Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Gwaed Oer: Ysbryd yr Ynys
Nesta Griffith
ISBN: 9781843230502 (184323050X)Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 2004
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 198x131 mm, 56 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £1.50   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Stori iasoer wreiddiol am dri bachgen yn herio'i gilydd i ymweld â mynwent lle maent yn datrys dirgelwch yn ymwneud â bedd di-enw; i ddarllenwyr 9-11 oed. Cyhoeddwyd gyntaf ym Mai 2002.

An original spine-chilling story about three boys who challenge each other to visit a graveyard where they unravel the mystery of an un-named grave; for 9-11 year old readers. First published in May 2002.
Os ydych chi am flaen-baratoi ar gyfer Noson Galangaeaf dyma’r union stori i chi. Mae’n llawn elfennau ‘gothig’ – rhai eitha cyfarwydd, efallai, os ydych yn dwlu ar y genre yma, ond eto’n rhai sy’n creu naws ac awyrgylch iasol.

Mae yna hen eglwys ar ynys fechan gerllaw’r môr, ac ym mynwent yr eglwys mae yna fedd fach heb enw arno lle bydd rhywun yn gosod tusw o eirlysiau ar y cyntaf o Chwefror bob blwyddyn. Rhaid cyrraedd yr eglwys a’i mynwent drwy gerdded ar hyd llwybr cul sy’n arwain drwy goedwig dywyll, lle mae canghennau'n gwichian yn y gwynt a dail crin yn siffrwd dan draed. Mae yna arogl annifyr, ‘fel rwbath ’di marw,’ sŵn crio sy’n troi’n riddfan – a chysgod du uwchben bedd sydd yn graddol ymddangos i fod yn ysbryd hynod annymunol, a dweud y lleiaf.

Dychmygwch eich hun yno ar noson stormus, ddu fel y fagddu. Mae eich ffrindiau wedi ffoi; mae eich fflachlamp wedi diflannu – mae sgrech iasoer yn dod o gyfeiriad yr eglwys a llaw fel maneg ledr yn cau am eich gwar . . . mae bwgan y blodau wedi eich dal yn ei chrafangau . . .

Ddarllenydd annwyl, ewch yn syth i’ch siop lyfrau agosaf a phrynwch gopi o Ysbryd yr Ynys heb ymdroi! Bydd gwallt eich pen yn codi i’r awyr fel pinnau, byddwch yn groen gwyddau o’ch corun i’ch sawdl, ac mi fyddwch yn swatio’n eich gwely’n gwrando ar bob smic o sŵn am nosweithiau ar ôl i chi ddarllen y llyfr diweddaraf yma yng nghyfres Gwaed Oer Gomer. Joiwch!

Ann Saer

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Llinyn Trôns
Bethan Gwanas
£4.95
 
Prynwch
Sgôr (Nofel T)
Bethan Gwanas
£3.95
 
Prynwch
Hi Oedd fy Ffrind
Bethan Gwanas
£7.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch