Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Trwy'r Tywyllwch - Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2001
Elfyn Pritchard
ISBN: 9781843230298 (1843230291)Dyddiad Cyhoeddi Awst 2001
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 134 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £2.00   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Cyfrol arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2001, yn adrodd hanes pedwar mis ar ddeg ym mywyd tad galarus wrth iddo geisio dygymod â marwolaeth ei unig ferch mewn damwain car, ynghyd â dysgu ei adnabod ei hunan.

The winning entry in the Prose Medal competition at the 2001 Denbigh National Eisteddfod, relating the story of fourteen months in the life of a grieving father as he tries to come to terms with the death of his only daughter in a car accident and learns about himself.
Sgwennwr cynnar y bore ydi’r awdur. Un sy’n sgwennu yn ei ben ar fynych dro i Lyn Caereini uwchben ei gartref. Ond pan darodd y syniad ar gychwyn y daith doedd dim pall, a’r awdur fel petai'n creu mewn gofod ar wahân. Roedd yma, wrth gwrs, ffynonellau’n llifeiriant i gynnal ffrâm y digwydd. Y profiad personol oedd wastad yn waelodol. Yna’r cyd-alaru cymdogol sy’n rhan annatod ac yn brofiad personol ym mhob cymdogaeth glòs.

Mae ffrâm y digwyddiad rhwng tudalennau Trwy’r Tywyllwch yn ymddangosiadol syml – tad sy’n colli ei unig ferch trwy ddamwain yn gorfod troedio holl ingoedd llwybrau galar er darganfod mai yn y gollwng y mae’r gobaith. Mae’r ffrwyth dychymyg yn gyfanwaith yn y ‘lwmp o hunandosturi, a’r talp o ragfarn a chasineb’ oedd Rhys cyn y ‘gollwng’. Mae’n debyg fod gan Elfyn Pritchard – â blynyddoedd maith o brofiad athro a phrifathro, blaenor, a llais cyhoeddus ei gymdogaeth – beth wmbreth o gefndir i gynnal ei eiriau.

Wn i ddim am gyfrol y gwnes i ei marcio erioed yn fwy na hon. Pan fo cymalau sy’n cydio neu frawddegau sy’n ysgwyd rhywun, mae’r hen feiro du allan fel saeth. Mae yna olwg mawr ar y gyfrol hon bellach. Achos i ryw raddau rydan ni i gyd yma, hyd yn oed y rhai ohonon ni nad ydym wedi teimlo galar ingol personol ers tro, mi ddaeth gwewyr Rhys yn ôl i’n hatgoffa. Nid oes dim yn morbid nac yn sentimental yn y gyfrol hon ac mae yna lawer o hiwmor du. Ar brydiau hefyd, mor agos i’r asgwrn mae’r awdur: ‘Roedd pawb yn yr angladd i ddathlu bywyd Gwennol, medden nhw. Choelia i fawr. Yno i ddathlu eu bod nhw yn fyw yr oedden nhw…’

Hwyrach fod y catharsis pan ddaw i Rhys braidd yn rhy gyflawn i’m natur i, a dydw i ddim yn hoff iawn o eiriau fel metamorphosis – ond mympwy ydi hynny, beryg. Doedd darllen y gyfrol hon ddim yn bleser. Fydda i byth yn mwynhau rhywun yn sgwennu geiriau y bu bron i minnau eu dweud.

Elin Mair
Y Cymro

Aeth amser heibio erbyn hyn er pan es i ati’n awchus i ddarllen Trwy’r Tywyllwch, a dyma rai o’r pethau sydd wedi aros efo fi. Y gyfeiriadaeth gyfoethog gyson o fyd rhyddiaith, barddoniaeth a chrefydd. Y portread cynnil, cynnes o Ieu, y cyfaill a ddisgrifir fel ‘y canol llonydd mewn byd terfysglyd’. Y delweddau o fyd natur wedyn oedd yn darlunio trueni Rhys a’i adferiad. Delwedd y ceunant tywyll nad ydi o ond ychydig gamau o haul cynnes y dolydd; delwedd dau lwybr y goedwig – un yn arwain allan i olau dydd, a’r llall ‘yn ymddolennu’n ôl i’r un lle’ i gyfleu trobwll galar; y gors wedyn: ‘y siglen ansylweddol o hunandosturi’. Y disgrifiad yma o ddirywiad y berthynas rhwng gŵr a gwraig – ‘Ni fu hydref lliwgar rhwng haf a gaeaf ein perthynas ni, ond fe fu yna wanwyn siriol iawn’. Ambell ddelwedd fwy cyfoes, fel yr un sy’n cyfleu ymdrech Rhys i ganfod ei ffordd o’r gors yn ôl i lwybr bywyd: ‘Roedd hi’n hawdd printio’r geiriau ar sgrin y meddwl, ond doedd dim modd eu harbed gan fod ffeil fy anobaith yn llawn hyd yr ymylon.’

Y cwestiwn y mae rhywun wedi ei gael trosodd a throsodd ydi: ‘Ddaru ti fwynhau?’ Ryden ni’n bobl sy’n chwilio am fwynhad yn yr ystyr o gael ein difyrru ym mhopeth y dyddiau hyn – mewn drama, llyfr, rhaglen radio a theledu, a hyd yn oed mewn pregeth! Ond anodd ydi cysylltu’r gair ‘mwynhad’ yn yr ystyr hwnnw efo darllen y nofel yma. Anodd ydi mwynhau cwmni dyn sydd yn ymdrybaeddu mor hir mewn galar ag y mae Rhys, wedi ei ddadrithio yn ei wraig, yn ei ferch ac ynddo’i hun.

Mae hi’n bosib mwynhau’r fflangellu a wneir ar rai o’n confensiynau a’n sefydliadau parchusaf, nes i chi sylweddoli eich bod yn chwerthin am eich pen eich hun. Meddyliwch, er enghraifft, am rywun sy’n athrawes fel fi yn darllen y geiriau hyn, lle mae Rhys yn ceisio darbwyllo Gwennol ynghylch ei gyrfa: 'Athrawes? Mae pawb yn mynd yn athrawon! Wyt ti o ddifri? Wyt ti eisiau bod yn un o’r brid hwnnw o bobl hunandosturiol, cyfyng eu gorwelion, yn byw o benwythnos i benwythnos, o hanner tymor i hanner tymor, o wyliau i wyliau . . . Rwyt ti’n nabod digon o athrawon. Rwyt ti wedi’u clywed nhw. Yn cwyno am eu horiau, yn cwyno am y gwaith papur, yn cwyno nad yw’r plant yn gwrando arnyn nhw, yn cwyno nad ydyn nhw’n cael digon o gyflog. Cwyno, cwyno, a hynny heb achos.' Be fedra i ’i ddeud?! Gellir, fe ellir mwynhau beirniadu rhagfarnau Rhys ynghylch crefyddwyr, gweithwyr cymdeithasol, hoywon, a hyd yn oed athrawon, nes sylweddoli’n sydyn mai ei feddyliau ef yn rhy aml o lawer yw eich meddyliau chi eich hun.

Mae ’na rai cyfrolau sy’n mynd â chi y tu hwnt i’r mwynhad braf, di-feind yna, yn eich rhwydo, yn eich dal, yn eich anniddigo a’ch anesmwytho, yn eich ysgwyd yn hytrach na’ch suo. A phan ewch chi i’r afael â llyfr felly, dydi’r gair syml ‘mwynhau’ ddim yn dod yn agos o gwbl at gyfleu’r profiad a gawsoch chi o’i ddarllen.

Gwen Edwards


Pan leddir merch ifanc mewn damwain car y mae’n rhaid i’w thad, Rhys, wynebu profiad tywyllaf ei fywyd. Y profiad ingol hwn, sef galar tad am ei unig ferch, sy'n ffurfio’r cefndir i nofel arobryn Elfyn Pritchard.

Gwaetha’r modd, er mor ddwys yw’r testun, y mae’r ymdriniaeth yn aml yn farddonllyd. Wrth ddisgrifio'r canol llonydd yn ei fywyd dywed Rhys mewn ymson: 'Y canol llonydd mewn byd terfysglyd, yn galw'n aml ac yn llenwi'r lle â sawr bywyd, a mwg ei getyn fel arogldarth yn offeren ein cyfeillgarwch'. Ac wrth adael y cwest i farwolaeth ei ferch dywedir bod Rhys yn methu ymadael â'r 'trybestod dan fy mron'. Efallai fod ieithwedd o'r fath yn gweddu i'r pulpud neu i emyn o'r ddeunawfed ganrif, ond mewn nofel gyfoes y mae'n drawiadol o rethregol a ffuantus.

At hynny, y mae'r ymadroddi o bryd i’w gilydd yn chwithig o orffufiol a hynafol: 'fe aeth i'w bedd yn ddilychwin ei buchedd'. Onid yw'r fath ieithwedd – 'yn ddilychwin ei buchedd' – yn creu gagendor diangen rhwng y galar a'r darllenydd? Weithiau, y mae'r dweud yn ystrydebol: 'Mae'r ysbryd yn isel a'r dyddiau'n ddu. Rwyf mewn cors ac yn mynd fwy i'w chanmol hi bob dydd.' Bron nad yw rhethreg y cynhebrwng wedi disodli'r galar.

Ond efallai mai pennaf gwendid yr arddull yw gorbarodrwydd yr awdur i gyfuno enwau diriaethol ag enwau haniaethol. Er enghraifft: 'Cloi fy hun yng nghell fy nrych-feddyliau a wnaf, gyda'r holl ellyllon gwawdlyd yn gwmni i mi, gyda brain duon amheuon ac adar ysglyfaethus ysbryd dialedd a phruddglwyf yn gymdeithion i mi.' Llusgo a wna ambell drosiad hefyd: 'Roedd hi'n hawdd printio'r geiriau ar sgrin y meddwl, ond doedd dim modd eu harbed gan fod ffeil fy anobaith yn llawn i'r ymylon.'

Seilir y nofel ar ragfarn a seicoddwli o'r math gwaethaf. Cais Rhys esbonio pam yr oedd ei ferch, Gwennol, yn hoyw: 'Mi welodd hi beth oedd realaeth perthynas dyn a dynes, mab a merch . . . Wyt ti'n synnu iddi geisio hapusrwydd gyda merch arall?' Sail y dybiaeth hon yw mai rhyw fath o anhwylder annaturiol yw hoywdeb ac mai perthynas gynhennus Rhys a'i wraig, Shirley, yn ystod arddegau Gwennol sydd wedi creu’r gwendid hwn. Mewn difrif, y mae’n anodd credu bod y fath ragfarn wedi cyfareddu Manon Rhys, un o feirniaid cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, a honnodd fod 'diffuantrwydd yr awdur wrth ymdrin â phwnc mor ingol' wedi peri iddi golli dagrau.

Er gwaethaf y gwendidau amlwg, saif un bennod ben ac ysgwydd uwchben y lleill. Yn nychymyg Rhys cynhelir dadl mewn llys apêl lle y pendilia Rhys rhwng cariad a chasineb, rhwng marw a byw. Ond gwrthod rhoi dedfryd a wna’r llys, gan y byddai hynny'n tanseilio rhyddid ewyllys Rhys. Y trueni yw nad achubwyd ar y cyfle i ddatblygu’r thema hon yn gynharach yn y nofel.

Owen Thomas

Gellir defnyddio'r adolygiadau hyn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use these reviews for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Gwaedd y Bechgyn - ...
 
£15.00
 
Prynwch
Llyfrau Llafar Gwlad: 61. ...
 
£5.50
 
Prynwch
Gafael Mewn Gramadeg
David A. Thorne
£5.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch