Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Lili dan yr EiraMeinir Pierce Jones
Gweld rhagor o deitlau gan 'Meinir Pierce Jones' |
ISBN: 9781843237037 (1843237032)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, LlandysulFformat: Clawr Meddal, 196x127 mm, 334 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Pris Llawn:
£8.99
Ein Pris:
£4.00
Rydych yn Arbed:
£4.99 (55.5%)
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Nofel am hen gartref sy'n llawn cyfrinachau. Stori afaelgar wedi'i lleoli yn Sir Fôn, yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol a'r gymuned amaethyddol. Cyhoeddwyd gyntaf Hydref 2007.
A novel about an old house, full of secrets and mysteries. A gripping story located in a farming community on Anglesey and dealing with agricultural and social issues. First published October 2007.
|
|
Nofel gron a thyn yw hon sy’n llawn dirgelwch a haenau. Datgelir ychydig bach o rai dirgelion yn gynnar, ond ar yr un pryd, mae’r awdur yn creu byd sy’n cynyddu yn ei gymhlethdod.
Canolbwynt y byd hwn yw ‘Glyn’, sef tŷ’r diweddar Ddoctor Cynwal. Ynddo, mae marwolaeth y doctor yn dod â’r prif gymeriadau, Nant a Nyrs Beti, at ei gilydd, i chwilio am loches oddi wrth realiti eu bywydau. Mae’r tŷ fel rhyw burdan o le, lle maent yn bodoli yn hytrach na byw, wrth iddynt ddod i delerau â’r bywyd sydd y tu cefn iddynt. I Nant, sy’n wynebu argyfwng canol oed, mae’r tŷ, sef ei chartref a symbol o’i methiant, yn troi’n seintwar ac yn gymorth i ddechrau bywyd newydd heb ei gŵr, Ed. Argyfwng henaint sy’n wynebu Nyrs Beti. Ac iddi hi, mae’r tŷ fel symbol o’r cyfnod pan oedd hi’n cael ei gwerthfawrogi fel nyrs yn y gymuned. Nawr, a hithau’n tynnu at ei phymtheg a phedwar ugain, mae’n swatio yno gyda’i ‘Kyffin’, yn hytrach na setlo mewn cartref hen bobl.
Dyma ddwy ecsentrig, a dweud y lleiaf. Fel dwy wrach wen, maen nhw’n creu symbolau ac yn ceisio gwneud synnwyr o bethau. Daw merch arall i ymuno â hwy Braint. Mae hon yn ifanc, yn llanast ar gyffuriau, ac wedi colli’i hunaniaeth. Ac o dipyn i beth, down i sylweddoli fod y tair cenhedlaeth sy’n glanio yn ‘Glyn’ yn cynrychioli agweddau negyddol yn hanes gwragedd ar hyd y blynyddoedd: diffyg statws ac annibyniaeth; gorfod priodi; caethiwed cyffuriau. Nid Braint yn unig sy’n ceisio ailddarganfod pwy ydyw, felly, ond Nant a Nyrs Beti hefyd.
Swnio’n drwm? Ddim o gwbl. Mae hiwmor yn tasgu o bob tudalen ac yn ganolbwynt i’r arddull. Er bod yna drasiedi a threiddgarwch enbyd, dryswch teimladau, a pherthnasau ar chwâl, mae doniolwch yn y ddeialog yn aml, ac ysgafnder sylfaenol yn y ffordd mae Meinir Pierce Jones yn datgelu cyfrinachau.
Siân Reeves
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Gwraig ffarm a mam yw Meinir Pierce Jones. Mae Meinir yn byw yn Nefyn ac mae hi'n gyfieithydd proffesiynol. Gwybodaeth Bellach: Garddio yn y gaeaf
Mae'r gaeaf yn adeg llwm i arddwyr fel arfer – coed yn sgerbydau duon yn erbyn yr awyr lom; oerfel yn gafael gormod i allu sefyllian yn rhy hir; fawr o arwydd bod dim byd yn tyfu nac yn ffynnu. Ond o dan y dail crin, o dan y barrug, mae byd natur yn dal i anadlu a bywyd yn mynnu rhedeg ei gwrs. Yn Lili Dan yr Eira, nofel newydd Meinir Pierce Jones, mae hynny'n bwysig, yn bwysig iawn.
A hithau'n dwll y gaeaf, y dyddiau byrraf hynny cyn y Nadolig, mae'n anodd i Nant Owen weld dim ond marwolaeth o'i chwmpas ymhobman. Dyma hi, yn ôl yn y Glyn, y cartref lle magwyd hi – tŷ doctor a syrjyri lle bu ei thad, Doctor Cynfal a'i thaid, Doctor Harri yn gwella pobl am flynyddoedd. Ar ddydd angladd Dr Cynfal, caiff Nant gwmni ei brawd Owen – llawfeddyg – i wrando ar ewyllys ei thad.
All neb feio Nant am deimlo bod pawb yn rhan o'r ‘ffatri fendio’ heblaw hi. Ddaeth hi byth i ben â'i chwrs meddygol; beichiogi yn ei harddegau, rhedeg i ffwrdd o'r Glyn i briodi Ed a bod yn wraig ffarm dlawd wnaeth hi. Ond nawr, yn ôl yn yr hen dŷ - sy'n eiddo iddi hi bellach - mae'n bryd i Nant geisio dod o hyd i ffyrdd o wella: gwella'r berthynas â'i gorffennol; gwella'r modd y bu'n byw o'r llaw i'r genau; gwella'r tŷ a'r ardd ryfeddol a brynwyd gan ei mam heb i neb esbonio sut. Ac yn yr ardd, o dan y rhew a'r eira, mae moddion yn cuddio - moddion anarferol ac annisgwyl, ac nid y tabledi a'r ffisig fyddai'n cael eu dosbarthu yn nyddiau ei thad a Nyrs Beti, ond moddion, yn ddiamau. Ond fel pob moddion, dyw hwn ddim yn hawdd i'w lyncu gan bawb…
‘Roedd gen i ddarlun clir iawn o'r tŷ a'r ardd wrth ysgrifennu’, meddai Meinir Pierce Jones am Lili Dan yr Eira. ‘Pan ddechreuais i ysgrifennu'r nofel, roedd gen i awydd gwneud i'r tŷ adrodd y stori hyd yn oed, ond nid felly y daeth hi yn y pen draw.’
Stori am fywyd a marwolaeth yw Lili Dan yr Eira, a stori am y modd y mae pobl yn dygymod â'r ddau hanfod mawr hynny pryd bynnag y dôn nhw ar eu traws. Er mai nofel gyfoes yw hon - yn wahanol i nofel gyntaf Meinir, Y Gongol Felys, a ddaeth i Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006 - mae rhai o'r nodweddion a wnaeth y nofel honno mor gofiadwy a gafaelgar yma eto: dirgelwch; cymeriadau sy'n dod yn fyw ar y dudalen; trawstoriad rhyfeddol o bobl o bob cefndir ac oedran; iaith rywiog, gredadwy. |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|