Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Byd o Beryglon: 3. Plygu Amser
Gary Paulsen
ISBN: 9780863816833 (0863816835)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2001
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Esyllt Nest Roberts.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 130x196 mm, 80 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £2.99   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o nofel fer gyffrous am ddau fachgen yn profi antur beryglus pan deithiant yn ôl mewn amser i Amerig yr unfed ganrif ar hugain i'r Aifft yn ystod teyrnasiad y Brenin Tutankhamen; i ddarllenwyr 9-12 oed.

A Welsh adaptation of an exciting short novel about two young boys who experience a dangerous adventure when they travel back in time from 21st century America to Egypt during the reign of Tutankhamen; for 9-12 year-old readers.
Wrth ddechrau chwarae o gwmpas gyda'r offer plygu amser, ychydig a feddyliai Sam beniog a Jac, sydd â’i feddwl ar ddim ond pêl-fasged, y caent eu trawsgludo'n ôl i’r Aifft yn y flwyddyn 1360 cyn Crist.

Y pharo ifanc Tutankhamen sydd yn llywodraethu, ond mae ei fywyd mewn perygl. Dyn cyfrwys, peryglus yw’r is-raglyw, Horemheb, ac mae ei lygaid ar yr orsedd. Rhaid i Sam a Jac geisio achub bywyd Tutankhamen ac maent yn herio Horemheb a’i gyd-gynllwynwyr i gêm o bêl-fasged. Oherwydd triciau budr Horemheb a’i ddynion nid yw pethau’n mynd yn dda i’r ddau fachgen, ac wedi colli’r gêm cânt eu rhoi yn y carchar.

A oes yna unrhyw fodd iddynt ddianc? A fedrant ymddiried yn Ankhesenpaten, gwraig ifanc Tutankhamen? A oes modd i Sam gael gafael ar ei gyfrifiadur er mwyn eu trawsgludo’n ôl i’w gwlad eu hunain yn yr unfed ganrif ar hugain?

Stori antur, gyffrous yw hon, gan awdur sy’n gwybod i’r dim beth mae darllenwyr ifanc yn ei fwynhau. Chwiliwch am y teitlau eraill gan yr un awdur yn y gyfres ‘Byd o Beryglon’.

Rhiannon Clifford Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Byd Pyramidiau
Anne Millard
£2.00
 
Prynwch
Cyfres Pobl Mewn Hanes: ...
Robert Nicholson
£5.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch