|
Talfyriad llafar o nofel gyfoes ddifyr i ieuenctid gan nofelwraig boblogaidd yn adrodd hanes gwrthdaro a chyfeillgarwch, methiannau a llwyddiannau criw brith o fyfyrwyr TGAU wrth iddynt ddysgu cydweithio ar gwrs mewn canolfan awyr agored. Owen Arwyn sy'n darllen.
An audio abridged version of a contemporary novel for young people by a popular novelist relating the frictions and friendships, failures and successes of a motley crew of GCSE students as they learn to co-operate on an open-air adventure course.
|
|
Yn y nofel hon dilynwn hynt a helynt criw o bobl ifanc, sydd newydd sefyll eu harholiadau TGAU, tra maent ar gwrs tridiau mewn canolfan awyr agored. Llion Jones, neu Llinyn Trôns, sy'n adrodd yr hanes a thrwyddo ef y down i adnabod y prif gymeriadau sef Gwenan, Olwen, Nobi, Gags, Dei a Donna eu hyfforddwraig. Er mwyn ‘adeiladu cymeriad’ rhaid iddynt ddysgu cydweithio a dibynnu ar ei gilydd er mwyn cyflawni tasgau arbennig – dringo, canŵio, abseilio ac ati. Mae hyn yn profi'n anodd iawn ar brydiau, yn arbennig i Llion a oedd, yn yr ysgol, yn fachgen distaw a hoffai ei gwmni ei hun ac a gâi ei fwlio gan Nobi a Gags. Ond mae'r tridiau yn agoriad llygad iddo ac mae'n dysgu llawer amdano'i hun ac am bobl eraill hefyd.
Stori fodern sydd yma gyda chymeriadau byw, crwn, wedi'u darlunio'n effeithiol. Mae'r nofel yn llifo'n gyflym o un dasg i'r llall, gan roi inni stori afaelgar mewn iaith raenus. Er y gallai'r problemau (personol yn ogystal â phroblemau'r tasgau) fod braidd yn drwm i'r darllenydd neu'r gwrandawr, nid felly o gwbl yma. Mae'r cyfan yn ddoniol ac ysgafn, hyd yn oed y digwyddiadau difrifol. Ond mae'r diweddglo yn eithaf annisgwyl.
Yn sicr mae yma stori 'bril' ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau, yn arbennig felly bechgyn. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2001 am y Ffuglen Gymraeg orau. Owen Arwyn sy’n ei darllen ar y CD yma.
Rhiannon Clifford Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|