Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Caneuon y Coridorau
Tudur Dylan Jones, Mererid Hopwood et al
ISBN: 9780863819704 (0863819702)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2005
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd, Llinos Jones Darluniwyd gan Jac JonesAddas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3 Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 84 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad o farddoniaeth newydd, gyfoes gan Tudur Dylan, Gwion Hallam, Mererid Hopwood, Caryl Parry Jones, Mei Mac a Ceri Wyn wedi cael ei ysbrydoli gan fywyd ar goridorau ysgol; ar gyfer darllenwyr 13-16 oed. 32 llun du-a-gwyn.

A collection of contemporary, new poems by Tudur Dylan, Gwion Hallam, Mererid Hopwood, Caryl Parry Jones, Mei Mac and Ceri Wyn which has been inspired by experiences along school corridors; for readers aged 13-16 years. 32 black-and-white illustrations.
Anaml y mae llyfrau'n cerdded, ond maer gyfrol hon wedi diflannu oddi ar fy nesg droeon. Beth sydd i gyfrif am y diddordeb? Yn gyntaf, chwip o glawr gan yr artist Jac Jones syn rhewi storm o ddigwyddiadau difyr, digri a chyffrous y coridor ysgol. Yn ail, swp o gerddi gan chwech o feirdd syn gwybod sut mae difyrru, goglais a gafael yn y dychymyg.

Cyflwyna pob bardd ei hun gan ddweud gair am farddoni a barddoniaeth. Dyma gyfraniadau gwerthfawr syn ychwanegiadau pwysig a rydd gyfle ir darllenydd ifanc a hen ddod i adnabod rhywfaint ar yr awduron ar rheswm am lunio cerdd.

Os yw ambell un syn ei arddegau cynnar yn dychryn a diflasu wrth weld cerdd Gymraeg, dymar union donic iddo. Testun y gyfrol ywr pethau y daw disgyblion ysgol Uwchradd ar eu traws. Rhydd Gwion Hallam sylw ir bws ysgol ar bwli, gyda cherdd grefftus ar ffurf Nodyn Salwch yn berl. Ond r pendil hefyd ir dwys gyda soned am y ffrind a laddwyd mewn damwain foto-beic.

Caiff y merched lais yng ngherddi Mererid Hopwood, ac mae Caryl Parry Jones yn delio gyda thestunau mawr megis y 'Snog' a 'Fy mlewyn' gyda dogn dda o hiwmor. Yma hefyd y mae Tudur Dylan, Mei Mac a Ceri Wyn, yn canu am fod yn cŵl, mewn cariad ac yn yr ysgol, gydar gynghanedd ar rhigwm megis erwydd cyfleus iddyn nhw gofnodi eu caneuon.

Ion Thomas

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Dyffryn Conwy a Cheinciau ...
 
£5.00
 
Prynwch
Ceidwad y Gannwyll a ...
Robat Arwyn
£6.95
 
Prynwch
O Ris i Ris - Caneuon ...
E. Olwen Jones
£6.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch