Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Arth yn y Cwtsh dan Stâr, Yr
Helen Cooper
ISBN: 9780948930546 (0948930543)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 1997
Cyhoeddwr: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Darluniwyd gan Helen CooperAddaswyd/Cyfieithwyd gan Dylan Williams.Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1 Fformat: Clawr Caled, 32 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £4.50   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Stori llyfr-a-llun hudolus i blant bach am fachgen ofnus sy'n bwydo arth ddychmygol, gan awdur Y Plentyn nad oedd am Gysgu.

A Welsh adaptation of The Bear under the Stairs, an enchanting picture story-book for young children about a fearful boy who feeds an imaginary bear.
I mi mae diwyg y llyfr yma’n hyfryd. Mae’r lluniau’n hynod atmosfferig, yn gynnes a deniadol, gyda rhyw naws draddodiadol iddynt.

Mae’r stori ei hun yn un syml, hudolus, sy’n ennyn chwilfrydedd plant yn syth. A yw Wiliam wir wedi gweld arth yn y cwtsh dan stâr? Mae’n ei fwydo ac yn gallu tynnu ei lun yn fyw iawn. Mae’n rhaid felly fod rhywbeth yn y cwtsh dan stâr?

Dychymyg plentyn yw gwraidd holl hudoliaeth y stori hon, ond yn anffodus, mae’r addasiad wedi torri braidd ar y rhin yma i mi. Mae’r iaith yn tueddu i fod yn anodd, y brawddegau’n gymhleth ac amlgymalog a cheir nifer o ferfau cryno. Byddai angen plentyn aeddfed o ran oed darllen i fedru darllen y llyfr yma’n annibynnol ac rwy’n sicr y byddai sawl rhiant hefyd yn gwyro oddi ar y testun wrth ei ddarllen yn uchel.

Fodd bynnag, mae’r berthynas rhwng Wiliam â’r arth yn un annwyl tu hwnt. Ceir yma ofnau a chyfrinachau plentyndod, wedi eu plethu’n hyfryd yn nychymyg y bachgen bach.

Siwan Wyn

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres Project Llyfrau ...
Pat Brown
£3.00
 
Prynwch
Motyn
Shirley Hughes
£1.95
Sws i Seren
Phyllis Root
£2.00
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch