Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn
ISBN: 9780863818509 (0863818501)Dyddiad Cyhoeddi: Awst 2003  Cyhoeddwr: Cymdeithas Edward Llwyd
Fformat: Clawr Meddal, 242x205 mm, 138 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael trwy'r cyhoeddwyr yn unig Ein Pris: £4.50   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Rhestr gynhwysfawr o enwau planhigion yn cynnwys yr enwau Lladin, Saesneg a Chymraeg gyda mynegai manwl.

A comprehensive list of the names of plants comprising the Latin, English and Welsh names with a detailed index.
Myrdd o blanhigion o bob math! A myrdd o enwau Cymraeg ar gyfer llawer ohonynt, ac eraill heb yr un o gwbl! Dyna un testun dryswch (ymhlith llawer eraill) a wynebai olygyddion Geiriadur yr Academi. Nid llysieuegwr mo ’run ohonom, ond rhaid oedd chwilota yn Welsh Botanology H.Davies (1813), Enwau Blodau, Llysiau a Choed M.Parry (l969) a chasgliadau niferus eraill, mynd i’r afael â Concise British Flora W. Keble Martin, a lloffa ar antur yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru gan obeithio taro ar rywbeth i lenwi bwlch.

Cafwyd cryn ddryswch yn y casgliadau Cymraeg: byddai pob casglwr enwau planhigion yn copïo gwallau ei gilydd: ni sylwodd H. Davies mai fel byrfodd (yn lle llysiau) y bu i’r Dr John Davies Mallwyd ddefnyddio’r ffurf llys, ac nad ffurf unigol mohono o gwbl; aeth ati i newid dwsinau o enwau i gynnwys yr elfen ffug llys fel enw unigol, a buwyd yn bathu rhagor o’r ffurfiau ffug hyn mewn casgliadau cyfoes, megis Flowering Plants of Wales R.G. Ellis (1983), Planhigion Cymru a’r Byd D. Hayes (l995) ac eraill. Bathwyd yr enw ffug a diangen briwydden (yn lle briwydd) ar sail camdybiaeth, yn ddiweddar iawn. Ceid bod yr un enw yn gallu golygu nifer o flodau gwahanol, e.e. gall botwm gŵr ifanc olygu tansy, red campion, a meadow crowfoot. A ddylasid ei gynnwys fel enw Cymraeg ar gyfer pob un o’r tri enw Saesneg? Ar flodyn arall ceid llu o enwau Cymraeg: a ddylasid eu cynnwys i gyd, ynteu dewis un enw safonol ac os felly, ar ba sail? Ar sawl planhigyn ni cheid enw Cymraeg o gwbl: a ddylasid ei hepgor, o’r herwydd? Ynteu bathu enw – gan gofio mai bathiad gan unigolyn fu pob enw, ac yn wir pob gair. Ceir yr un dryswch, fwy neu lai, yn Saesneg (gw. The Englishman’s Flora G. Grigson (l958) ac mewn ieithoedd eraill. I’r llysieuegwr gwyddonol, yr enw Lladin, wrth gwrs, yw’r unig enw o bwys, gan mai hwnnw a gydnabyddir ledled y byd.

Bydd croeso i’r llyfr hwn: o’r diwedd cafwyd rhestr o enwau Cymraeg a safonwyd gan lysieuegwyr. Ni chynhwysir ffyngoedd, cen cerrig, cen coed, gwymon, blodau’r gerddi a blodau dieithr a diweddar (gydag eithriad). Dosberthir y planhigion yn ôl teulu, a rhestrir pob aelod o’r teulu dan ei enw Lladin, Saesneg a Chymraeg. Nis rhestrir yn ôl trefn yr wyddor yn yr un o’r ieithoedd, sy’n gwastraffu amser braidd. Wedi’r cwbl, nid llyfr disgrifiadol mo hwn, ac i’r chwilotwr am enw, dibwys yw perthynas y naill aelod â’r llall; ond rhestrir pob enw gyda’i gilydd mewn mynegai ar ddiwedd y llyfr. Da sylwi na ddefnyddir priflythyren ar yr enwau.

Bid siŵr, ni fydd pawb yn fodlon ar bopeth yma. Ceir llawer o heiffennu diangen e.e. trwyn-y-llo-dail-eiddew; ac erchyll i’r glust, i’r llygad ac i synnwyr cyffredin yw’r llu o enwau anramadegol megis troed-yr-ŵydd gwyn (yn enwedig gan y gall troed fod yn fenywaidd): troed gwyn yr ŵydd fuasai’n well o lawer. Eir i gryn drafferth i restru ffurfiau unigol megis meillionen a rhedynen, ond ni cheir glaswelltyn na gweiryn. Bu bathu diangen: e.e. ar gyfer Hesperis matronalis, dame’s violet, cynigir croes yr hwyr; o ba le y daeth hwn? Yng Ngeiriadur yr Academi cynigiwyd fioled ddamasg neu fioled bêr, ar sail tarddiad tebygol yr elfen dame. Hepgorwyd enwau Cymraeg dilys e.e. creigafal, sef cotoneaster, (a dyf ar y Gogarth ac nid yn unman arall ym Mhrydain) am nad yw’n fath o afal: dadl simsan iawn yw hon: o’i dilyn gellid dweud nad yw llafn y bladur yn fath o lafn, na llygad y dydd yn fath o lygad. Pa un yw’ch enw chi ar bluebell? Bwtsias y gog a ddywedwn i, a’r rhan fwyaf o Gymry’r Gogledd, yn ôl arolwg a wnaed ryw ddeugain mlynedd yn ôl, ond clychau’r gog a ddewiswyd yma; i mi, harebell yw hynny.

Ni ellir bodloni pawb. Dylid darllen y Rhagymadrodd, lle eglurir yr egwyddorion a ddilynwyd wrth lunio’r gwaith. Dywedir yno (diolch byth!) ‘na cheisir annog pobl i ymgyfyngu i’r enwau a restrir yma… lle nad yw’n bwysig defnyddio enwau botanegol diamwys’, ac weithiau fe gynigir dewis. Amheuthun fyddai cael llyfr megis The Englishman’s Flora G. Grigson neu Flora Britannica Richard Mabey, sy’n trafod y cyfoeth o enwau a geir ar blanhigion, y coelion yn eu cylch a’r defnydd a wneir/wneid ohonynt, heb sôn am gyfres o lyfrau manwl-ddisgrifiadol megis cyfres Collins. Yn y cyfamser, bydd y gyfrol hon yn anhepgor i bob llysieuegwr a phob cyfieithydd: brysied y gyfrol nesaf a fydd yn llenwi’r bylchau a nodwyd uchod.

Bruce Griffiths

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Termau`r Teulu A`r Cartref
 
£1.25
Hanes Cymru
John Davies
£16.99
 
Prynwch
Mi Glywais i - Chwedlau a ...
Aeres Evans
£5.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch