Flwyddyn 2007 / Wales Book of the Year 2007 |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|