Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Blwyddyn Dewin y Ci
Maggy Roberts
ISBN: 9781843232810 (1843232812)Dyddiad Cyhoeddi Medi 2003
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Addas i oed 0-5 neu Cyfnod Allweddol 1 Fformat: Clawr Meddal, 209x260 mm, 32 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £2.45   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr gwreiddiol gyda darluniau lliwgar difyr yn dilyn Dewin y ci wrth iddo gyflwyno'r tywydd a'r tymhorau i blant 3-5 oed. Mae'r testun yn ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg.

An original book with entertaining colour illustrations which follows Dewin the dog as he presents the weather and the seasons to children aged 3-5 years. The text is bilingual, Welsh and English.
Hydref, gaeaf, gwanwyn a haf, mae blwyddyn Dewin yn brofiad braf. Dyma’r adnodd diweddaraf yng nghyfres Dewin y ci. Mae’r llyfr lliwgar hwn yn gyflwyniad da i dymhorau, tywydd a misoedd y flwyddyn. Rhestrir digwyddiadau a themâu pwysig misoedd y flwyddyn: mae ’na ychydig o le i nodi ‘Pen-blwydd Mam’ hefyd!

Ceir lluniau braf sy’n rhoi digon o gyfle i drin a thrafod, ac mae ’na naws ryngwladol i’r lluniau hefyd: cangarŵ ar y traeth, eliffant yn pysgota yn y glaw, a phengwin yn gynnes braf mewn welingtons coch.

Ychydig iawn o eiriau sydd yn y llyfr, sy’n ei wneud felly’n addas ar gyfer plant bach, darllenwyr cynnar a dysgwyr. Mae’n llyfr dwyieithog sy’n arbennig o hwylus ar gyfer oedolion nad ydynt yn darllen Cymraeg i'w rannu gyda phlentyn.

Lynwen Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Caneuon i Blant - ...
 
£8.99
 
Prynwch
Rala Rwdins (DVD011)
 
£5.99
 
Prynwch
Our Sisters' Land - The ...
 
£9.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch