Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Seren Wen ar Gefndir GwynRobin Llywelyn Gweld rhagor o deitlau gan 'Robin Llywelyn'
ISBN: 9780863839856 (0863839851)Dyddiad Cyhoeddi Medi 1997
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 148 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o stoc dros dro Ein Pris: £4.95 
Seren Wen ar Gefndir Gwyn
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel sy'n defnyddio delweddau o fytholeg Geltaidd gyda chefndir Pan-Ewropeaidd iddi, a ddisgrifiwyd fel gwaith 'awdur digamsyniol ei ddawn a rhyfeddol ei gamp', gan un o'r beirniaid. Enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1992. Cyhoeddwyd yn gyntaf ym 1992.

The novel which won the Prose Medal at the 1992 National Eisteddfod and which was acclaimed as a masterpiece by all three adjudicators. First published in 1992.
Gwybodaeth Bellach:
Seren Wen ar Gefndir Gwyn
Mae Seren Wen ar Gefndir Gwyn yn ddrych gwleidyddol sydd yn trafod rhyfel yn y dyfodol rhwng Gwlad Alltud a chynghrair sydd yn cynnwys Tir Bach, Haf heb Haul, Gaeaf Mawr a gwledydd eraill. A hwythau dan ormes y gelyn, mae trigolion Llawr Gwlad yn dyheu am ryddid ac am hunanlywodraeth i'w gwlad. Ymgyrch Gwern Esgus i drefnu chwyldro yw canolbwynt y stori. Mae Gwern yn ffoi o'i gartref rhag iddo gael ei garcharu yng ngastell Entwürdigung, ond ni lwydda'i gariad Anwes Bach y Galon i ddianc, ac y mae hi a'i mab yn cael eu caethiwo. Dilyn hynt a helynt Gwern Esgus y mae'r darllenydd wrth i hwnnw ymweld â gwledydd y ddarpar gynghrair, ond cael ei fradychu a'i ladd yw hanes Gwern yn y diwedd. ar sawl golwg, dameg yw Seren Wen ar Gefndir Gwyn sydd yn sôn am y difrod mae totalitariaeth yn ei achosi i ddiwylliant y cenhedloedd bychain. Gellid dadlau fod awdur yn condemnio neo-imperialaeth yr oes sydd ohoni, boed yng ngorllewin Ewrop neu yn y dwyrain canol. Bu'r nofel yn hwb fawr i llenyddiaeth y Gymraeg pan gafodd ei chyhoeddi yn 1992. Mae iaith yn llyfr yn drawiadol o wreiddiol ac y mae'n cyfuno elfennau o ramantau'r Gymraeg Canol a iaith lafar y Gogledd. Byd heb ffiniau yw byd y llyfr, ac yn y byd hwwnw syniadau yw'r tirwedd.
Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Haf a Cherddi Eraill, Yr
R. Williams Parry
£5.00
 
Prynwch
Llên y Llenor: ...
Delyth George
£1.00
 
Prynwch
Byw Sy'n Cysgu, Y
Kate Roberts
£8.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch