Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Alawon Gwerin Iolo Morganwg
ISBN: 9780953255573 (0953255573)Dyddiad Cyhoeddi: Awst 2012Cyhoeddwr: Cymdeithas Alawon Gwerin
Golygwyd gan Leila Salisbury Fformat: Clawr Meddal, 298x230 mm, 272 tudalen Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) Ar gael Ein Pris: £12.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dyma lyfr yn dod ag 88 o alawon a gasglwyd gan Iolo Morganwg i olau dydd am y tro cyntaf. Yn ogystal â'r alawon a'r caneuon, mae'r gyfrol yn cynnwys rhagymadrodd a nodiadau manwl yn Gymraeg a Saesneg, sy'n rhoi hanes a chefndir y geiriau a'r gerddoriaeth. Ar gael oddi wrth Dr Rhidian Griffiths, Coed y Berllan, Ffordd Bryn-y-môr, Aberystwyth, SY23 2HX.

This book brings 88 tunes collected by Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) to the light of day for the first time. As well as tunes and songs, the volume contains a detailed introduction and notes in Welsh and English, giving the history and background to words and music. Available from Dr Rh Griffiths, Coed y Berllan, Ffordd Bryn-y-môr, Aberystwyth, SY23 2HX.
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Leila Salisbury yng Nghaerdydd ac fei magwyd yn Llangynog ger Caerfyrddin. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd y Dderwen ac yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin cyn mynd i Brifysgol Bangor lle y graddiodd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth. Astudiodd alawon gwerin Iolo Morganwg ar gyfer ei gradd MPhil, syn sail ir gyfrol hon.
Gwybodaeth Bellach:
Mae cyhoeddiad newydd gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn dod ag 88 o alawon a gasglwyd gan Iolo Morganwg i olau dydd am y tro cyntaf. Cyhoeddir Alawon Gwerin Iolo Morganwg, a olygwyd gan Leila Salisbury, yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, lle bydd Leila hefyd yn traddodi Darlith Goffa Amy Parry-Williams ar Alawon Iolo.

Roedd Iolo Morganwg yn ddyn dawnus ac amlochrog iawn, medd Leila. Fe oedd casglwr alawon gwerin cyntaf Cymru, ac maer rhan fwyaf or alawon yn y gyfrol yn dod oi fro ei hun, sef Bro Morgannwg, cartref yr Eisteddfod eleni. Nododd rhai alawon gydau geiriau, ac eraill fel alawon offerynnol yn unig. Bydd y casgliad hwn o ddefnydd i gantorion ac offerynwyr gwerin yn ogystal ag ymchwilwyr syn ymddiddori yn ein cerddoriaeth werin.

Yn ogystal r alawon ar caneuon, maer gyfrol yn cynnwys rhagymadrodd a nodiadau manwl yn Gymraeg a Saesneg, syn rhoi hanes a chefndir y geiriau ar gerddoriaeth. Cyhoeddir y gyfrol yn y Stiwdio ar faes yr Eisteddfod am 11.00 fore Mawrth, 7 Awst. Yn ogystal, bydd sesiwn perfformio rhai or alawon ar caneuon ym mhabell Tŷ Gwerin rhwng 3.00 a 4.00 brynhawn Mawrth.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cadw Twmpath - 100 Arall ...
 
£9.00
 
Prynwch
Llyfr Alawon Poced ...
Thomas David Llewelyn
£2.25
Mân Dlysau Cymreig, ...
W. Burton Hart
£8.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch