EICH BASGED
EWCH I...
CYSYLLTIADAU
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Anodd Credu - Hunangofiant Meddyg |
| Awdur: Joshua Gerwyn Elias Gweld rhagor o deitlau gan 'Joshua Gerwyn Elias'
|
| ISBN: 9780862439774 (0862439779) |
Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2007
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont |
| Golygwyd gan Emyr Llywelyn |
| Fformat: Clawr Meddal, 214x137 mm, 143 tudalen |
| Ar gael |
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
|
| | |
|
|
| |
|
|
|
Ein Pris:
£8.95
|
|
Hunangofiant y meddyg poblogaidd o Geredigion, Gerwyn Elias. Daw teulu'r awdur o Beulah, bu'n byw yn Sir Benfro, ac mae bellach yn byw ym Mhenarth. Mae'n ddyn adabyddus a phoblogaidd yng Ngheredigion ac yn perthyn i deulu'r Cilie.
An autobiography by the popular doctor from Ceredigion, Gerwyn Elias. His family comes from Beulah, he lived in Pembrokeshire, and now lives in Penarth. He is a well-known figure in Ceredigion, and is related to the Cilie family.
|
|
Oes yna ddim diwedd ar ddoniau Teulu'r Cilie, dwedwch? Dyna i chi Alun ac Isfoel a Tydfor a Dafydd Iwan ac Alun Ffred ac Emyr Llew ac yn y blaen ac ymlaen. Ac yn awr dyma awdur arall yn ymddangos yn eu plith! Ŵyr yw Joshua Gerwyn Elias i Esther, un o ferched y Cilie. Chwiliais yn ofer drwy gyfrol orchestol Jon Meirion Jones Teulu'r Cilie, Cyhoeddiadau Barddas (1999) am hanes y gangen hon. Mae yna sôn am Esther ac am un o'i merched, Margaret Rachel neu Ray. Merch i Ray yw'r Dr Gerwyn Elias.
Beth bynnag am hynny, mi wnes i fwynhau darllen hanes y meddyg galluog hwn yn fawr iawn. Cafodd gychwyn gofidus i'w fywyd gan iddo'n blentyn ifanc syrthio i mewn i fath yn llawn o ddŵr berwedig a'i ruthro i'r ysbyty wedi llosgi'n ddifrifol. Oherwydd y sioc datblygodd atal dweud. Yr oedd yna adeg pan oedd plant mewn ysbytai'n cael eu trin yn ddifeddwl wythnosau, weithiau, heb weld eu mam na neb arall o'r teulu. Effeithiodd hyn yn ddrwg ar y plentyn arbennig hwn. Dywed mai dyma'r rheswm pam y penderfynodd beidio â mynd yn ymgynghorydd meddygol mewn ysbyty rhaid medru siarad yn llithrig mewn swydd felly. A fedrai o ddim. Yr oedd ganddo allu, heb amheuaeth, oherwydd ar ddiwedd ei gwrs yn y coleg meddygol cafodd Anrhydedd mewn Llawfeddygaeth ac ennill y Fedal Aur.
Gofid arall iddo'n blentyn oedd iddo gael ‘ei ffarmio allan’ fel y dywed oherwydd bod gan ei fam lond ei dwylo gydag efeilliaid newydd ac anfonwyd ef i fyw gyda chwaer ei fam-gu. Dywed i'r gwahanu hwn hefyd gael effaith ddrwg arno. Hiraeth mawr a chwithdod am ei frawd Hefin (sydd wedi priodi Ceinwen, merch James Humphreys, Y Rhos) yn creu anhapusrwydd llethol.
Aeth i Ysgol Ramadeg Llandysul yn 10 oed yn rhy ifanc, meddai. Ychwanega frawddeg y dylem ei chofio: ‘Mor bwysig yw aeddfedu'n amserol ymhob ffordd.’ Ie'n wir. Yn y dyddiau hyn, lle gwelir genethod bach yn gwisgo ffasiwn rhai o selebs y byd ac yn cael eu coluro, dylem bryderu. Mae yna nifer o frawddegau doeth drwy gydol y gyfrol.
Mae'r stori'n dirwyn yn drefnus o'r ysgol i'r coleg a thrwy'r gwahanol adrannau yr oedd yn rhaid gweithio ynddynt cyn cael bod yn ddoctor go iawn. Ac fel gyda phob myfyriwr meddygol, y mae yna ddigonedd o straeon doniol ambell i beth yn ddigon i godi gwallt eich pen. Mi chwarddais yn uchel fwy nag unwaith ac y mae angen cyfrol ddoniol iawn i hynny ddigwydd. Hoffais y stori hon am y ddynes ddaeth i mewn fel achos brys yn dioddef o gwlwm perfedd. Ddeuddydd wedi'r driniaeth aeth yr ymgynghorydd Ioan Jones o gwmpas hefo'i osgordd o fyfyrwyr gan ddweud wrthynt mai'r ffordd i wybod os oedd y driniaeth wedi gweithio'n llwyddiannus oedd gweld a oedd y wraig yn medru pasio gwynt. ‘Ydych chi wedi pasio gwynt?’ gofynnodd iddi a chael yr ateb, ‘Naddo, rwy'n credu mai'r fenyw yn y gwely nesa sy wedi gwneud.’
Ceir nifer o straeon difyr ac enghreifftiau o nifer o wahanol salwch a chlefydau. Cred ei bod hi'n bwysig iawn gwrando a chymryd diddordeb yn y claf. Mae yna le i amau bod meddygon sydd yn gwneud hynny'n bethau prin y dyddiau hyn. Yr wyf i'n ddiweddar wedi dod ar draws meddygon yn eistedd a'u cefn atoch, a phe baech yn gofyn iddyn nhw pa liw gwallt oedd gan y claf, ni fedrent ateb.
Y deyrnged orau fedraf ei rhoi yw bod y llyfr hwn yn darllen yn rhwydd, yr iaith feddygol Gymraeg yn gwbl naturiol, yn llawn hiwmor a thristwch hefyd. Un peth sydd yn peri penbleth mae yna lun ohono gyda Jo, ei wraig, ond does dim sôn amdani o gwbl yng nghorff y llyfr!
Mae un peth yn sicr. Mae'r gallu a'r hiwmor yn brawf bod hwn yn un o linach y Cilie.
Hafina Clwyd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
|
|
Bywgraffiad Awdur: Yn un o ddisgynyddion teulu'r Cilie, cafodd Gerwyn Elias ei eni yng Ngheredigion, cyn symud a gweld ymosodiadau'r Almaenwyr yn Hwlffordd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yna dychwelyd i Geredigion, a mynychu Ysgol Ramadeg Llandysul.
Cafodd yrfa ddisglair gan ennill Medal Aur mewn Llawfeddygaeth yn Ysgol Feddygol Cymru, cyn mynd ymlaen i weithio mewn nifer o ysbytai blaenllaw. Yna bu'n feddyg teulu poblogaidd ym Mhenarth am 34 o flynyddoedd. Gwybodaeth Bellach: Goeliech chi byth y rhyfeddodau sydd ynghlwm wrth fywyd meddyg - y gwyrthiau a'r trasiedïau sy'n adlewyrchu rhyfeddodau'r corff a chymhlethdod bywyd yn ei gyfanrwydd. Wedi ei ysgrifennu gan feddyg profiadol, mae'r hunangofiant hwn yn agor y llen ar achosion rhyfeddol, o'r dwys i'r doniol a'r trychinebus - stori'r ddynes 60 oed yn mynnu ei bod yn disgwyl plentyn, a hanes dynes ifanc na allai fwyta ar ol gweld ffrind iddi'n marw wrth dagu ar sglodion. Storïau dirdynnol sy'n datgelu gallu rhyfeddol y meddyg wrth drin ei gleifion - yn feddyliol ac yn gorfforol. Heblaw profi'r llawenydd wrth achub bywydau, gwelodd Gerwyn Elias hefyd fywydau ifanc yn cael eu colli. Y mae'n trafod materion meddygol anodd mewn modd gonest a threiddgar a chawn gynghorion doeth ar gyfer mwynhau bywyd hir a iachus!
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|
|