Eich basged
£51.99
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
Gwybodaeth Lyfryddol |
Meini Meirionnydd Huw Dylan Owen
|
|
Cyflwyniad deniadol i rai o feini Meirionnydd, gyda ffotograffau gan David Glyn Lewis a thestun a cherddi gan Huw Dylan Owen.
An attractive introduction to some of the standing stones of Meirionnydd, with photographs by David Glyn Lewis and text and poems by Huw Dylan Owen.
|
A minnau’n frodor o sir Feirionnydd, ac yn un sydd wedi ymddiddori erioed mewn cromlechi a meini hirion, mae’n rhaid imi gyfaddef bod y gyfrol hon wedi tanlinellu fy anwybodaeth ynglŷn â hanes a niferoedd y safleoedd megalithig sydd i’w cael yn fy hen sir enedigol. Ers fy nyddiau ysgol, roeddwn yn gwybod yn fras am fodolaeth rhai o hen olion cyn hanes Dyffryn Ardudwy ac ardal llynnoedd Cregennan, ac roeddwn wedi ymweld droeon â maen Dolfeili, Rhyd-y-main, sydd ond rhyw chwarter milltir o’m cartref cyntaf. Serch hynny, agorodd y gyfrol hon fy llygaid i’r cyfoeth ehangach a geir o fewn ffiniau’r sir.
Yn y gyfrol ddeniadol hon sy’n gyforiog o luniau lliw gwych gan y ffotograffydd David Glyn Lewis, rhestrir dros chwe deg o safleoedd megalithig, sy’n cynnwys meini hirion, cromlechi, siambrau claddu a chylchoedd cerrig nodedig. Rhoddir cyfeirnod map Ordnans i bob safle a fydd yn gymorth i’r darllenydd fydd yn cael ei demtio i weld y meini â’i lygaid ei hun.
Mae brwdfrydedd awdur y testun, Huw Dylan Owen, am y meini hyn, yn amlwg o’r dechrau. Aeth i’r drafferth o ymweld a chyffwrdd â phob un o’r meini y sonnir amdanynt. Golygodd hyn gerdded milltiroedd lawer dros lethrau a mawndiroedd, ond wrth gyrraedd safle anghysbell a chyfrin fel cylch cerrig trawiadol Bryn Cader Faner, Ardudwy, mae’n amlwg bod pob cam drwy’r tiroedd llaith wedi bod yn werth y drafferth.
Aeth hefyd i’r drafferth o ymchwilio’n fanwl i’r hen chwedlau a’r hanesion lleol sy’n gysylltiedig â nifer fawr o’r olion, ac mae’n trafod yn fanwl sawl damcaniaeth ynglŷn â’r rhesymau dros eu bodolaeth.
Ond o bosibl, camp fwyaf yr awdur yw llunio yn agos i hanner cant o englynion, ac ambell hir-a-thoddaid a darn arall o farddoniaeth, i gyd-fynd â’r henebion. Mae’n ddigon o gamp ar y gorau i lunio hanner cant o englynion ar destunau amrywiol, ond camp aruthrol yw llunio hanner cant o englynion gwahanol ar yr un math o destun. Llwyddodd Huw Dylan Owen i amrywio’i englynion drwy ddefnyddio’r hanesion a’r chwedlau gwahanol sy’n gysylltiedig â’r safleoedd hudol hyn.
Dyma gyfrol a’m plesiodd yn fawr, cyfrol sydd wedi codi awydd arnaf i ymweld fy hun â rhai o’r mannau hudol a gyflwynwyd imi o fewn ei thudalennau.
Iwan Bryn James
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Bywgraffiad Awdur: Magwyd David a Dylan yn Nolgellau, ond bellach mae David yn byw yng Ngellilydan, Meirionnydd, a Dylan wedi ymgartrefu yn Abertawe. Ar wahan i'w teuluoedd, hanes Cymru a'i henebion, mae bryd David ar deithio, ffotograffiaeth a hanes yn gyffredinol, a diddordebau Dylan yn cynnwys cerddoriaeth , barddoniaeth a beicio. Bu'r ddau'n ymchwilio hanes a cherdded at y meini hyn am rai blynyddoedd. Gwybodaeth Bellach: Miloedd o flynyddoedd cyn pyramidiau'r Aifft cododd yr hen bobl feini hirion, cromlechi, siambrau claddu a chylchoedd cerrig ar hyd Ynysoedd Prydain. Erys nifer helaeth o'r cerrig hyn ar hyd ucheldir Cymru ac ym Meirionnydd mae casgliad sylweddol i'w weld ar hyd yr arfordir, yn etifeddiaeth i ni, y Cymry. Disgrifia'r llyfr hwn y meini hynny sydd o fewn ffiniau yr hen Sir Feirionnydd. Rhennir gwybodaeth drwyadl David Glyn Lewis a Huw Dylan Owen am y meini cynoeol yn y gyfrol hon, ac mi fydd o ddiddordeb i unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes a diwylliant Cymru. |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
"Dyma un o'r llyfrau gorau i mi ei ddarllen am Gymru ers rhai blynyddoedd. Ceir portread o'r Gymru gyfoes drwy edrych ar feini ein cyndeidiau yn yr ardal hyfryd honno, Meirionnydd. Nid llyfr am Feirionnydd yw hwn, ond llyfr i Gymru gyfan.
Mae'r lluniau yn benigamp; yr ymchwil manwl yn arwain at straeon hudolus; a'r farddoniaeth yn iasol. Mae'n gwneud i mi fod eisiau cerdded at y meini hyn.
Gwych!"
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
| Cymraeg |
Mynd |
Marged Tudur |
£7.00 |
|
| |
|