Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Hen Dŵr, Yr
Gary Crew
ISBN: 9781843231943 (1843231948)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2003
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Steven WoolmanAddaswyd/Cyfieithwyd gan Elin Meek.Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1/2 Fformat: Clawr Meddal, 280x205 mm, 32 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £5.99   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o The Water Tower, stori iasol llun-a-stori gyda delweddau grymus yn adrodd hanes dylanwad sinistr hen dwr trin dwr ar drigolion y pentref cyfagos; i ddarllenwyr 7-10 oed.

A Welsh adaptation of The Water Tower, a horror story with powerful images about the sinister influence of the the old water tower on the inhabitants of the nearby town, for readers aged 7-10 years.
Dyma stori gan awdur sy'n enillydd Gwobr Llyfr Stori-a-Llun y Flwyddyn i Blant yn Awstralia. A does dim rhyfedd! Mae'r llyfr yma'n ddeniadol tu hwnt – stori sy'n herio dychymyg y darllenydd, gyda lluniau manwl mewn amrywiaeth o gyfryngau, a chynildeb anarferol.

Stori am ddau fachgen yn dringo hen dŵr i nofio sydd yma, ond wrth ddarllen rhaid troi'r llyfr ar adegau er mwyn gweld y testun yn iawn – ac mae hyn yn ychwanegu at y teimlad o bresenoldeb yr hen dŵr fel cymeriad arall yn y stori.

Mae ffocws y gymuned gyfan ar yr hen dŵr sy'n sefyll yn rhydlyd uwchben eu pentref poeth. Mae naws o berygl, disgwyl, bygythiad a gwres yn treiddio trwy'r llyfr, a'r themâu o ddrwgweithredu a pherthynas plant â'u rhieni yn gwneud hon yn stori fer wych ar gyfer gwaith llafar mewn dosbarth yn ogystal â bod yn llyfr difyr i'r darllenydd ifanc.

Addasiad ardderchog gan Elin Meek o lyfr sy'n haeddu cael ei ddarllen a'i ailddarllen.

Mari Rhian Owen

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth edrych ar y teitl hwn hefyd edrych ar y canlynol:
Eryr, Yr
Gareth W. Williams
£8.99
 
Prynwch
St David's and Dewisland ...
David W. James
£19.99
 
Prynwch
26 Treasures
 
£15.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dim Croeso '69 - ...
Arwel Vittle
£9.99
 
Prynwch
Saesneg
Levels, The
Helen Pendry
£8.99
 
Prynwch
Plant
Seren Orau'r Sêr! / ...
Sophy Henn
£5.99
 
Prynwch