Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres 'Slawer Dydd: Rhy Ifanc i Ryfel
Mair Wynn Hughes
ISBN: 9781843235538 (1843235536)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Jac JonesAddas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 104 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £4.99   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Y Rhyfel Byd Cyntaf yw cefndir y stori hanesyddol hon, sy'n adrodd hanes dau fachgen o Sir Fôn yn ystod y rhyfel. Dyma'r pedwerydd teitl yn y gyfres Slawer Dydd.

A story for which the First World War is the background, as it tells the history of two boys from Anglesey in the war. This is the fourth title in the Slawer Dydd series.
Dau fachgen naw oed yw Robat a Harry sy’n byw yn Sir Fôn yn ystod y Rhyfel Mawr. Gwelir digwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf, a bywyd gwledig ar ddechrau’r 20fed ganrif trwy eu llygaid hwy.

Mae hwn yn adnodd gwych i athrawon sydd am ddysgu hanes y cyfnod i’w disgyblion. Mae’r gwaith ymchwil wedi ei wneud yn drwyadl iawn, ac mae nodiadau pellach gan yr awdur ar ddiwedd y llyfr. Bydd plant yn dysgu mewn dull difyr a chyraeddadwy gymaint y mae bywyd bob-dydd wedi newid ers dyddiau’r Rhyfel Mawr. Mae pob math o anturiaethau a phrofiadau’n digwydd i’r ddau fachgen, a dyna’n eironig yw unig wendid y llyfr. Tueddir i gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau heb brif blot i ddal y cyfan at ei gilydd. Serch hynny, mae’n darllen yn rhwydd iawn, ac mae’r iaith gyhyrog yn sicr o ehangu geirfa’r darllenwyr ifanc.

Mae’r darluniau du a gwyn gan Jac Jones yn hyfryd; gresyn na fyddai rhagor ohonynt er mwyn i blant heddiw, sy’n byw mewn byd mor weledol, gael cyfle i ail-fyw profiadau Robat a Harry drwy’r llygad yn ogystal â’r dychymyg.

Eiry Palfrey

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cysgliad (CD-ROM)
 
£40.00
Atlas Cynradd 2
 
£9.00
Atlas Cynradd 1
 
£8.00
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch