Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Ar hyd y FlwyddynAmryw / Various
Gweld rhagor o deitlau gan 'Amryw / Various' |
ISBN: 9781843235248 (1843235242)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2007
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, LlandysulDarluniwyd gan Fran EvansAddas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Caled, 271x209 mm, 126 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£9.99
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Llyfr rhodd sy'n disgrifio gwahanol fisoedd y flwyddyn drwy gyfrwng stori a cherdd gyda darluniau o waith yr arlunydd Fran Evans. Mae pob pennod yn ymdrin â mis o'r flwyddyn. Cyfranwyr: Sioned Lleinau, Tudur Dylan, Eiry Palfrey, Siân Lewis, Dwynwen Lloyd Evans, Caryl Lewis, Non Vaughan Williams, Mererid Hopwood, Elin Meek, Helen Emanuel Davies, Ceri Wyn, Meinir Pierce Jones.
A book that describes the different months of the year through stories, poems and illustrations by artist Fran Evans. Each chapter focuses on one individual month. Contributors include: Sioned Lleinau, Tudur Dylan, Eiry Palfrey, Siân Lewis, Dwynwen Lloyd Evans, Caryl Lewis, Non Vaughan Williams, Mererid Hopwood, Elin Meek, Helen Emanuel Davies, Ceri Wyn, Meinir Pierce Jones.
|
|
Dyma galendr o gyfrol sy’n cynnwys storïau a cherddi i adlewyrchu pob mis o’r flwyddyn. Mae’r calendr yn llawn i’r ymylon o ddigwyddiadau a dathliadau amrywiol i’w rhannu a’u blasu yng nghwmni plant. Mae ffenestr gyntaf y calendr yn agor gyda stori gynnes am eira oer mis Ionawr gan Sioned Lleinau. O droi at fis Chwefror, cawn gadwyn o gerddi sy’n tynnu llun Tudur Dylan Jones i ni o fyd llawn y mis bach. Wrth agor drws mis Mawrth yng nghwmni Eiry Palfrey, cawn sbecian drwy ddyddiadur Dewi a Non sy’n dathlu eu pen blwyddi yn saith oed a chawn ddathlu pob math o bethau eraill gyda’r ddau hyd ddiwedd y mis!
Ond does dim rhaid cadw at rod y flwyddyn wrth ddarllen y gyfrol hon. Cewch neidio o fis i fis ac o dymor i dymor fel y mynnwch. Efallai mai mis Rhagfyr fydd yn mynd â’ch bryd pan fo Meinir Pierce Jones yn dweud stori’r geni yng nghanol jigs y dawnswyr hwla. Neu beth am fentro neidio ar drên sgrech Aberteifi ym mis Tachwedd neu fynd i Ynys Sgomer ym mis Gorffennaf neu gael eich tynnu gan dennyn Caradog y ci ym Mannau Brycheiniog yn yr Hydref?
Cewch fynd o fan i fan Ar hyd y flwyddyn a chlywed acenion a thafodieithoedd gwahanol wrth grwydro-darllen gwaith awduron a beirdd fydd yn eich tywys o le i le neu drwy fydoedd hudolus. Waeth ffenestr pa fis fydd yn cymryd eich ffansi, cewch wledd trwy air a llun yn y gyfrol hon. Mae’r arlunwaith yn annwyl o fyw; yn fath o luniau clasurol sy’n cyhwfan yn llygaid meddwl plentyn. Yn wir, mae’r clawr ynddoi’i hunan yn orig storïol sy’n pelydru cynnwys y misoedd a’r gyfrol yn ei chrynswth.
Os am fisoedd o ddarllen diddan, hamddenol i blant, yna mae Ar hyd y Flwyddyn yn almanac perffaith!
Gwawr Maelor Williams
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|