Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Her a Hawl Cyfieithu Dramâu - Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliere
Rhianedd Jewell
ISBN: 9781786830944 (1786830949)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2017
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 250 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Pris Llawn: £24.99 
Ein Pris: £16.99 
Rydych yn Arbed: £8.00 (32.0%) 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Yr astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu un o gewri'r ddrama, sef Saunders Lewis. Mae ei gyfieithiadau o weithiau'r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Molière yn datgelu agwedd newydd a dadlengar ar y llenor a adwaenir fel dramodydd, nofelydd a gwleidydd yn hytrach na chyfieithydd.

The first study of the translation work of Saunders Lewis, one of the giants of Welsh drama. His translations of the works of French playwrights Samuel Beckett and Molière reveal a new aspect of the writer, known mainly as a playwright, novelist and politician rather than a translator.
Tabl Cynnwys:
Rhagymadrodd
1. Cyflwyniad
2. Datblygiad Cyfieithu Dramâu yng Nghymru
3. Saunders Lewis ac Ewrop
4. Cyfieithu Llyfr a Chyfieithu i'r Llwyfan
5. Cyfieithu'r Clasurol
6. Cyfieithu'r Abswrd
7. Casgliad
Bywgraffiad Awdur:
Ieithydd ac academydd yw Rhianedd Jewell. Mae ei chefndir ym maes ieithoedd modern, ac mae hi’n darlithio mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gwybodaeth Bellach:
‘Cyn iddo arddel ei ffydd Gatholig neu ganfod ei lais fel gwleidydd a bardd a dramodydd, roedd Saunders Lewis eisoes yn gyfieithydd – a daliodd i drosi hyd at drothwy ei bedwar ugain oed. Dengys y gyfrol ddisglair hon pa mor ganolog oedd cydberthynas ieithoedd iddo – a pha mor allweddol y dylai hynny fod i’n dealltwriaeth ohono.’
- Dr T. Robin Chapman, Prifysgol Abersytwyth
‘Y mae Rhianedd Jewell wedi dwyn cyfieithiadau Saunders Lewis o ddramâu Molière a Beckett o gysgodion yr ymylon a’u gosod yn ddadlennol yn syth ar ganol theatr ei yrfa fel llenor ac fel deallusyn. Ar ôl trafod hanes cyfraniad pwysig cyfieithiadau ac addasiadau i ddatblygiad y ddrama Gymraeg, a gwerthuso dyled drom Saunders i ddiwylliant Ffrainc, y mae’n ystyried holl oblygiadau cymhleth y grefft amwys o drosi cyn gorffen gyda dadansoddiadau trylwyr a threiddgar o Doctor ar Ei Waethaf ac Wrth Aros Godot. Dyma gyfrol arloesol sy’n chwyldroi ein hadnabyddiaeth o Saunders Lewis yr awdur.’
- Yr Athro M. Wynn Thomas, Prifysgol Abertawe
‘Dyma astudiaeth dreiddgar o gyfieithiadau Saunders Lewis, sydd yr un pryd yn goleuo ei feddwl a’i waith yn gyffredinol. Ar ben hyn i gyd, mae’n gyflwyniad difyr i astudiaethau cyfieithu – maes newydd yn y Gymraeg – a chyfraniad nodedig i hanes y ddrama yng Nghymru.’
- Ned Thomas
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth edrych ar y teitl hwn hefyd edrych ar y canlynol:
Tipyn O'n Hanes: Stori'r ...
Catrin Stevens
£5.99
 
Prynwch
Plant y Gorthrwm
Gwyneth Vaughan
£12.99
 
Prynwch
Gwaedd y Bechgyn - ...
 
£15.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Nadolig Pwy a Ŵyr 2
Amrywiol/Various
£8.00
 
Prynwch
Saesneg
Robin Book, The
Jane Russ
£9.99
 
Prynwch
Plant
Gwyn y Carw Cloff
Tudur Dylan Jones
£6.99
 
Prynwch