Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Owain a'r Lliwiau
Ian Whybrow
ISBN: 9781843232186 (1843232189)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2003
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Adrian ReynoldsAddaswyd/Cyfieithwyd gan Emily Huws.Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1 Fformat: Clawr Meddal, 218x218 mm, 16 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £4.95   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o Harry and the Dinosaurs play Hide-and-Seek, stori hwyliog am Owain yn dysgu am liwiau wrth chwilio am ei ffrindiau, y deinosoriaid; i blant 3-5 oed.

A Welsh adaptation of Harry and the Dinosaurs play Hide-and-Seek, a lively story about Owain learning about colours as he looks for his dinosaur friends; for children aged 3-5 years.
Yn wahanol i’r llyfrau stori clawr meddal am Owain a’i ddeinosoriaid, llyfr sbecian-drwy’r-tyllau ydy hwn. Yn y llyfr ceir hanes gêm o guddio, gyda chyfle i’r darllenydd ymuno yn yr hwyl drwy droi’r dudalen a darganfod y deinosor o dan wrthrych o liw arbennig.

Bydd y rhai sydd yn hoff o lyfrau Owain a’i ddeinosoriaid yn gyfarwydd â’r prif gymeriad, ond ar gyfer plant ychydig yn iau yr anelir y math yma o lyfr fel arfer. Ar yr olwg gyntaf mae cyflwyno enwau megis “apatosaurus” a “tyrannosaurus” i blant ifanc iawn yn uchelgeisiol, ond mae’n braf dod o hyd i eiriau gwahanol i’r arfer – nid chwilio am bethau cyfarwydd y mae Owain!

Mae yma luniau mawr, deniadol a thestun syml iawn – ac eithrio, wrth gwrs, enwau’r deinosoriaid! Mae yna hefyd restr o liwiau y tu ôl i’r tudalennau a rydd gyfle i’r darllenydd rag-weld pa liw fydd yn dod nesaf.

Mae’r lluniau hyfryd a’r weithred o chwilio yng nghwmni Owain yn golygu y bydd y llyfr yn boblogaidd. Mae pawb yn hoffi teimlo’n glyfar, ac mae medru dod o hyd i scelidosaurus, ac efallai dweud ei enw, y sicr o wneud i rywun deimlo’n glyfar iawn!

Mererid Thomas

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Gorila
Anthony Browne
£1.95
Owain a dan Dannedd
Ian Whybrow
£4.50
Owain yn Cael Sbort yn y Gors
Ian Whybrow
£2.00
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch