Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Hogyn Syrcas
Mary Annes Payne
ISBN: 9781843232223 (1843232227)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2003
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 175x118 mm, 88 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £2.00   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr y Mis: Mawrth 2003
Nofel fer am dristwch bywyd bachgen ifanc sy'n chwilio am ddihangfa yn rhamant y syrcas wrth dyfu i fyny mewn cartref lle mae'r fam yn alcoholig a'r tad yn breuddwydio am wneud ei ffortiwn.

A heart-rending short novel about a young boy who wants to escape to the circus from a home where the mother is an alcoholic and the father dreams of making his fortune.
Mae naratif Hogyn Syrcas oll yn deillio o lygaid Geraint, bachgen wyth oed, sy’n baglu trwy fywyd anhapus ei fam a’i dad; bodolaeth anffodus sydd ganddo ar y cyfan. Er hyn, mae Geraint i’w weld yn blentyn digon hapus. Ei fam a’i dad yw ei lygaid a’i glustiau, a thrwyddyn nhw y mae bron pob profiad yn deillio. Eu profiadau hwy sy’n llywio trywydd y gwaith, gan blannu’u hunain yn ddwfn iawn yn y plentyn, a blaguro yn ei gymeriad yn nes ymlaen yn y llyfr.

Cryfder Hogyn Syrcas yw ei fod yn cynnig profiad cathartig i unrhyw berson gafodd fagwraeth wahanol (bron pawb felly). Yr unig elfen sy’n peri ychydig o ansicrwydd i mi yw’r ffaith nad yw’r awdur, Mary Annes Payne, wedi cysoni elfennau canolog, megis Geraint yn gadael ei filltir sgwâr mor fodlon, ac annhebygrwydd ei ffydd anysgytwol yn ei dad. Yn fyr iawn (80 tudalen), mae’r cyfan wedi’i ddarllen mewn fflach a’r darllenydd hwn yn ansicr yn union i ba gyfeiriad oedd y llyfr yn ceisio mynd. Er hynny, efallai nad oes angen cyfeiriad ar gyfer nofel fer fodern ond, yn hytrach, gysonbwynt wrth gloi, ac y mae Hogyn Syrcas yn sicr yn gwneud hyn, a’m diddordeb yn nyfodol Geraint heb gael ei fodloni'n llwyr.

Ymfalchïa Geraint yn ei ffugenw, sef Bastad Bach, sy’n anrheg gynnar gan ei fam ac yn arwydd weddol glir i’r darllenydd nad yw popeth yn iach yn y cartref. Daw’n amlwg yn fuan nad yw’r tad yn ddyn cyfrifol iawn (a bod ganddo ffansi ledi o’r Wirral) a bod y fam yn yfed yn drwm. Mae’r tad yn diflannu'n aml, gan ymddangos o bryd i’w gilydd gyda syniad newydd am sut mae gwella’u bywydau a chanfod y llwybr uchel sydd, yn ôl y fam, yn arwain at Fenis, breuddwyd sy’n aros yn freuddwyd.

Does gan Geraint ’run syniad beth ydy Fenis, na llawer o syniad o ddim arall a dweud y gwir. Gan amlaf fe’i cyflwynir fel cymeriad cynfas gwag, gydag elfennau allanol ei fywyd cynnar yn toddi i’w gilydd cyn crynhoi rai blynyddoedd yn ddiweddarach – dyfais naratif er mwyn cyflwyno sut mae Geraint wedi ymfodloni gyda bywyd teithiol y syrcas. Mae cymeriad Geraint yn diflannu i’r cefndir braidd gyda’r digwyddiadau'n dod yn fwy amlwg nag ef, tipyn o dric gan mai trwy ei lygaid ef yn unig y gwelwn y stori yn dad-glymu. Hoffwn weld fwy o fywyd Geraint, a gobeithiaf taw pennod gyntaf o rywbeth mwy ydy Hogyn Syrcas.

Dafydd Prys

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Ffair Gaeaf a ...
Kate Roberts
£5.00
 
Prynwch
Cryno-Ddysg y Cymry - ...
Cennard Davies
£6.99
 
Prynwch
Cyfres Cymêrs Cymru: ...
Elwyn Edwards
£4.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Nadolig Pwy a Ŵyr 2
Amrywiol/Various
£8.00
 
Prynwch
Saesneg
Robin Book, The
Jane Russ
£9.99
 
Prynwch
Plant
Gwyn y Carw Cloff
Tudur Dylan Jones
£6.99
 
Prynwch