Eich basged
£45.00
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
Gwybodaeth Lyfryddol |
Ffydd a Gwreiddiau John Saunders Lewis |
ISBN: 9780901332585 (0901332585)Dyddiad Cyhoeddi: Tachwedd 2002
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Modern / Modern Welsh Publications Ltd.Golygwyd gan D. Ben Rees
Fformat: Clawr Meddal, 208x125 mm, 104 tudalen
Iaith: Cymraeg
Archebir yn ôl y galw Ein Pris:
£5.95
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Casgliad o chwe ysgrif dreiddgar gan Bruce Griffiths, R. Geraint Gruffydd, Branwen Jarvis, Daniel John Mullins, Pat Williams a'r golygydd ei hun, yn tanlinellu pwysigrwydd elfennau ffydd a gwreiddiau mewn unrhyw ddadansoddiad o gyfraniad Saunders Lewis (1 893-1985) i feysydd llenyddiaeth, ysgolheictod a diwinyddiaeth Gym reig. 14 llun du-a-gwyn.
A collection of six penetrating essays by Bruce Griffiths, R. Geraint Gruffydd, Branwen Jarvis, Daniel John Mullins, Pat Williams and the editor himself, underlining the importance of the elements of faith and roots in any analysis of the contribution of Saunders Lewis (1893-1985) to the fields of Welsh literature, scholarship and divinity. 14 black-and-white photographs.
|
Gwraidd y llyfr bach hwn oedd y ddau anerchiad a draddoddwyd ym mis Chwefror 2001 ar adeg dadorchuddior plac coffa ar wal 6 Wilton Street, Liscard, Lerpwl, lle y magwyd Saunders Lewis yn negawd olaf y 19eg ganrif.
Y siaradwyr ar yr achlysur hwnnw oedd yr Athro R. Geraint Gruffydd ar Esgob Daniel John Mullins. Ceir yma gipolwg o Lewis y llenor gan y naill, a nodyn cynnil ar ei ffydd grefyddol gan y llall. Nid ydynt yn cynnig rhyw lawer sydd yn newydd am Lewis, hyd y gwn i, ond hyfryd yw cael teyrngedau cynnes gan ddau oi edmygwyr mwyaf. Nid oes, maen debyg gen i, fawr o wahaniaeth rhwng safbwynt y Methodist Calfinaidd ar Pabydd mewn rhai pethau.
Tipyn hirach ywr pedair ysgrif a ychwanegwyd at y ddau anerchiad ond, unwaith eto, nid oes llawer syn newydd sbon. Maer Parchedig D. Ben Rees, syn weinidog gydar Hen Gorff yn Lerpwl ers llawer blwyddyn, wedi gwneud defnydd helaeth or gyfrol Letters to Margaret Gilcriest (1993) ar gyfer ei ysgrif ef ar wreiddiau Lewis ar Lannau Mersi, gan ddyfynnun aml or llythyrau Saesneg a ysgrifennodd Lewis at ei ddarpar briod. Ceir yma hefyd rai oi gerddi yn yr iaith Saesneg.
Maer Athro Branwen Jarvis hithaun ystyried dylanwad Margaret Gilcriest ar ffydd a chenedlaetholdeb Lewis. Un o dras Gwyddelig oedd Mrs Lewis, er nad oes llawer o oleuni wedi ei daflu hyd yma ar ei daliadau gwleidyddol. Erys hefyd y dasg o esbonio sut yn union y dylanwadodd y nofelydd Ffrangeg Maurice Barrès ar syniadau Lewis, yn enwedig ar ei ddirnadaeth or genedl ai hoffter o Ffrainc fel gwlad ddelfrydol.
Dr Bruce Griffiths, sydd wedi cyfrannun ddisglair in dealltwriaeth o ddramâu Lewis, ywr cyfrannwr parotaf i drafod y llenor heb flewyn ar ei dafod. Eto, dim ond crynhoad a geir yma o Lewis y dramodydd. Mae Bruce Griffiths yn gyfarwydd âr ffynonellau Ffrengig Pascal, Camus a Sartre ac yn ystyried y syniad anuniongred sydd yn rhedeg trwy rhai oi ddramâu olaf: maen werth gamblo ar fodolaeth Duw, gan nad oes dim iw ennill fel arall. Myfyrdod ar farddoniaeth grefyddol Lewis a geir gan Dr Pat Williams. Unwaith eto, nid oes unrhyw ddefnydd newydd yma: sgwrs festri ywr cyfan, gwaethar modd.
Dyn preifat oedd Saunders Lewis, yn amharod i drafod ei waith ai fywyd personol ei hun, ac nid ywr gyfrol hon yn llwyddo i ychwanegu'n sylweddol at ein gwybodaeth ohonynt. Ond byddain werthfawr fel cyflwyniad ar gyfer disgyblion y chweched dosbarth, efallai.
Meic Stephens
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
| Cymraeg |
Mynd |
Marged Tudur |
£7.00 |
|
| |
|