Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Derwyddon, Y: Cyfaredd Caer Is
Jean-Luc Istin, Thierry Jigourel
ISBN: 9780955136689 (0955136687)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2007
Cyhoeddwr: Dalen, Tresaith
Darluniwyd gan Jacques LamontagneAddaswyd/Cyfieithwyd gan Alun Ceri Jones.Fformat: Clawr Caled, 323x234 mm, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Pris Llawn: £9.99 
Ein Pris: £6.99 
Rydych yn Arbed: £3.00 (30.0%) 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Pam mae mynachod diniwed yr Eglwys Geltaidd yn cael eu llofruddio mor filain? Gwynlan y derwydd da sy'n ymchwilio i'r lladdedigaethau erchyll hyn, ac yn dilyn trywydd sy'n ei arwain at gwmni'r dywysoges nwydus Dahud, ac at dystiolaeth newydd syfrdanol. Dyma ail gyfrol cyfres iasoer y Derwyddon, Cyfaredd Caer Is.

Why are pious monks from the Celtc Church being murdered so violently? The druid Gwynlan investigates these heinous killings and is set on a course which will lead him to the chambers of the sensual princess Dahud, and startling new evidence. Cyfaredd Caer Is is the second volume in the Celtic murder mystery series, Y Derwyddon.
Stori stribed i oedolion ywr gyfrol hon. Dyma gyfrwng hynod o boblogaidd ar y cyfandir ac, or diwedd, wele addasiad Cymraeg or llyfr Ffrangeg Les Druides: Is la Blanche gan Alun Ceri Jones.

Na thwyller neb gan luniau i feddwl mai stori syml, ysgafn yw hon. Ir gwrthwyneb, yn wir. Mae'r adroddwr yn mynd 'r darllenydd yn l i fachlud cyfnod y Derwyddon tua phum canrif OC. Gwrthwyneba Rhufain yn chwyrn Gristnogion syn arddel ewyllys rydd. Y mae yma gynllwynio a thywallt gwaed ac maer hen grefydd Geltaidd dan fygythiad.

Symudar storin gyflym wrth i ni ddilyn ymchwil Gwynlan ar Brawd Budog yn eu hymgais i geisio darganfod pwy sy tu cefn i'r anfadwaith. Fen tywysir ni, Gymry llengar, yn l i fyd y pedair cainc a Breuddwyd Macsen. Ond nid Blodeuwedd nac Elen sydd yma ond Dahud tywysoges Caer Is, gydar Brawd Gwynnio i fryd ar ei chael yng nghorlan Duw.

Mae holl gynhwysion y thriller yma: merched pert a dirgelion, ymladdfeydd a dioddef, gydar storin un oesol wrth ir drwg grymus fygwth goruchafiaeth ar y da.

’r gyfrol yn ail mewn cyfres o dair, bydd y sawl a ddarlleno Cyfaredd Caer Is yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyhoeddir drydedd, sef Gwaywr Goruchaf.

Diolch i gwmni Dalen am fentro dechrau llenwir gwagle amlwg hwn ar ein silffoedd yn llwyddiannus.

Ion Thomas

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Gwybodaeth Bellach:
Mae Y Derwyddon: Cyfaredd Caer Is yn ddilyniant i Y Derwyddon: Dirgelwch yr Ogam a gyhoeddwyd yn 2006.

Yng nghyfrol gynta'r gyfres iasoer hon, sydd wedi'i gosod yn Oes y Seintiau Brythoneg yn y 5ed ganrif, tynnwyd y derwydd Gwynlan i mewn i'r dirgelwch ynghylch llofruddiaethau milain mynachod yr Eglwys Geltaidd. Awgryma'r dystiolaeth yn gryf mai'r derwyddon syn gyfrifol am y llofruddiaethau hyn, ond buan y daw gwybodaeth newydd i'r fei syn pwyntio bys at garfan gyfrin or tu fewn ir Fam Eglwys yn Rhufain.

Yn Cyfaredd Caer Is, teithia Gwynlan a'i brentis Taran, ynghyd 'r mynach Budog, i ddinas chwedlonol Caer Is. Dinas yw hon a godwyd ger y mr, ac yno y teyrnasa'r dywysoges Dahud, merch y brenin Gralon. Er bod Dahud yn parhau'n driw i hen grefydd y Celtiaid, mae'n ddigon parod i groesawu mynachod yr Eglwys Geltaidd newydd i'w dinas, ac i'w temtio phleserau mewn neuaddau llawn oferedd a chynteddau o nwyd. Er hynny, mae llawer mwy i'w chyfaredd na'r chwantau amlwg, a daw ei phenderfyniad i'r amlwg wrth amddiffyn ei hannibynniaeth rhag unrhyw gais i'w phriodi. Ond pan ddawr pendefig diweddaraf i geisio'i llaw at byrth Caer Is, daw hefyd dystiolaeth ychwanegol i gynorthwyo ymchwil Gwynlan i lofruddiaethau'r mynachod, gyda bys yn pwyntio at gysylltiad hen urdd fileinig yr Eglwys, Dialedd Duw.

Mae taflenni geirfa ar gyfer Dysgwyr ar gael i gyd-fynd 'r gyfres hon ar wefan: dalenllyfrau.com
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Caneuon i Blant - ...
 
£8.99
 
Prynwch
Gramadeg Cymraeg Canol
D. Simon Evans
£9.99
 
Prynwch
Crefft y Cyfarwydd
Sioned Davies
£18.99
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch