Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Mynydd Hwn, Y - Deg o Ysgrifau am Fynyddoedd
ISBN: 9781843235569 (1843235560)Dyddiad Cyhoeddi Awst 2005
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Ray WoodFformat: Clawr Caled, 230x250 mm, 110 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn l y galw Pris Llawn: £19.99 
Ein Pris: £8.00 
Rydych yn Arbed: £11.99 (60.0%)   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Cyfrol lliw-llawn chwaethus yn dathlu perthynas cenedl y Cymry a mynyddoedd eu gwlad yn cynnwys ysgrifau personol gan bum gwr a phum gwraig yn adlewyrchu arwyddocâd mynyddoedd penodol yn eu bywydau, ynghyd â ffotograffau lliw cyfoethog. 67 llun lliw ac 1 map.

A tasteful full-colour volume celebrating the relationship of the Welsh nation with their country's mountains comprising personal essays by five men and five women reflecting the significance of particular mountains in their lives, together with rich colour illustrations. 67 colour illustrations and 1 map.
Yn wythnosol bron, gwelir cyhoeddi llyfrau yn Saesneg am fynyddoedd a chefn gwlad, ond gan nad yw hynny'n digwydd yn y Gymraeg, bu hir ddisgwyl am y gyfrol hon. Bun werth yr aros; maen dderbyniol iawn a lluniau Ray Wood yn odidog. Yn hynny o beth, rhaid llongyfarch Gwasg Gomer am ei gomisiynu a Chyngor Llyfrau Cymru am y grant darlunio. Nid yn ofer y bur gwario!

Yma mae deg awdur yn portreadu deg o fynyddoedd. Nid eu bod i gyd, fel y Berwyn, Cader Idris a Chrib Nantlle, yn uchel a mawreddog, na bob amser yn gyfarwydd chwaith. Yn wir, tydi rhai ohonyn nhw fawr mwy na bryniau, a rhai or awduron yn ddiangen braidd yn ymddiheuro felly ar eu rhan am nad ydyn nhwn llawn hawlior disgrifiad. Ond wna hynny ddim gwahaniaeth; fel gydar sr, mae 'na wahaniaeth rhwng 'mynydd a mynydd mewn gogoniant', ac ir awduron mae i bob un ei bwysigrwydd ai ogoniant dyrchafol ei hun.

Dylwn brysuro i ddweud nad arweinlyfr, nad cyfres o erthyglau in tywys tuar gwahanol gopaon, sydd yma. Chewch chi ddim cyfarwyddiadau manwl nac amserlen, ond yn hytrach ymdrech i gyflwyno blas a rhin y mynyddoedd, mewn llun a gair.

Fe ddaw rhai or ysgrifau chyfnodau or gorffennol yn l i mi. Gwelwn gopa mynydd Tal-y-mignedd o ffenestr llofft fy nghartre pan yn hogyn, cofiaf grwydro mynyddoedd Maesglasau a Thynybraich ddeng mlynedd ar hugain a mwy yn l gan ryfeddu unwaith at rym y gwynt a gododd dan sgert y rhaeadr gan chwythur dŵr yn ei l iw rewin blymen hanner crwn o gwmpas erchwyn y dibyn. Roedd hynny ymhell cyn i awdur yr ysgrif ennill y Fedal Ryddiaith! Nid Angharad Price ydir unig un or awduron i gael medal. Maer Prif Lenor ar Prifardd Dylan Iorwerth yman procior dychymyg wrth ein tywys ar hyd Crib Nantlle, a Mererid Hopwood, yr unig ferch i ennill Goron a Chadair Genedlaethol, syn mynd ni i ben Garn Fawr i weld Trwyn Tyddewi.

Crwydror byd, ei led ai hyd, ddwy waith fu hanes Bethan Gwanas, ond does dim dwywaith nad adref yn Meirionnydd ac ar lethrau neu wrth droed Cader Idris y mae hi hapusaf. Os mai merch ei milltir sgwr ydi Bethan, does dim amheuaeth nad dyn ei filltir sgwr ydi Ray Gravell. Dyn Mynydd y Garreg, nad ydi o byth yn blino canu ei glodydd, er gwaethar darganfyddiad iasol ar ei lethrau ac yntau ond pedair ar ddeg oed.

Mae dau or mynyddoedd yn fynyddoedd y ffin syn gwahanur ddwy Gymru, y wledig ar ddiwydiannol. Dynar Blorens rhwng y Fenni a Blaenafon, a Mynydd y Gwrhyd rhwng sir Gaerfyrddin a Morgannwg. Y tywyswyr yw Lois Arnold ac Alun Wyn Bevan.

Mae tri ar l. Cefn Du a welwn o ddrws cefn fy nghartre, y Berwyn a fun falm i enaid pan oeddwn in bwrw tymor ym Maldwyn a Meirionnydd, heb anghofio Dinas Brn, gwarchodwr Llangollen. Y cynta ydir 'corrach bach dinod a chyfrinach orau Eryri', llwyfan i weld yr Wyddfa ai chriw, yn l Llion Iwan. Yr ail, cynefin ieuenctid Iolo Williams, sydd mor gyfarwydd ag adar a chreaduriaid prin ei gymoedd ai gopaon. Her fur trydydd i Elin Llwyd Morgan nad yw mor hoff hynny o ddringo mynyddoedd ond a welodd fwy na thwmpath o gerrig unwaith y cyrhaeddodd ei gopa.

'O! tyn / Y gorchudd yn y mynydd hwn', meddair emynydd Hugh Jones, Maesglasau. A lwyddwyd i wneud hynny yma? Do. Pleser fu crwydror llechweddau yng nghwmnir awduron gan weld eto mewn gair a llun yr hyn a welais, ac na welais, gynt yn y cnawd. Rŵan ta, lle maer sgidiau i mi gael dechrau efor un na fm ar ei gopa hyd yma – Garn Fawr?

Dei Tomos

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Scrabble yn Gymraeg
 
£28.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch