Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Hunllef Hudolus, Yr
Rhian Pierce Jones
ISBN: 9781843233404 (1843233401)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2004
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2/3 Fformat: Clawr Meddal, 184x123 mm, 64 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £2.49   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel llawn bywiogrwydd am griw o ffrindiau ac un ewythr poblogaidd sy'n profi reid gyffrous, hudolus yn ffair y pentref; i ddarllenwyr 7-11 oed.

A very lively novel about a group of friends and a popular uncle who experience an exciting magical ride in the village fair; for readers aged 7-11 years.
Reid ffair uchaf a mwyaf cyffrous yn y byd mewn Parc Thema. Dyma’r elfennau sy’n sicr o gyffroi pobl ieuanc a dyma’r union beth gaiff Sara, Elliw a Sam Siopwr gyfle i’w wneud. Digwydda’r cyfan ym mhentref Pant-yr-afon wrth i’r cymeriad lliwgar Sylfia Sylfanws Ser Preis ymddangos gan ddod â’r reid gyda hi. Mae tipyn o gyfrinach ynghylch y wraig liwgar hon. Llwydda’r criw o ffrindiau i gael mynediad i’r parc thema “Gwibio Gwyllt” ac mae’r reid yn un annisgwyl, arallfydol.

Mae adleisiau o Charlie a’r Ffatri Siocled Roald Dahl yn y nofel hon. Caiff y plant docynnau braint ac mae’r drysau ar eu dymuniadau yn agor. Fodd bynnag, gwendid y nofel yw’r diffyg gwrthdaro. Does dim tro trwstan, problem na pherygl yn wynebu’r cymeriadau, a byddwn wedi hoffi gallu dod i'w hadnabod yn well.

O ran iaith ac arddull y mae’n hawdd i’w darllen ac yn addas i Flynyddoedd 6 a 7 gyda thipyn o ddeialog ac ambell ddisgrifiad. Bydd y clawr deniadol yn sicr o dynnu sylw darllenwyr.

Ion Thomas

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Harri Potter a Maen yr ...
J.K. Rowling
£11.99
Adar Drycin
Rhiannon Davies Jones
£9.95
 
Prynwch
Joni a'r Meirwon
Terry Pratchett
£4.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch