Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Triawd Amser, Y: CongoHubertus Rufledt Gweld rhagor o deitlau gan 'Hubertus Rufledt'
ISBN: 9780955136672 (0955136679)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2008
Cyhoeddwr: Dalen, Tresaith
Darluniwyd gan Thorsten Kiecker, Andreas Pasda, Andreas SchulzeAddaswyd/Cyfieithwyd gan Alun Ceri Jones.Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Caled, 302x215 mm, 56 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.99 
Triawd Amser, Y: Congo
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dyma ail antur Y Triawd Amser, yn teithio i grombil jyngl y Congo ar drywydd stori i'r papurau newydd am y bwci chwedlonol sy'n celu yn nyffryn N'gomo. Ai ffrwyth dychymyg y brodorion yw'r bwci? Addasiad o lyfr a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn yr Almaeneg, Congo: Die Abrafaxe in Afrika. Clip Sain

This is the second adventure for the Triawd Amser (Time-Travelling Trio), on an expedition deep in the Congo jungle searching for the N'gomo valley monster. Is this monster a figment of native imagination? A Welsh adaptation of a book first published in German, Congo: Die Abrafaxe in Afrika. Play Audio
Gwybodaeth Bellach:
Congo yw ail lyfr cyfres Y Triawd Amser sy’n gweld Gwion, Garmon a Gwydion yng nghanol Affrica ym 1924. Gan deithio gyda mintai o dirfesurwyr, mae’r siwrne yn mynd o chwith o’r cychwyn cyntaf wrth i Gwydion syrthio. Mae cnoc gas i’w ben yn golygu ei fod e’n anghofio’n llwyr lle mae e, a’r rheswm dros fod yn y Congo. Pan ddaw ato’i hun, mae ei gymdeithion yn ei atgoffa eu bod wedi dod i’r jyngl i chwilio am stori dda i’w gwerthu i bapurau newydd ar draws y byd.
A’r stori honno yw presenoldeb bwci-bo y jyngl, bwgan chwedlonol dyffryn N’gomo, cwm anghysbell sy’n bwydo dwr i afon fawr y Congo, a man lle nad yw’r brodorion yn fodlon mentro. Ai ffrwyth dychymyg y brodorion yw’r bwci, neu oes ’na lawer mwy i’r ubain a’r crochlefain erchydus sy’n treiddio o fieri dyfnaf Affrica? Gan rwyfo ar hyd afon N’gomo ac ymgiprys â hipos anferth, mosgitos sydd am waed pawb, a rhai o’r crocodeils mwya dan haul, mae’r ateb yn dod i’r fei – ac mae rhywbeth enfawr o’i le.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Mewnwr a Maswr: 1. Brwydr ...
Myrddin ap Dafydd
£4.50
 
Prynwch
Mewnwr a Maswr: 2. Dau Ddewis
Gareth William Jones
£4.50
 
Prynwch
Llyfrau Henri Helynt: Bom ...
Francesca Simon
£4.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mynd dan Groen
Sonia Edwards
£7.99
 
Prynwch
Saesneg
No Room to Live - A ...
Wynford Ellis Owen
£11.95
 
Prynwch