Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Nadolig Plentyn yng Nghymru
Dylan Thomas
ISBN: 9781843232216 (1843232219)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2003
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Edward ArdizzoneAddaswyd/Cyfieithwyd gan Bryan Martin Davies.Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 240x183 mm, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £2.00   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Argraffiad newydd o'r addasiad Cymraeg o glasur Dylan Thomas, A Child's Christmas in Wales, sy'n adrodd atgofion byrlymus yr awdur o'i blentyndod yn nhre Abertawe adeg y Nadolig. 15 llun lliw-llawn a 16 llun pin-ac-inc.

A new edition of the Welsh adaptation of Dylan Thomas's A Child's Christmas in Wales. 15 full-colour illustrations and 16 black-and-white pen-and-ink illustrations.
Dyma adargraffiad diwygiedig o un o glasuron llenyddiaeth Cymru, wedi ei drosi i Gymraeg cyhyrog, barddonol a chyfoethog gan Bryan Martin Davies; mae'n addasiad sy’n llwyddo i gadw naws a thinc unigryw Dylan Thomas.

Mae atgofion am Nadoligau plentyndod y bardd o Abertawe yn pentyrru dros ei gilydd i greu darlun cofiadwy a chyfarwydd. Gwelwn y bachgen a’i ffrindiau yn ymosod ar gathod gyda pheli eira, yn ei heglu hi o dŷ diarth pan glywant lais fel ysbryd yn ymuno â nhw i ganu carolau, ac yn deffro ewythrod o’u cwsg pnawn trwy fyrstio balŵns.

Mae darluniau nodweddiadol Edward Ardizzone yn ychwanegu at naws gyfarwydd y stori. Cyfrol i oedolion yw hon yn bennaf, ond o’i rannu ar lafar â phlant, bydd cyfle i’w cyflwyno i waith un o’n beirdd enwocaf, yn ogystal â thrafod nodweddion Nadolig erstalwm.

Bethan M. Hughes

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Stori Noa a'r Mab ...
 
£7.99
 
Prynwch
Peppa Pinc: Pyllau Mwdlyd ...
 
£5.99
 
Prynwch
Nadolig Plentyn yng ...
 
£5.10
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dim Croeso '69 - ...
Arwel Vittle
£9.99
 
Prynwch
Saesneg
Levels, The
Helen Pendry
£8.99
 
Prynwch
Plant
Seren Orau'r Sêr! / ...
Sophy Henn
£5.99
 
Prynwch