Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Beirdd yr Uchelwyr: Gwaith Gruffudd Ap Maredudd 1 - Canu i Deulu Penmynydd
ISBN: 9780947531270 (0947531270)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2003
Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Golygwyd gan Barry J. Lewis Fformat: Clawr Meddal, 233x153 mm, 185 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn ôl y galw Ein Pris: £10.00 
Cyfres Beirdd yr Uchelwyr: Gwaith Gruffudd Ap Maredudd 1 - Canu i Deulu Penmynydd
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Golygiad cynhwysfawr o waith Gruffudd ap Maredudd (bl.1366-82), yn cynnwys rhagymadrodd llawn gwybodaeth am ei fywyd a'i waith, ynghyd â manylion am deulu Tuduriaid Penmynydd, Môn y canodd iddynt, aralleiriad o wyth testun, nodiadau manwl a geirfa ddefnyddiol.

A comprehensive edition of the work of Gruffudd ap Maredudd (1366-82), comprising an informative introduction to his life and work, paraphrases of eight texts, detailed notes and a useful glossary.
Ffrwyth gwaith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd i Duduriaid Môn yw Gwaith Gruffudd ap Maredudd 1: Canu i deulu Penmynydd. Blodeuai'r bardd hwn yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg ac yn y gyfrol hon, y gyntaf o dair cyfrol o waith y bardd, ceir saith cerdd i aelodau teulu Penmynydd, un o deuluoedd pwysicaf yr ardal yn y cyfnod o dan sylw. Cynhwysir hefyd gerdd i noddwr anhysbys sydd, yn ôl pob tebyg, yn perthyn i'r teulu hwn.

Y mae'r llyfr, sy'n rhan o Gyfres Beirdd yr Uchelwyr a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, yn dilyn yr un drefn â'r llyfrau eraill yn y gyfres. Ceir rhagymadrodd ar y dechrau sy'n trafod agweddau o waith y bardd, ei gefndir a'i ddyddiadau. Trafodir ei noddwyr a noddai nifer o feirdd, Iolo Goch a Llywelyn Goch ap Meurig Hen yn eu plith, yn eu llysoedd a chartrefi ar Ynys Môn. Serch hynny, nid oes trafodaeth ar grefftwaith y bardd a'i ddefnydd o ddelweddau a throsiadau, er enghraifft, yn yr adran hon. Â ymlaen i gyhoeddi'r wyth cerdd yn eu cyfanrwydd ac, yn dilyn hynny, ceir nodiadau helaeth ar y cerddi.

Dengys y golygydd bod y bardd yn moli ei noddwyr yn y ffordd draddodiadol, er enghraifft ym marwnad Hywel ap Goronwy, archddiacon Môn, disgrifir y gwrthrych â'r geiriau arwrol arferol a chanolbwyntir ar ei haelioni a'i letygarwch. Yn yr awdl foliant a'r farwnad i Dudur Fychan ap Goronwy, brawd gwrthrych y gerdd gyntaf, ceir disgrifiad o'i gampau ar faes y gad a delweddau traddodiadol o fyd anifeiliaid sy'n cyfleu eu safle fel noddwr delfrydol. Ceir delweddau tebyg yn y cerddi i'w fab Goronwy Fychan ap Tudur, er bod y gyfres o englynion yn rhif 5 yn canolbwyntio mwy ar ei salwch. Y mae'r gerdd i'r noddwr anhysbys hefyd yn dilyn yr un confensiynau.

Y mae'r nodiadau ar eiriau ac ymadroddion anghyfarwydd yn swmpus ac yn ein cynorthwyo i ddwyn goleuni ar y cerddi hyn o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Y mae'r golygydd yn tynnu ein sylw yn y rhagymadrodd at sylwadau Saunders Lewis yn ei lyfr Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1536 lle mae'n disgrifio Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd fel 'un o'r mawrion'. Edrychaf ymlaen felly at ddarllen gyfrolau eraill o waith y bardd hwn sy'n cynnwys cerddi crefyddol a pheth canu serch a chanu dychan. Bydd yn gyfle i werthfawrogi ymhellach waith bardd a ganai ar ddiwedd cyfnod Beirdd y Tywysogion a dechrau cyfnod newydd a chyffrous Beirdd yr Uchelwyr.

Margaret Bowen

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Llyfr Cynog - A Medieval ...
 
£2.00
 
Prynwch
Castell yr Iechyd
Elis Gruffydd
£5.99
Cyfres Beirdd yr ...
 
£10.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch