Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres 'Slawer Dydd: Gwrthryfel Merthyr
Janet Davies
ISBN: 9781843232834 (1843232839)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2004
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Graham HowellsAddas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 197 x 130 mm, 80 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn l y galw Pris Llawn: £4.99 
Ein Pris: £2.49 
Rydych yn Arbed: £2.50 (50.1%)   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel fer wedi'i gosod yn ardal Merthyr adeg Gwrthryfel Merthyr ym 1830, yn sôn am galedi bywyd ac anniddigrwydd trigolion yr ardal drwy lygaid merch ifanc; i ddarllenwyr 8-11 oed. 12 llun du-a-gwyn .

A short novel set in Merthyr during the 1831 Rebellion, about the living conditions and struggle of the area's inhabitants as seen through the eyes of a young girl; for readers aged 8-11 years. 12 black-and-white illustrations.
Nofel wych yw hon ar gyfer ei mwynhau fel stori neu fel sbardun i waith hanes ar ddigwyddiad chwyldroadol Gwrthryfel Merthyr ym 1831. Cawn yr hanes trwy lygaid Siani, merch ddeuddeg oed a oedd wedi symud i Cefncoedycymer, Merthyr Tudful, ar ddechrau cyfnod y chwyldro. Daw ar draws y gwrthryfelwyr, yr heddlu a Mr Crawshay, perchennog gwaith haearn Cyfarthfa a chastell Cyfarthfa.

Ceir ymdeimlad o’r perygl, y cyffro a’r rhwyg yn y gymdeithas yn ystod y cyfnod yn ogystal ag ychydig ffeithiau am y gwaith haearn. Mae’r darluniau yn sicr yn ychwanegu at y cynnwys ac yn gymorth i’n tynnu i’r cyfnod. Mae’r clawr hefyd yn denu’r darllenydd ac yn adlewyrchu cynnwys y nofel i’r dim.

Yn y dosbarth, ar gyfer plant hŷn CA2 neu ddisgyblion CA3, byddai’n adnodd arbennig ar gyfer gwaith traws-gwricwlaidd hanes ac iaith.

Dyma yn bendant lyfr sy’n werth ei brynu.

Angharad Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Straeon Cymru - 10 o ...
Esyllt Nest Roberts
£6.12
 
Prynwch
Suo-Ganeuon (CD) (SCD2402)
 
£10.20
 
Prynwch
Chwedlau Hud a Lledrith o ...
Jane Pugh
£2.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dim Croeso '69 - ...
Arwel Vittle
£9.99
 
Prynwch
Saesneg
Levels, The
Helen Pendry
£8.99
 
Prynwch
Plant
Seren Orau'r Sêr! / ...
Sophy Henn
£5.99
 
Prynwch