|
Caiff pawb sydd yn ymddiddori yn hanes llenyddiaeth a hanes cenedlaetholdeb Cymru’r ugeinfed ganrif bleser dwfn a difyrrwch gogleisiol yn y gyfrol hon o lythyron, ddau gant a naw ohonynt. Pleser yn y modd y cyfoethogant ein hadnabyddiaeth o’r tri gohebydd, a difyrrwch yn y manion a ddatgelant – weithiau am y tro cyntaf – amdanynt. Llyfrau a gwleidyddiaeth yw’r prif bynciau a drafodir ynddynt, ond ceir cryn dipyn hefyd am fywyd priodasol, iechyd, arian, ceisio am swyddi, yn ogystal â pheth beirniadu ar ei gilydd a pheth tynnu coes.
Kate Roberts, a neb ond Kate Roberts, a ddywedai ‘[nad] oes dim canolig yn digwydd yn fy mywyd i’; D. J. Williams, a neb ond D.J., a allai berswadio Saunders Lewis i roi’r gorau i ysgrifennu i’r Empire News; a Saunders Lewis, o bawb, yn unig a feiddiai feirniadu Waldo Williams am beidio â thalu’r dreth incwm fel protest yn erbyn rhyfel, gan haeru ei fod yn ‘rhoi’r argraff i’r di-Gymraeg mai pobl gysetlyd, od, yn chwilio am gyfle i fynd i’r carchar yw’r cenedlaetholwyr Cymreig’.
Ar D.J. y gweithiodd ac y gweithia Emyr Hywel yn bennaf (peth o ffrwyth ei waith ymchwil yn Aberystwyth yw’r gyfrol), ond dengys rhannau o’r Rhagymadrodd a llawer o’r Nodiadau taw gydag S.L., llosgwr Penyberth, y mae’n ochri’n wleidyddol, a’i fod yr un mor feirniadol o arweiniad Gwynfor Evans o’r Blaid Genedlaethol ag yr oedd S.L. ei hun, er bod prif wrthrych ei astudiaeth yn gweld rhagoriaeth y naill a’r llall yn eu tymor. Aruthrol o lythyr yw hwnnw a anfonodd D.J. at S.L. Ddydd Calan 1963, ac a gynhwysir yma gyda Rhif 166, yn canmol G.E. ar achlysur diarddel Neil Jenkins o’r Pwyllgor Gwaith. (Dywed y Golygydd hefyd mai ‘digon oeraidd’ oedd pethau rhwng G.E. a K.R. yn 1961: ie, y pryd hwnnw, pan bleidiai hi weithredu llymach yn erbyn boddi Tryweryn; ond ar hyd y blynyddoedd wedyn yr oedd ganddi ffotograff o Gwynfor ar ei silff-ben-tân.)
Bu ychydig bach o groestynnu rhwng Dr Kate a D.J. hefyd, ynghylch peidio â chynnig ei hunangofiant i Wasg Gee, eithr edmygus a chynnes yw’r berthynas ar y cyfan – o’r dydd y dywedodd wrtho ef a’i wraig am ei phriodas arfaethedig â Morris Kyffin (chwedl hithau, gan gyfeirio at gyfieithydd y Deffynniad Ffydd) hyd at ei eiriau canmoliaethus am Prynu Dol flwyddyn cyn ei farw.
Fel sy’n gweddu i waith M. Phil., y mae yma lawer iawn o nodiadau, gormod weithiau, rhy ychydig bryd arall. Dywedir wrthym pwy yw’r actores Edith Evans ond ni cheir dim am yr actores Nesta Harris, er enghraifft, na dim am Dr Gwenan Jones na B. B. Thomas (Syr Ben) ac eraill, pobl y bydd rhai darllenwyr o do arbennig yn cofio pwy ydynt, ond nid y to iau. Nid adwaen hyd yn oed y rhai hŷn Archibald Rowlands: fe’i ceir yn y Dictionary of National Biography. Unwaith, wrth gyfeirio at lawysgrif gan ddyn o’r enw Theophilus Griffiths, ‘yr ardderchocaf Theophilus’, a anfonodd D.J. ati, ebe K.R., ‘Onid yw bod yn olau yn y sgrythur yn beth braf?’ Olygydd da, nid cyfeiriad at lyfr gan Bantycelyn yw hwn, ond cyfeiriad at Luc i.3.
Buasai D.J. yn rhwym o dynnu blewyn o drwyn ei olygydd am beth fel hyn, yn y modd caredicaf posib; buasai K.R. wedi dweud bod y byd yn mynd i’w drueni; a gwelai Saunders fai cyffredinol ar Anghydffurfiaeth. Blased bawb y wledd!
Derec Llwyd Morgan
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|