Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Hanes Atgas: Y Tuduriaid Trafferthus a'r Stiwartiaid Syrffedus
Catrin Stevens
ISBN: 9781843235163 (1843235161)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Graham HowellsAddas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3 Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 144 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £5.99 
Sgôr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Hanes y Tuduriaid a'r Stiwartiaid wedi ei ddehongli a'i ddarlunio'n gyffrous. Ceir darluniau difyr ar bob tudalen, ac mae'r gyfrol yn storfa o wybodaeth wedi ei gyflwyno mewn dull ysgafn ac apelgar. Olrheinir yn arbennig arferion gwaedlyd ac eithafol y cyfnod. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf ym mis Awst 2006.

The history of the Tudors and Stuarts interpreted and illustrated in an exciting way. Includes humorous illustrations on every page, and the book is a trove of information presented in a clear and appealing way. In the main, the more gory and extreme customs of the period are described. Reprint; first published in August 2006.
Mae’r teitl hwn yn y gyfres ‘Hanes Atgas’ yn awgrymu ar yr olwg gyntaf mai addasiad sydd yma o’r gyfres hynod boblogaidd honno yn Saesneg, sef ‘Horrible Histories’. Mae’r fformat yn debyg iawn, yn cynnwys yr arddull tafod-yn-y-foch a’r lluniau du a gwyn doniol ac amharchus. Camgymeriad, fodd bynnag, fyddai meddwl mai addasiad slafaidd yw hwn, gan mai testun gwreiddiol ydyw gan Catrin Stevens, gyda lluniau gwreiddiol wedi’u darlunio gan Graham Howells.

Ydi’r canlyniad mor llwyddiannus â’r fersiwn Saesneg? Ydi, heb os. Yn wir, byddwn i’n dweud fod y gyfrol hon yn rhagori o lawer, gan ei bod yn cynnig cipolwg ar hanes y cyfnod trwy lygaid cwbl Gymraeg a Chymreig. Roeddwn ar un adeg yn meddwl mai ffordd ddigon tila i ddysgu am hanes oedd cyflwyno’r cyfan mewn ffordd mor ysgafn, ond dwi’n amau y byddai darllenydd sy’n darllen Y Tuduriaid Trafferthus nid yn unig yn cael ei ddiddanu, ond hefyd yn dysgu tipyn go lew am hanes Cymru yn yr oes honno, yn cynnwys hanesion a helyntion Cymry enwog a chyffredin. Mae Catrin Stevens i’w chanmol am sgwennu testun mor ddifyr. Mae’n gyflwyniad gwych a hwyliog i hanes Cymru i blant a phobl ifanc 10-13 oed.

Nia Gruffydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Rhoddodd Llywelyn Glyn Williams (8 Oed) o Felinheli i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"Roedd y llyfr yn ddiddorol ac yn ddoniol ond doedd y crogi ddim yn neis! "
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Llyfr i Blant dan Gant
Dewi Pws
£1.00
 
Prynwch
Cwis Gwyddoniaeth - Cwis ...
 
£25.00
 
Prynwch
Haen Fathemateg, Yr: ...
 
£34.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch