Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Byd o Beryglon: 4. Craig y Diafol
Gary Paulsen
ISBN: 9780863816840 (0863816843)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2001
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Esyllt Nest Roberts.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 130x196 mm, 64 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc - Archebir yn l y galw Ein Pris: £2.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o nofel fer gyffrous am dri ffrind yn dringo craig beryglus yn llwyddiannus gan ddatrys dirgelwch am ddamwain awyren a ddigwyddodd ar gopa'r mynydd flynyddoedd ynghynt, ynghyd â rhestr o dermau dringo a chyngor am ddiogelwch wrth ddringo mynyddoedd; i ddarllenwyr 9-11 oed.

A Welsh adaptation of an exciting short novel about three friends who successfully climb a dangerous mountain and unravel the secret of an aeroplane accident that occured on the summit many years previously, together with a list of climbing terms and advice about safety while mountain climbing; for 9-11 year old readers.
Rick, J.D. a Spud yw aelodau’r tîm Dringwyr Dewr, a heb ddweud wrth neb, maent yn penderfynu dringo Craig y Diafol, llethr peryglaf yr ardal. Wedi llwyddo i gyrraedd y copa a gosod pebyll ânt i archwilio’r tir o’u cwmpas a dônt o hyd i awyren fomio oedd wedi plymio i’r ddaear yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yng nghanol y deunydd y mae Spud yn ei gario o’r awyren y mae dyddiadur James Dowling, llywiwr yr awyren, ac wrth ei ddarllen maent yn gwneud darganfyddiad brawychus. Pan fo’n fater o fyw neu farw maent yn darganfod pa mor bell yr â rhai pobl.

Stori antur, gyffrous, ac er bod y clawr yn awgrymu mai stori am ddringo sydd yma, nid dyna’n unig a geir. Mewn gofod cymharol fyr (55 tudalen) ceir nifer o anturiaethau, a’r cyfan yn gwau’n gelfydd i’w gilydd. Mae gan yr awdur y ddawn o adrodd stori a chadw’r darllenydd ar bigau’r drain.

Ar ddiwedd y llyfr ceir tudalen o gyfarwyddiadau ar ddringo mynyddoedd a hefyd tudalen o dermau dringo.

Un teitl o’r gyfres Byd o Beryglon gan Gary Paulsen yw Craig y Diafol. Byddwch yn sicr o fwynhau’r teitl hwn, felly beth am edrych am weddill y teitlau yn y gyfres?

Rhiannon Clifford

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Byd o Beryglon: 1. Perygl ...
Gary Paulsen
£2.99
 
Prynwch
Byd o Beryglon: 2. Arth ...
Gary Paulsen
£2.99
 
Prynwch
Byd o Beryglon: 8. Perygl ...
Gary Paulsen
£2.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch