Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Llio! Beth Yw'r Haf i Mi?
Julien Neel
ISBN: 9780955136696 (0955136695)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2008
Cyhoeddwr: Dalen, Tresaith
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Alun Ceri Jones.Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3 Fformat: Clawr Caled, 290x216 mm, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Pris Llawn: £9.99 
Ein Pris: £6.99 
Rydych yn Arbed: £3.00 (30.0%) 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Mae Llio a'i Mam yn mynd i dreulio gwyliau'r haf gyda Mam-gu, a gadael tor-calon yn y dre ar ôl i Rhisiart a Trystan ill dau ymadael. Daw'n amlwg nad yw'r gagendor rhwng Llio a'i Mam yn fawr o gwbwl; sicrhau bod rhamant yn eu bywydau sy'n bwysig i'r ddwy. Ond tybed a fyddant yn dod o hyd i serch fyth eto? Addasiad o lyfr a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ffrangeg, Lou: Mortebouse.

Llio and her Mum spend the summer at Mamgu's house, leaving heartache behind after Rhisiart and Trystan went their own merry ways. It becomes clear that the generation gap between Llio and her Mum isn't that vast after all, and romance is key to a happy life. Will they ever find love again? A Welsh adaptation of a book first published in French, Lou: Mortebouse.
Gwybodaeth Bellach:
Gan barhau chyfres ddyddiadur Llio ar gyfer merched yn eu harddegau, mae'r ail deitl Beth yw'r Haf i Mi? yn ddilyniant i Y Dyddiadur Bach, wrth i Llio wynebu gwyliau hir yr haf heb gwmni Trystan, y crwtyn ciwt drws nesa yr oedd hi'n ei ffanso. Aiff Llio a'i mam i dreulio gwyliau'r haf gyda Mamgu yn y wlad. Gweddw digon anodd i gyd-dynnu hi ywr hen wreigan, ond er gwaetha popeth, hi yw Mamgu, ac maen rhaid ei charu (a'i dioddef) oherwydd hynny.

Tra'u bod yn aros gyda Mamgu, daw mam Llio o hyd i nifer o hen atgofion o'i ieuenctid ei hun sy'n profi nad yw'r gagendor rhwng y ddwy genhedlaeth mor anferth hynny wedi'r cwbwl. Yr un math o bethau sydd ar feddwl y ddwy, a'r mwya o'r rheiny yw cariad neu'n fwy penodol sut i wneud yn siŵr fod gan y ddwy ohonyn nhw serch yn eu bywydau. Daw mam Llio ar draws sawl hen fflam yn ei bro enedigol, ond mae'n profi'n anodd iawn cynnau tn serch ar hen aelwyd Mamgu, yn enwedig pan fo'r cof am Rhisiart golygus, sy'n byw drws nesa nl yn y dre, yn fyw yn ei meddwl. A beth am Llio? Gyda Trystan wedi diflannu heb ddweud ffarwel, tybed ddaw hi o hyd i fachgen perffaith arall?

Ac fe ddaw'r prawf terfynol pan ddychwela Llio a'i mam adre o'u gwyliau. A fydd Rhisiart a Trystan yno? Does dim byd yn sicr nes y daw'r ddwy oddi ar y trn!
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Politics and Society in ...
Rhys Jones
£9.99
 
Prynwch
5 CD-ROM Cyfres Rwdlan
Angharad Tomos
£29.95
 
Prynwch
Diwylliant Gweledol Cymru ...
Peter Lord
£30.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch