|
Cofiant trylwyr gan ei wyres i David Thomas (1880-1966), gwr o Sir Drefaldwyn yn wreiddiol a weithiodd yn ddiflino dros y mudiad llafur a mudiad addysg y gweithwyr yng Nghymru, gan lunio strwythur cadarn i'r mudiad undebau llafur yng ngogledd Cymru ar ddechrau'r 20fed ganrif a sefydlu Lleufer, cylchgrawn Mudiad Addysg y Gweithwyr. 58 ffotograff du-a-gwyn.
A thorough biography by his grand-daughter of David Thomas (1880- 1966), who gave unfailing service to the labour movement and the WEA movement in Wales, forming a sound structure for trade unions in North Wales at the beginning of the 20th century and establishing Lleufer, the WEA periodical. 58 black-and-white photographs.
|
|
Fel y maer awdures yn nodi yn y cyflwyniad ir llyfr hwn, hawdd yw meddwl (o hyn sydd wedi ei ysgrifennu hyd yn hyn) mai yn y de yn unig y crëwyd traddodiadau hir a chryf y Blaid Lafur yng Nghymru. Pwysig felly ywr cyfrolau sydd yn cyfrannu at newid y darlun braidd yn unochrog yma, ac syn dangos fod gan y Blaid Lafur draddodiadau dwfn a difyr yn y gogledd hefyd. Mae astudiaeth Angharad Tomos o fywyd a gwleidyddiaeth David Thomas felly yn helpu i lenwi bwlch sylweddol yn hanes y Blaid Lafur yng Nghymru.
Heb unrhyw amheuaeth, David Thomas oedd un o sêr y Blaid Lafur cynnar yng Nghymru ac nid yn unig yn y gogledd. Cafodd ddylanwad mawr ar ochr y blaid oedd yn ceisio agosáur Gymru nid yn unig at sosialaeth, ond at fersiwn poblogaidd o sosialaeth a fyddain cydnabod ac yn parchu traddodiadau a gwleidyddiaeth gwerin Cymru.
Fel y maer teitl yn awgrymu, maer llyfr yn canolbwyntio ar gysylltiad David Thomas âr Blaid Lafur yng ngogledd Cymru. Ceir darlun or ymdrech i sefydlur blaid yng ngogledd Cymru mewn ardaloedd ller oedd y Blaid Ryddfrydol yn dal yn boblogaidd, hyd at yr Ail Ryfel Byd. Sylweddolai David Thomas mair undebau oedd asgwrn cefn y Blaid Lafur. Nid syndod felly mai poblogeiddior blaid yn rhengoedd y gweithwyr ar undebau oedd un o brif amcanion Thomas yn y cyfnod cyn ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Pwysig hefyd oedd datblygu addysg y gweithwyr, a gwnaeth Thomas gyfraniad mawr at ddatblygur WEA yn y Gogledd. Ar hyd ei yrfa, nid oedd y dasg enfawr o ennill hunanlywodraeth dros Gymru ymhell or agenda wleidyddol. Ond, fel maer gyfrol yn dangos, ni ddenwyd Thomas i rengoedd Blaid Cymru (er ei fod yn genedlaetholwr) gan y credai mair Blaid Lafur yn unig a allai ennill y frwydr bwysig yma.
Sosialwr, Llafurwr a Chymro oedd David Thomas. Ond fel y dengys yr awdures, nid hawdd oedd cymodir tair elfen ar adegau. Talodd David Thomas bris sylweddol am ei egwyddorion. Amhoblogaidd oedd ei benderfyniad (ar egwyddor) i wrthod cefnogir Rhyfel Byd Cyntaf, penderfyniad a oedd yn wrthdaro personol a phroffesiynol i Thomas.
Nid ywr ffaith fod y llyfr wedi ei ysgrifennu gan aelod o deulu David Thomas (wyres i David Thomas yw Angharad Tomos) yn bychanur astudiaeth o gwbl. Os rhywbeth, maer wybodaeth ddifyr ar gefndir Thomas yn taflu golau newydd (a phwysig)ar y ffactorau a ffurfiodd yrfa mor ddylanwadol. Er enghraifft, fel y maer awdures yn ei nodi, nid cewrir Blaid Lafur fel Keir Hardie yn unig a gafodd ddylanwad mawr ar David Thomas, ond hefyd ei gyfoeswyr yn Undeb Cymru Fydd fel Percy Watkins ai brifathro yn Ysgol Frytanaidd Llanfyllin, J. Pentyrch Williams.
Un gair o feirniadaeth. Bydd haneswyr wediu siomi fod y gyfrol wedi ei hysgrifennu heb gyfeiriadau. Mae hyn yn biti mawr, yn enwedig gan fod yr awdures wedi defnyddio sawl ffynhonnell sydd heb weld golau dydd or blaen.
Andrew Edwards
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|