Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Trwyn Mewn Llyfr: Pecyn Bwyd y Deinosor
Jacqueline Wilson
ISBN: 9781843233503 (1843233509)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2004
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Nick SharrattAddaswyd/Cyfieithwyd gan Elin Meek.Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 196 x 129 mm, 64 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £3.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o The Dinosaur's Packed Lunch, stori ddifyr gyda darluniau du-a-gwyn ar bob tudalen yn sôn am ferch ysgol yn profi antur fawr wedi iddi lyncu sudd deinosor; i ddarllenwyr 7-9 oed.

A Welsh adaptation of The Dinosaur's Packed Lunch, an entertaining story with black-and-white illustrations about a young schoolgirl who experiences an exciting adventure after swallowing some dinosaur juice; for readers aged 7-9 years.
Yn bendant, trwyn mewn llyfr fydd hi wrth ddarllen y stori hon! Cawn hanes Alys, sy’n byw gyda’i thad, sydd wastad mewn trwbl ac sy'n gweld popeth yn ddiflas! Ond ar drip ysgol i amgueddfa i weld arddangosfa deinosoriaid caiff Alys brofiad anhygoel. Doedd gan Alys ddim pecyn bwyd felly i ffwrdd â hi i eistedd ger yr iguanodon tra bod pawb arall yn bwyta. A rhyfeddod o fyd, ond roedd y deinosor yn fyw ac fe aeth ati i wneud pecyn bwyd arbennig i Alys.

Roedd pecyn bwyd y deinosor yn cynnwys pob math o ddail a sudd deinosor gwyrdd llachar. Ond nid dyna ddiwedd yr antur! Bore trannoeth roedd Alys yn edrych a theimlo tipyn yn wahanol. Doedd dim byd yn ddiflas y diwrnod hwnnw – roedd hi wedi troi'n ddeinosor! Bydd yn rhaid i chi ddarllen y stori i gael gwybod sut ddiwrnod gafodd Alys!

Llyfr hwyliog yw hwn gyda lluniau clir a phwrpasol fydd yn sicr o ddenu plant i eistedd a darllen – yn cynnwys bechgyn!
Mae'r stori'n addas ar gyfer plant 6 i 8 oed, yn arbennig rhai sy’n hoffi deinosor neu antur.

Angharad Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Arwyn yr Anturiwr - ...
Grace Todd
£4.99
 
Prynwch
Cyfres Trwyn Mewn Llyfr: ...
Jacqueline Wilson
£3.99
 
Prynwch
Cyfres ar Wib: Ffion a'r ...
Elin Meek
£3.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch