Nid nofel ysgafn mo hon. Nid nofel in diddanu am orig fechan yn unig mohoni, ac un y gallwn wibio hwb a naid drwyddi ar un gwynt. Na, mae Dyn yr Eiliad, er gwaethaf y teitl, yn nofel iw throedion araf a hamddenol, gan olygu oriau braf o loetran, o ogordroi wrth bob paragraff, ac o gnoi cil ar y geiriau.
Dyma wir awdur sydd â rhywbeth iw ddweud, ac nid oes brys yn y byd arno iw ddweud ychwaith. Mae pob gweithred a phob golygfa'n drwm ag ystyron, ac fel y dywedir yn y nofel ei hun: Teimlai fod yna rywbeth profound iawn am yr holl brofiad. Fel adolygydd, maer demtasiwn i ddyfynnu lliaws or gwirioneddau dyfynadwy hyn yn un anodd iawn iw gwrthod (Be sy na i gymryd lle ffydd a chrefydd? Ar ôl cariad a brawdgarwch, a chyfeillgarwch a charedigrwydd, y fi sydd, a dim arall.), ond fen rhybuddiwyd i beidio gan yr awdur! Gwae ni ein beirniadu ar sail ein gosodiadau absoliwt, meddai!
Peidiwch â gadael i arafwch y dechrau eich gwangalonni yn ara deg mae dal iâr, medden nhw, ac yn ara deg mae codir seiliau ar gyfer nofel dda fel hon. Ond yn bwysicach na dim, yn ara deg mae mowldio cymeriadau tri-dimensiwn, cymeriadau sydd â haen ar ben haen o orffennol llawn hanesion bychain, o bresennol ingol llawn cwestiynau, a dyfodol y maer darllenydd er gwaethai hun erbyn canol y llyfr eisiau gwybod amdano, ond sydd erbyn darllen ir diwedd yn gwybod mai dim ond un dyfodol sydd.
Nofel am Davies yw hon, nofel am gymeriad nad ydym yn ei gyfarfod oherwydd ei fod eisoes yn farw, ond cymeriad syn dominyddur llyfr, syn rhan hollol annatod o weddill y cymeriadau ond sydd ar yr un pryd yn un na theimlwn iddoi adnabod ychwaith.
Maer dyfyniad ar ddechraur llyfr yn gosod y sail ir thema hunanymwybodol, bogail-syllu hon o adnabod, gan ofyn pwy ydyn ni a holi a oes modd inni adnabod ein ffrind gorau hyd yn oed, heb sôn amdanom ein hunain, Ond fel pob adnabyddiaeth, dim ond yr ennyd ddatgysylltiedig sydd. A beth yw rôl y gair ysgrifenedig wrth ddiffinior hunan? Rwyn rhoi geiriau ar bapur, wedir cyfan y geiriau syn ffurfior brawddegau syn ysgrifennuu hunain, ac syn fy ysgrifennu i. Oes y fath beth â ffawd? Mewn rhyw ffordd, dilyniant Cadw dy ffydd, brawd yw hon, yr un awgrym o gyflwynor nofel ar bywydau drwy gyfryngau modern y ffilm a ffotograffau, o wylio or tu allan a cheisio diffinior hunan. Yn y nofel ddiweddaraf hon ceir rhyw wrthrychedd academaidd ir profiad hwn drwy adrodd yn y trydydd person am yn ail âr cyntaf techneg syn gweithion hynod o naturiol a llwyddiannus.
Yn sicr, mae meistr ar adrodd stori ar waith yma, ar hyder wrth greu a chyflwynoi stori yn amlwg. Dyna i chir oedi cyn cyflwyno Anna, rhyw ffigwr dirgel yn y pellter ar y dechrau na wnaed dim ond cyffwrdd ar ei bodolaeth ac ar ei phwysigrwydd, heb sôn am y crwydro i adrodd cynifer o fân storïau heb golli gafael o gwbwl ar y brif stori. Yr unig sarnu ar fy mwynhad i or llyfr oedd yr iaith a ddefnyddiwyd yr eirfa ar gystrawen Seisnig heb ymddiheuriad nac italig o fath yn y byd: oherwydd actual cynnwys y sgwrs, roedd e wastad yn piso rownd, cael diwrnod off); i mi roedd hyn yn crafun anghyfforddus yn aml iawn ac yn tynnu oddi ar rin y darllen.
Efallai gall y nofel fod yn rhy athronyddol bendronol i fod at ddant pawb ond, yn fy marn i, rhowch fwy o arian ir awdur gael cyfle i ysgrifennur nofel nesaf!
Gwenllïan Dafydd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|