Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres y Llwyfan: Angel Pen Ffordd
John Evans
ISBN: 9780863810800 (0863810802)Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 1987
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 32 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn l y galw Ein Pris: £1.00   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Rhan o gyfres o ddramâu byrion 'Cyfres y Llwyfan'.

Part of a series of short plays.
Dyma gomedi hwylus mewn dwy act fer ar gyfer cwmnau lleol syn chwilio am rywbeth a aiff i lawr yn dda. Mae plot yr act gyntaf yn ddigon syml, gydar merched, Beti a Doris, yn manteisio ar absenoldeb y patriarch hunanbwysig, Charles, er mwyn byw yn l eu boddau. Pan ddaw yntaun ei l, maen rhaid iddynt gydymffurfio i orchymyn unwaith eto; ond daw cyfle iddynt daror pwyth yn l cyn diwedd yr ail act.

Sbort diniwed ywr cyfan, ac maer dramodydd wedi ffeirio pob ymdrech i gynnal plot a chymeriadau credadwy er mwyn sicrhau digon o fola-chwerthin. Ceir routines comig digon digri yma a thraw, cyd-ddigwyddiadau, cynllwyn a jcs; prif rannau ir hoelion wyth, is-rannau ir llai hyderus (ac i sicrhau cast digonol i ddenu cynulleidfa); ar cwbl yn hawdd iw lwyfannu, yn enwedig os ywr amser ymarfer yn brin!

Wrth gwrs, pe bai rhywun yn dymuno, gellid dweud bod hon yn glasur seicdreiddiol syn datgelu angst y Cymry ynglŷn theyrnasiad yr uwch-ego (Charles) dros yr ego (Doris a Beti) ar id (Ben), a bod y dramodydd yn ceisio lliniarur ofn cynhenid hwn trwy anarchiaeth ffars ac ymyrraeth cathartig yr arall (Oscar). Penderfynwch chi, yndyfe . . . !

Roger Owen

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch