Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Owain a'r Mynydd
Malachy Doyle
ISBN: 9780863817380 (0863817386)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2001
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Darluniwyd gan Giles GreenfieldAddaswyd/Cyfieithwyd gan Myrddin ap Dafydd.Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1 Fformat: Clawr Meddal, 270x245 mm, 32 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £4.50   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o Owen and the Mountain, stori dyner gyda darluniau lliw cynnes am berthynas arbennig bachgen bach a'i daid cariadus wrth iddynt ddringo mynydd gyda'i gilydd; i blant 4-6 oed.

A Welsh adaptation of Owen and the Mountain, a tender story with warm colour illustrations about the special relationship of a young boy and his loving grandfather as they climb a mountain together; for 4-6 year-old children.
Rhaid cyfaddef nad ydw i erioed wedi cyflawni’r daith sy’n sail i’r llyfr hwn, sef y daith i gopa Cader Idris ar hyd Llwybr Minffordd, ond gallaf eich sicrhau na wnaeth hynny amharu’r mymryn lleiaf ar fy mwynhad o’i ddarllen.

Gosodir naws y gyfrol o’r dudalen gyntaf un, a chawn y teimlad fod rhyw antur wahanol ar ddigwydd, fod Owain wedi dod i ryw le anarferol, lledrithiol rywsut, wrth fynd i aros gyda’i daid. Triga Taid mewn bwthyn unig, heb deledu na char, ac ni chaiff lonydd gan ei ŵyr nes iddo addo mynd ag ef i ben y mynydd anferth sydd yn ymyl y tŷ. Ar un ystyr, hanes taith gerdded syml i ben mynydd ac yn ôl a geir yma, ond mae yma hefyd hanes cyrraedd copa pwysig wedi sawl anhawster, a darlun o berthynas taid a’i ŵyr yn datblygu.

Mae testun Cymraeg y stori hon yn fendigedig yn fy marn i, yn naturiol gyfoethog, a ninnau drwy’r geiriau yn ymdeimlo ag ofn Owain, oerfel y mynydd, cadernid a henaint y Taid, a’r bodlonrwydd o gyrraedd adref wedi diwrnod gwerth chweil. Ceir yma hefyd luniau gwirioneddol hyfryd, sy’n ychwanegu’n sylweddol at ein hadnabyddiaeth o’r ddau gymeriad, y bwthyn carreg, y mynydd enfawr, ac ysbryd y daith.

Gwenan Creunant

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth edrych ar y teitl hwn hefyd edrych ar y canlynol:
As Good as It Gets - The ...
Ceri Stennett
£9.99
Friendly Fishing Hotels ...
Chris Thomas
£4.95
 
Prynwch
Storïau a Chwedlau ...
Huw John Hughes
£5.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch