Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Lewsyn Lwcus: Y Goets Fawr
Goscinny
ISBN: 9780955136641 (0955136644)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2007
Cyhoeddwr: Dalen, Tresaith
Darluniwyd gan MorrisAddaswyd/Cyfieithwyd gan Dafydd Jones, Alun Ceri Jones.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Caled, 298x226 mm, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £6.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Mae Lewsyn Lwcus yn hebrwng y Goets Fawr ar draws America, ac yn gwarchod yr aur gwerthfawr sydd ynddi. Ond mae anawsterau a pheryglon di-ri yn wynebu'r cowboi praff, ac mae pen y daith i weld ymhell bell i ffwrdd.

The Wells Fargo stagecoach is in danger! Robbers and bandits are lying in wait to steal the gold on board, as the coach makes its way across America from Denver to San Francisco. Lewsyn Lwcus and his faithful horse Llamri Llon are hired by Wells Fargo to escort the valuable cargo to its ultimate destination; but there's danger ahead.
Dyma lyfr arall o stabl Dalen syn arbenigo mewn cyhoeddi llyfrau lliwgar ar ffurf stribed stori. Addasiad or Ffrangeg yw Lewsyn Lwcus – Y Goets Fawr gan Dafydd Jones ac Alun Ceri Jones.

Stori am gowboi sydd yma – dyn a dynn yn gynt nai gysgod. Mae Mistar Prenderwen yn gofyn i Lewsyn Lwcus hebrwng y Goets Fawr, syn cludo aur a theithwyr, ar daith beryglus o Denfer i San Francisco. Awn wedyn ar daith heibio coedwig yn llawn lladron penffordd syn ymladd i gilydd; aiff y goets yn sownd mewn mwd a chawn ddarluniau traddodiadol o gowbois y Gorllewin Gwyllt, e.e. yn bwyta bacwn a bns bob nos i swper.

Maer storin byrlymu o un dudalen ir llall trwy gyfrwng tua 8 llun i bob tudalen maint A4. Maer testun braidd yn fach ar adegau ac mewn priflythrennau i gyd. Ceir ambell air anodd i blant, e.e. edifarhewch, a geiriau Ffrangeg fel croissant. Maen anodd gosod llyfr fel hwn ar gyfer cynulleidfa benodol (bechgyn, 10–13 oed yn bennaf, efallai?) ond y syniad, maen siŵr, yw ceisio apelio at ystod eang o oedrannau a galluoedd darllen.

Maen llyfr deniadol, clawr caled (braidd yn ddrud am 9.99), yn llawn hiwmor a wnaeth i mi chwerthin yn uchel. Fe wnes i (gwraig ganol oed!) ei fwynhaun fawr.

Meinir Wyn Edwards

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Coets Fawr cwmni Wells Fargo dan fygythiad! Mae 'na ladron pen ffordd yn bygwth dwyn yr aur sydd arni wrth iddi groesi America o Denfer i San Francisco. Dim ond Lewsyn Lwcus, y cowboi hirben a phraff, a'i geffyl ffyddlon Llamri Llon, all sicrhau bod yr aur yn cyrraedd pen y daith yn ddiogel. Ond mae pob math o anawsterau yn wynebu Lewsyn ar y siwrne hir a pheryglus hon, ac mae dinas San Francisco i'w gweld ymhell, bell i ffwrdd. Tybed a fydd platiad o facwn a ffa pob yn help i hwyluso pethe? Dyma'r gyfrol gyntaf yng nghyfres Lewsyn Lwcus, a sgwennwyd yn wreiddiol gan yr awdur toreithiog Goscinny, a'i arlunio gan feistr y stori stribed Morris. Yn un o gyfresi straeon stribed enwocaf Ffrainc, mae Lewsyn Lwcus wedi dal dychymyg darllenwyr o bob oed ers degawdau, a heddiw mae'n ymddangos am y tro cyntaf rhwng dau glawr yn Gymraeg.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Caneuon i Blant - ...
 
£8.99
 
Prynwch
Gramadeg Cymraeg Canol
D. Simon Evans
£9.99
 
Prynwch
Cyfres Cymêrs Cymru: ...
 
£5.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch