Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Razzamatazz
Rhys Jones, Aled Lloyd Davies
ISBN: 9780900426995 (0900426993)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2007
Cyhoeddwr: Cwmni Cyhoeddi Gwynn, Pen-y groes
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3 Fformat: Clawr Meddal, 297x210 mm, 56 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £12.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dwsin o ganeuon i blant gan y ddau gerddor profiadol, Rhys Jones ac Aled Lloyd Davies. Ceir yma unawdau, deuawdau, partïon unsain, deulais a thri llais.

Twelve songs for children composed by two experienced musicians, Rhys Jones and Aled Lloyd Davies. Includes solos, duets and songs for choirs.
Tabl Cynnwys:
Profiadau helaeth Rhys Jones o berfformio, hyfforddi a gwrando yw sail ei alawon gafaelgar a`i harmonïau chwaethus. Mae ganddo`r ddawn gyfrin i ddethol yr elfennau sy`n cydio yn y perfformwyr a`r gwrandawyr.

Mae Aled Lloyd Davies yn bensaer geiriau a cherddor amryddawn, a`i glust yn fain i air a nodyn fel ei gilydd. Fel llenor a datgeinydd, dengys rwyddineb mynegiant a meistrolaeth i ddethol yn unol â naws y gerddoriaeth.
Gwybodaeth Bellach:
Os bu partneriaeth greadigol a chynhyrchiol erioed, y bartneriaeth rhwng y cerddor Rhys Jones a’r saer geiriau Aled Lloyd Davies yw honno. Dros gyfnod o ddegawdau fe gynhyrchodd y ddau ddwsinau o ganeuon poblogaidd a chofiadwy.

Dwsin o’u caneuon gorau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd yma, gydag amrywiaeth ryfeddol o ran naws a chynnwys: unawdau a deuawdau, caneuon ar gyfer partïon unsain, deulais a thri llais – i gyd yn cynnwys y sbarc a’r ffresni arferol a gysylltir ag enwau’r ddau.

Mae’r caneuon yn llwyddo i gwmpasu byd plant a phobl ifanc y Gymru gyfoes – o gyffro’r cae rygbi, y bwrdd snwcer a theithio’r gofod i naws amrywiol tymhorau’r flwyddyn.

Fe gafodd sawl cenhedlaeth o bobl ifanc Cymru hwyl anfarwol ar hyd y blynyddoedd yn canu caneuon y ddeuawd ddawnus hon o Ogledd- Ddwyrain Cymru. Fe fydd croeso mawr i’r casgliad diweddaraf hwn gan blant a hyfforddwyr fel ei gilydd.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Caneuon Bach y Pentre (CD)
 
£12.98
 
Prynwch
Caneuon Gwerin i Blant
 
£3.50
 
Prynwch
Tinboeth
 
£5.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch