Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Rhywfaint o Anfarwoldeb - Bywgraffiad Islwyn Ffowc Elis
T. Robin Chapman
ISBN: 9781843232247 (1843232243)Dyddiad Cyhoeddi Awst 2003
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, A5, 248 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o Stoc - Archebir yn l y galw Ein Pris: £12.99 
Sgr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Bywgraffiad Islwyn Ffowc Elis, nofelydd a bardd, sgriptiwr a chyfansoddwr caneuon ysgafn, gweinidog a darlithydd, yn gwerthuso ei gynnyrch toreithiog ac amrywiol, ei ddatblygiad fel llenor a'i safle o bwys ymhlith llenorion Cymraeg. 24 llun du-a-gwyn.

A biography of Islwyn Ffowc Elis, novelist and poet, scriptwriter and composer, minister and lecturer, appraising his prolific and diverse output, his development as a writer and his standing among Welsh literatti. 24 black-and-white illustrations.
Rwyf wedi bod yn edmygydd mawr o Islwyn Ffowc Elis er 1961, pan ddechreuais ddysgu’r Gymraeg mewn dosbarth nos a gynhaliwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Nid euthum yn bell iawn â llyfr O. M. Edwards, Cartrefi Cymru, ond dysgais ddigon am gymeriad mwyn y tiwtor i sylweddoli ei fod yn ddyn ac yn llenor eithriadol o alluog.

Wythnos yng Nghymru Fydd oedd y nofel Gymraeg gyntaf imi ei darllen erioed (gyda chymorth Y Geiriadur Mawr) ac erbyn diwedd y chwe degau roeddwn wedi llyncu’r ddwy nofel am deulu Lleifior hefyd. Yn wir, pan euthum ati i gyfieithu Cysgod y Cryman a’i holynydd rai blynyddoedd yn ôl, gan weithio gyda chydweithrediad parod yr awdur, roeddwn yn weddol hyderus fy mod i’n eithaf cyfarwydd â chymeriad Islwyn Ffowc Elis a chyfaredd ei waith.

Yn fwy diweddar, darllenais ysgrif Robin Chapman yn y gyfres Writers of Wales, gwrando ar ei ddarlith fywiog ar Faes yr Eisteddfod eleni, ac yn awr, darllen ac ailddarllen ei fywgraffiad o lenor sydd wedi bod yn dipyn o arwr imi ers dros ddeugain o flynyddoedd. Ydw i wedi newid fy marn amdano? Wel, ydw a nac ydw.

Roeddwn yn gwybod o brofiad fod Islwyn yn greadur hawdd ei frifo cyn belled ag y mae ei nofelau yn y cwestiwn, fel mae ganddo hawl berffaith i fod. Ond nid oeddwn yn llawn sylweddoli faint o wewyr roedd yn ei ddioddef wrth i’w lyfrau gymryd siâp yn ei ben ac ar bapur, a pha mor isel roedd yn gallu bod ar adegau wrth ysgrifennu. Nid yw’r wybodaeth hon yn effeithio ar ei orchest fel un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru ers dyddiau Daniel Owen, nac ar fy edmygedd ohono, ac ni ddylai hyn synnu’r darllenydd sy’n gwybod yn iawn beth yw eistedd wrth ddesg ddydd ar ôl ddydd am fisoedd, weithiau am flynyddoedd, ym merw ei awen, a dim ond adwaith y beirniaid unllygeidiog i edrych ymlaen ato.

Dau beth sy’n fy synnu i. Yn gyntaf, pa mor anhapus oedd Islwyn yn ei sir enedigol. Wedi’r cyfan, mae’r nofelau yn cyflwyno pictiwr mor hyfryd o Sir Drefaldwyn fel bod dyn yn tueddu i feddwl amdanynt fel teyrnged dwymgalon yr awdur i’r dirwedd a’r bobl a aeth i’w wead. Roedd ei ddigalondid yn ymwneud rhywfaint, yn ddiau, â’r ffaith ei fod yn weinidog gyda’r Hen Gorff a’i ddirmyg llwyr tuag at nifer fawr o aelodau’r capeli roedd yn eu gwasanaethu yn y sir. Ysu am adael y weinidogaeth roedd Islwyn y rhan fwyaf o’r amser, er mwyn dychwelyd at ei ysgrifennu. Ond aeth pethau yn ddyfnach na hyn, nes ei fod yn barod i wneud unrhyw beth ond pregethu’r Efengyl. Pwy all ei feio?

Yn ail, ymddengys ei fod yn casáu gwleidydda â chas perffaith. I mi, sy’n ei gofio yn trefnu ymgyrch Gwynfor Evans yn Sir Gaerfyrddin ym 1966 gyda sirioldeb heintus, mae hyn yn syndod ysgytwol. Prin y gallaf gredu ei fod mor gyndyn i hyrwyddo achos Plaid Cymru ag y mae Robin Chapman yn ceisio ei brofi. Mae’n wir ei fod wedi bod yn drwyadl iawn wrth bori trwy ddogfennau yn y Llyfrgell Genedlaethol (ac mae Islwyn wedi bod yn llythyrwr penigamp trwy gydol ei yrfa), ond tybed faint o drafodaethau sydd wedi bod gyda’r dyn ei hun ar y pwynt hwn? Arwyddocaol iawn, yn fy marn i, yw’r ffaith fod Islwyn, gyda’i hynawsedd arferol, wedi erfyn ar Robin Chapman (yn ôl y Rhagair) gyda’r geiriau hyn: ‘Y peth gorau yw esgus fy mod wedi marw, ac nad yw’n bosibl i mi felly ystumio’ch barn mewn ffordd yn y byd!’ Rwy’n gweld ei bwynt, ond ar y llaw arall . . .

Y gwir yw, debygwn i, bod Islwyn Ffowc Elis wedi bod yn berffeithydd ym mhopeth y mae wedi ceisio ei gyflawni – llenydda, crefydda, gwleidydda – heb allu bod yn fodlon ar ddim ac felly yn anesmwytho am symud ymlaen tuag at rywbeth arall. Mae’r anfodlondeb hwn wedi troi’n niwrosis weithiau, a phob manylyn yn achosi poen ac yn awgrymu methiant. Mae hyn, yn ei dro, wedi meithrin rhywbeth yn ei gymeriad sydd wedi ei gadw rhag bod yn llwyddiant yn ei olwg ei hun. Gresyn, achos mae Islwyn Ffowc Elis wedi cyflawni campau llenyddol sy’n debyg o aros yng nghof y genedl am flynyddoedd lawer, fel mae Robin Chapman yn dangos yn glir yn yr astudiaeth werthfawr hon.

Dyma un o’r bywgraffiadau Cymraeg gorau rwyf wedi ei darllen yn ddiweddar ac rwy’n siŵr y caiff darllenwyr nofelau Islwyn Ffowc Elis yr un mwynhad – a’r un syndod.

Meic Stephens

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Rhoddodd Dylan Lewis o Llanbedr Pont Steffan i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"Adolygiad a ymddangosodd yn CLONC - Papur Bro Llanbedr Pont Steffan a'r Fro - Hydref 2003. Mewn datganiad ir wasg disgrifir Islwyn Ffowc Elis yn Awdur Llyfr y Ganrif, arloeswr ac eicon y nofel Gymraeg, cyn-weinidog, ymgeisydd aflwyddiannus ar ran Plaid Cymru a chocyn hitio beirniaid llenyddol. Ond efallai fod darllenwyr Clonc yn ei adnabod am resymau eraill: awdur Cysgod y Cryman yn sicr, nofel y gwerthwyd bron i 50,000 o gopau ohoni, neu caiff ei adnabod fel un o drigolion Llanbedr Pont Steffan wrth gwrs ers blynyddoedd bellach. Daeth i Lambed i weithio yn y coleg a bu'n ddarlithydd yno am bymtheg mlynedd. Mae ef ai wraig Eirlys wedi hen ymgartrefu yn Rhodfa Glynhebog erbyn hyn. Darllenais y bywgraffiad haeddiannol hwn gydag awch, felly, gan ein bod ni ddarllenwyr Clonc yn gallu hawlio rhywfaint o le yn hanes ei fywyd. Rhennir y llyfr yn ddeuddeg pennod hawdd eu darllen syn croniclo ei fywyd or dyddiau cynnar yn Nyffryn Ceiriog hyd heddiw yn Llambed. Fel un o ffans mwyaf helyntion Lleifior, roedd darllen am yr adeg yn Llanfair Caereinion pan ysgrifennodd Cysgod y Cryman o ddiddordeb mawr i mi, ar dylanwadau a fu ar Islwyn Ffowc Elis ar y pryd. Ond o safbwynt ei fywyd heddiw, prin iawn ywr cyfeiriadau at Lambed ar ardal. Efallai fod hynnyn destun llyfr arall. Cyfeiriwyd at ei gyd-weithwyr yn y brifysgol, ond siom or mwyaf oedd darllen y nesaf peth i ddim am ei fywyd yn y dref. Ymfalchaf yn y ffaith fod awdur Llyfr y Ganrif yn byw yn Llambed erbyn hyn, ond bler oedd y cyfeiriadau at ei gyfraniad yma yng Nghapel Shiloh ac i weithgareddaur blaid yn y dref? Ar y llaw arall, dysgais lawer amdano na wyddwn cyn hynny. Diddorol oedd darllen am ei ymdrechion fel darpar ymgeisydd Plaid Cymru ar gohebu fu rhyngddo r llywydd Gwynfor Evans.Y peth arall a ddysgais oedd am ei rwystredigaethau wrth iddo gael ei dynnu rhwng y byd crefyddol, y byd gwleidyddol a'r byd academaidd, ai anallu i ysgrifennu o dan bwysau gwaith or holl gyfeiriadau. Llwyddodd T. Robin Chapman i ddilyn ei fywyd ai yrfa fel awdur yn gelfydd iawn. Cyfeirian helaeth at ffynonellau di-rif, a daw barn a theimladau Islwyn Ffowc Elis yn glir ir darllenydd. Yn sicr, dyma gyfrol werthfawr ir byd llenyddol ar byd academaidd. I rywun syn astudio gwaith Islwyn Ffowc Elis ac yn mwynhau darllen ei nofelau, dyma lyfr syn rhaid ei ddarllen. Croniclir digwyddiadau bywyd Islwyn Ffowc Elis ochr yn ochr hanes Cymru yn y ganrif ddiwethaf ynghyd i gyfraniad i hanes y nofel Gymraeg. Dylan Lewis"
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Llên y Llenor: ...
Delyth George
£1.00
 
Prynwch
Routledge Grammars ...
Gareth King
£55.00
Croesi Traeth
Gwyn Thomas
£5.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch