Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Byd o Beryglon: 7. Gêm Wallgo
Gary Paulsen
ISBN: 9780863818653 (086381865X)Dyddiad Cyhoeddi Rhagfyr 2003
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Esyllt Nest Roberts.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 128x195 mm, 78 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £2.99   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o nofel fer gyffrous am ddau fachgen yn eu harddegau yn wynebu peryglon mawr wrth chwarae gêm gyfrifiadur rithwir sydd wedi eu meddiannu; i ddarllenwyr 9-11 oed.

A Welsh adaptation of an exciting short novel about two teenage boys who face great dangers while playing a virtual computer game which has possessed them; for readers aged 9-11 years.
Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o nofelau antur byrion ar gyfer plant 9-11 oed, a dwi’n siŵr y byddai disgyblion hynaf yr ysgol gynradd, yn enwedig bechgyn o bosib, yn croesawu cael stori fel hon i’w darllen.

Hanes Brett a Tom a geir yma, y ddau wedi ffoli ar gêmau cyfrifiadur, ac yn mentro i’r arcêd rithwir newydd sydd wedi agor yn y ganolfan siopa er mwyn cael tro ar 'Dial y Diafol', gêm a oedd yn ôl y sôn yn well nag unrhyw gêm gyfrifiadurol a welwyd o’r blaen. Ond, yn fuan, gwelodd y ddau fod 'Dial y Diafol' yn fwy na gêm, a bu'n rhaid iddynt wynebu sawl lefel o anawsterau a pheryglon wrth ymladd am eu bywydau. Roedd y byd rhithwir bellach wedi troi’n ddychrynllyd o real.

Mae hon yn nofel llawn cyffro a symud, yn cyfleu’r tensiwn parhaus mewn brwydr sy’n pendilio rhwng realiti a dychymyg. Mae’r syniad o symud o un lefel i’r llall yn y gêm yn cael ei gyfleu’n dda, a’r gorchmynion a ddaw gan Wil yn ystod y gêm yn swnio’n galed a pheiriannol ac yn cyferbynnu’n effeithiol â’r ddeialog rhwng y ddau fachgen.

Fe’i hysgrifennwyd yn fywiog a graenus, ac mae’n nofel ddigon byr a byrlymus i apelio at sawl un sydd fel arfer â’u llygaid yn sownd i sgrin y cyfrifiadur!

Gwenan Creunant

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Mewnwr a Maswr: 1. Brwydr ...
Myrddin ap Dafydd
£4.50
 
Prynwch
Beicio yn y Gwaed
E. A. Vincent
£2.00
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch