Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Llyfrau Lloerig: Ffair Arswyd
Ruth Morgan
ISBN: 9781843231387 (1843231387)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2002
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Chris GlynnAddaswyd/Cyfieithwyd gan Rhian Pierce Jones.Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £3.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o Funfair of Fear, stori ddifyr yn dilyn anturiaethau merch ifanc a'i hewythr gwallgof ynghyd â dau gar clatsio o'r ffair a gaiff eu herwgipio gan berchenogion dichellgar ffair arswyd; i ddarllenwyr 7-9 oed sy'n cychwyn darllen ar eu pen eu hunain. Dilyniant i Bympti-bymp. 50 llun du-a-gwyn.

A Welsh adaptation of Funfair of Fear, an entertaining story about the adventures of a young girl, her mad uncle and two old fair ground bumper cars who are kidnapped by the deceitful owners of a horror fair; for 7-9 year-old readers who are learning to read independently. Sequel to Bympti-bymp. 50 black-and-white illustrations.
Mwynheais i’r stori hon yn arw! Nofel fer yw hi yng nghyfres Llyfrau Lloerig sy’n addas ar gyfer plant o ryw 6-7 oed i fyny, ac mae’n cynnwys penodau byr gyda lluniau hael ar bob tudalen. Dilyniant ydyw i’r nofel Bympyti-Bymp, a chredaf fod y stori hon yn llawer iawn gwell.

Erbyn hyn, mae Yncl Wil (yr un sydd wedi troi ei dŷ’n ffair!) mewn trafferthion ariannol mawr gyda’r cwmni trydan, ac yn gorfod cael gwared o bopeth bron i dalu ei ddyledion. Fodd bynnag, yn llechu o gwmpas ac yn awyddus iawn i gael ei fachau ar y ddau gar bymper byw, mae’r ofnadwy Dr Snich.

Dilynwch helyntion Yncl Wil a Lowri yn Ffair Hwyl Dr Snich a’r anturiaethau sgrechlyd yn Nhŷ’r Ysbrydion! Dyma nofel hwyliog, doniol a hawdd ei darllen sy’n symud yn ddigon cyflym i’r darllenydd fod eisiau darllen ymlaen at y diwedd!

Mae lluniau du a gwyn Chris Glynn yn ardderchog ac yn cyfleu naws a chyffro’r digwyddiadau i’r dim!

Nia Gruffydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Hwrê! Mae 'Na Hipo'n ...
Sonia Edwards
£3.95
 
Prynwch
Pont Readalone: Funfair ...
Ruth Morgan
£1.00
 
Prynwch
Pont Readalone: Behind You!
Ruth Morgan
£0.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch