Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Whap!: Adref heb Elin
Gareth F. Williams
ISBN: 9781843236818 (1843236818)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3 Fformat: Clawr Meddal, 183x129 mm, 270 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £6.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel i'r arddegau. Dydi Elin ddim yn cyrraedd adref o'r ysgol un diwrnod. Ond beth sydd wedi digwydd iddi? Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2007. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2006.

A novel for teenage readers. Elin doesn't arrive home from school one day. But what has happened to her? Tir na n-Og Award winner 2007. First published in 2006.
Mae tua 25,000 o bobl yn diflannu bob blwyddyn. Un or bobl hynny yw Elin, merch ddwy ar bymtheg o Borthmadog. Cawn weld yn y nofel afaelgar hon effaith ei diflaniad dirybudd annisgwyl ar ei rhieni ai chwaer, Ceri Mai.

Adroddir y stori fel catharsis o fath gan y chwaer ac mae daeargryn y diflaniad yn peri poen a gwewyr meddwl di-baid ir tri sydd ar l. Taflar digwyddiad ei gysgod ar nifer o drigolion Port a chydnabod y teulu. Ond yr agosaf sy'n cael eu niweidio. Wrth ir awdur dynnu darlun o ddedwyddwch teuluol yn cael ei rwygo, maer brifon boenus. Fen tynnir drwyr holi ar amheuon, y dadansoddi ar gwadu, y cyhuddo ar ymdrechion poenus i freuddwydio a cheisio cadw fflam gobaith yn fyw. Catharsis ywr nofel wrth i Ceri sylweddoli cyn lleied yr adwaenai ei chwaer ddiflanedig. Yn grefftus llwydda Gareth F. Williams i adrodd stori llawn ing a gwewyr meddwl, gydar gwrthdaro mewnol yn tynnur darllenydd ar lwybr y chwilio ar chwalu.

Rhennir y nofel yn dair rhan, ac mae tinc rhyw wirionedd syml yr ysgrifennu yn peri ir stori garlamu ymlaen. Dawr ddeialog rhwng y tri or cymeriadaun fyw. Maer ysgrifennun ddirodres gydag ambell ddisgrifiad a chymhariaeth yn pefrio.

Gadewir y darllenydd ar ddiwedd y nofel hon yn fyr ei anadl yn gobeithio, yn dyheu ac yn gweddo na ddigwyddith dim byd or fath iddo yntau. Ie, clatsien o nofel syn ddifyrrwch difrifol.

Ion Thomas

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Pwysig!
Sian Northey
£4.95
 
Prynwch
Cyfres Pen Dafad: Pen Dafad
Bethan Gwanas
£2.95
 
Prynwch
Lleidr Hud, Y
Catherine Fisher
£5.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch