Hanes hynod ddifyr bywyd a gwaith Dora Herbert Jones (1890-1974), datgeinydd a darlithydd, darlledwraig a beirniad ym maes alawon gwerin Cymru. 17 ffotograff du-a-gwyn.
A highly interesting account of the life and work of Dora Herbert Jones (1890-1974), singer and lecturer, broadcaster and critic in the field of Welsh folk songs. 17 black-and-white photographs.
|
Bach y nyth oedd Deborah Jarret Rowlands, neu Dora Herbert Jones fel y gŵyr pawb amdani, sef un o hoelion wyth Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Wedi graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, bun ysgrifenyddes i Syr John Herbert Lewis, aelod seneddol sir y Fflint, a daeth yn ffrindiau âi wraig Ruth, gwraig a ymhyfrydai yn y traddodiad canu gwerin Cymraeg. Y cysylltiad hwn a ysbardunodd Dora Herbert Jones hithau i gofleidior byd canu gwerin oi gwr.
Yn wraig beniog a chraff, troediodd Dora dir na bu merched Cymru na merched yr un o wledydd eraill Prydain yn agos ato erioed or blaen. Er bod Dora yr olaf o bump o ferched (ac efallain rhannol oherwydd hynny) hi oedd y ferch gyntaf yng ngwledydd Prydain iw phenodin gynrychiolydd etholiadol (sef i Herbert Lewis), a hynny cyn i ferched gael yr hawl i bleidleisio, hyd yn oed. Oedd roedd yn un gref ei phersonoliaeth, unplyg ei hamcanion, ac egnïol ei hymdrechion. A chystal hynny; daeth dwy drasiedi fawr iw bywyd. Yn 1922 ganwyd mab iddi, ar un flwyddyn bu farw ei gŵr o lawdriniaeth aflwyddiannus, yn un ar bymtheg ar hugain oed. Yn 1940 bu farw ei merch, Elsbeth, yn un ar hugain oed pan dorpediwyd y cwch yr oedd yn teithio adref o Awstralia arni. Does ryfedd felly iddi orfod ymgodymu â gyrfaoedd amrywiol ac ysgwyddodd ei chyfrifoldebau'n effeithiol a heb chwerwi, er efallai iddi golli blas ar fyw a chefnu ar ganu ar adegau.
Casglwyd ynghyd swp mawr o wybodaeth yn y llyfryn hwn, ai rannun bum pennod, sef yn gyntaf brasolwg ar helyntion trofaus bywyd Dora Herbert Jones, yn ail golwg ar waith Dora yn canu a darlithio ym myd yr alaw werin, yn drydydd ei gwaith yn casglu a gweinyddur alawon hynny, yn bedwerydd ei gwaith arloesol ym myd darlledu, ac yn olaf ei chyfnod diddorol iawn ym mhlas Gregynog ym Mhowys.
Wrth fynd heibio cawn hefyd gipolwg ar agwedd Dora Herbert Jones tuag at yr hen alawon, ar hyn a ystyriai hi oedd eu diben au gwerth. O ystyried trasiedïau mawr ei bywyd, efallai nad ywn syndod deall mai Hiraeth oedd ei hoff gân, y brydferthaf or holl ganeuon gwerin Cymraeg yn ei barn hi. Ac y maen ddiddorol sylwi ar ddyfyniadau oi heiddo a allai roi gwers neu ddwy i berfformwyr cyfoes, yn enwedig ym myd yr eisteddfod. Dywed fod yn rhaid mynd o dan groen y gân cyn ei chanu, fod yn rhaid ei charu ai deall. Canu iddyn nhw eu hunain yr oedd yr hen bobl, nid i gynulleidfa . . . i arllwys eu teimladau neu i wella calon friw.
Yn ogystal â chael gwersi ar sut i ganu mewn eisteddfod, gellir deall hefyd or gyfrol hon rywfaint ar fywyd un amlwg yn y traddodiad gwerin yn ystod yr ugeinfed ganrif: dwy gymwynas fawr.
Rhiannon Ifans
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|