Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Blas ar Fwynder Maldwyn
ISBN: 9780863818424 (0863818420)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2003
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Golygwyd gan Heledd Maldwyn Jones Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 132 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn l y galw Ein Pris: £6.50   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad o 12 ysgrif yn trafod amryfal agweddau ar dir a phobl sir Drefaldwyn, yn cynnwys gwybodaeth ddifyr am feirdd a gofaint, cerddorion ac artistiaid, ysgolheigion a herwyr, enwau llefydd, y dafodiaith unigryw a rhin y bywyd cymdeithasol clos. 8 llun lliw, 20 llun du-a-gwyn ac 1 map.

A collection of 12 essays dealing with various aspects of the land and people of Montgomeryshire comprising information about poets and blacksmiths, musicians and artists, scholars and bandits, placenames, the unique dialect and the essence of the closeknit social life. 8 colour, 20 black-and-white illustrations and 1 map.
Synhwyrais, cyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fod yna gryn anwybodaeth am Sir Drefaldwyn hyd yn oed ymysg y Cymry mwyaf diwylliedig. Bellach, gyda’r holl lyfrau a gyhoeddwyd am yr hen sir dros yr haf, nid oes unrhyw esgus o gwbl dros yr anwybodaeth hwn. Mae Blas ar Fwynder Maldwyn gyda’r un ar ddeg o erthyglau a cherdd dafodiaith yn sicr o oleuo llawer am y darn hwn o Gymru.

Ysgrif foethus ei mynegiant gan Gwyn Erfyl am ddyddiau mebyd yn Nyffryn Banw sy’n agor y gyfrol. Gwneir ambell ddatganiad nad wyf yn llwyr gytuno â hwy ond, yn anffodus, mewn adolygiad byr fel hwn, nid oes amser i fynd i’r afael â hwy! Mae yma un camgymeriad er hynny y dylid tynnu sylw ato. Nid enillodd englyn John Penry Jones i’r ‘Pry Cannwyll’ wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Am ryw reswm anfonodd John Penry mo'r englyn i’r gystadleuaeth.

Mae nifer o’r erthyglau'n dilyn yr un trywydd atgofus â Gwyn Erfyl gan ddathlu hen arferion a thraddodiadau. Dyna yn sicr a gawn gan Alwyn Hughes mewn dwy ysgrif o’i eiddo, y naill am ofaint a’r ail am daflu coits. Ymddangosodd y ddwy gyntaf yn y papur bro, Plu’r Gweunydd. Mae nifer o’r erthyglau hyn yn tystio i bwysigrwydd y papurau bro yn y gwaith o gynnal traddodiad ym Maldwyn.

Arwyn ‘Groe’ Davies yw colofnydd barddol Plu’r Gweunydd a chanddo ef y ceir un o’r erthyglau bywiocaf sy’n trafod rhigymau, englynion a phenillion lleol gan roi sylw dyledus i feirdd gwlad fel Huw Ellis y Berth a John Ellis Foeldrehaearn. Mae'r erthygl hon yn profi fod y beirdd gwlad a’u cerddi troeon trwstan gyda ni o hyd.

Traddodiad arall sy’n dal yn fyw yw’r Plygain, a cheir disgrifiad gwych o’r gwasanaeth hwnnw a’r traddodiadau sydd ynghlwm wrtho gan Arfon Gwilym. Un a wnaeth lawer i gynnal y traddodiad hwnnw oedd Elfed Lewys. Ef hefyd a sefydlodd Aelwyd Penllys, ac mae erthygl Alwena Francis yn dwyn i gof holl afiaith ei gyfraniad ef, a’r ieuenctid a ysbrydolwyd ganddo, i fywyd Cymru.

Dathlu cyfraniad ieuenctid i barhad y diwylliant Cymraeg ym Maldwyn a wneir gan Penri Roberts gyda’i erthygl ar Gwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn. Yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cyffiniau a gynhaliwyd ym Mathafarn yn 1981 y daeth y cwmni i fodolaeth. Dwyn i gof eisteddfod a gynhaliwyd ym Machynlleth yn 1701 wna Lona Jones. Ysgrif ysgolheigaidd ei naws yw hon sy’n olrhain cyfraniad Siôn Rhydderch i fywyd Cymru. Ond mae’n erthygl sy’n gwbl gyfforddus yng nghwmni erthyglau eraill mwy gwerinol eu naws.

Nid mor llwyddiannus yn fy nhyb i yw cyfraniad Dai Hawkins ar enwau lleoedd Maldwyn. Er bod yr ymchwil sy’n sail iddi yn gwbl ddi-fai, mae rhywun yn hiraethu am allu Bedwyr Lewis Jones i gyflwyno gwybodaeth debyg i hyn mewn dull mor gartrefol. Siomedig hefyd yw erthygl I. Elfyn Ellis, ‘Hanes Teulu Penantwrch’, teulu anghyffredin iawn a gyfrannodd lawer at fywyd diwylliannol a chrefyddol y sir. Ond erthygl eiriog a phrin ei ffeithiau a gawsom. Trueni na fyddai’r awdur wedi sôn mwy am hynodrwydd y teulu gan gyfeirio'n arbennig at Sam Ellis a aeth i’r Unol Daleithiau ac ysgrifennu’r nofel hynod honno, Ann y Foty yn Mynd i’r Môr.

I mi, pennaf gamp y gyfrol yw ysgrif bortread Ioan Roberts o’r artist Eleri Mills. Llwyddir i gyfleu bywiogrwydd ac egni’r artist a chawn ddarlun o berson sy’n gwneud defnydd creadigol o’r holl draddodiadau a etifeddodd.

Mae’r gyfrol hon, fel Eleri Mills ei hun, yn dangos fod yna ddiwylliant cyfoethog ar ôl ym Maldwyn o hyd. Nid mwynder a thafodiaith unigryw yn unig sydd yma, ond pobl sydd â’u bryd ar ddyfalbarhau, goroesi, a gwarchod y pethau gorau.

Dafydd Morgan Lewis

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Powys Anthology, A
Dewi Roberts
£6.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mudferwi
Rebecca Roberts
£7.99
 
Prynwch
Saesneg
Longest Farewell, The
Nula Suchet
£12.99
 
Prynwch
Plant
Rygbi
Sarah Larter
£9.99
 
Prynwch