Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Byd o Beryglon: 2. Arth Grisli, Yr
Gary Paulsen
ISBN: 9780863816826 (0863816827)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2001
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Esyllt Nest Roberts.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 130x196 mm, 64 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £2.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o nofel fer gyffrous am fachgen ifanc yn peryglu ei fywyd wrth erlid arth grisli a laddodd ŵyn ffermwr lleol, ynghyd â rhestr o ffeithiau diddorol am eirth grisli a chynghorion am ddiogelwch personol yn yr awyr agored; i ddarllenwyr 9-12 oed.

A Welsh adaptation of an exciting short novel about a young boy who endangers his life whilst hunting a grizzly bear that has killed lambs on a local farm, including a list of interesting facts about grizzly bears and advice about personal safety in the open air; for 9-12 year old readers.
Lleolir y stori dda hon yn nwfn yn nhraddodiad amaethyddol America, gydag eirth grisli tu ôl i bob coeden, wel, yn rhuo ar ddechrau pob pennod o leiaf!

Mae ffermwyr megis Mac McCallister wedi hen arfer â bleiddiaid yn mynd ag oen neu ddau pan fo bwyd yn brin, ond eleni mae arth hynod o fileinig o gwmpas, sy’n lladd er mwyn lladd.

Mewn cyfarfod i drafod yr arth, dealla’r ffermwyr lleol ei bod yn swnio’n debyg i’r arth y lladdwyd dau genau bach iddi gan heliwr anghyfreithlon. Penderfyniad y pwyllgor yw anfon Mac fel cynrychiolydd i’r brif swyddfa amaeth i fynnu ateb i’r broblem.

Justin, nai Mac, sy’n gwarchod y fferm. Un noson, ar ôl i Mac fynd, mae'n clywed sŵn yn y gorlan. Yr arth oedd yno eto, ond y tro hwn mae’n lladd oen Justin, Cochyn. Penderfyna Justin ddial, a chawn antur yn y goedwig, lle mae Justin a’r arth yn magu perthynas ryfedd – gyda’r arth yn achub bywyd Justin, ac yntau ... wel does dim angen dweud gormod, dim ond fod lladd eirth yn medru arwain at gael eich carcharu!

Stori antur werth chweil, gyda’r darllenwr yn ysu am gael gwybod sut mae’n gorffen!

Esyllt Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Byd o Beryglon: 1. Perygl ...
Gary Paulsen
£2.99
 
Prynwch
Byd o Beryglon: 4. Craig ...
Gary Paulsen
£2.99
 
Prynwch
Byd o Beryglon: 8. Perygl ...
Gary Paulsen
£2.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch