|
Nofel sy'n adrodd hanes am ferch ifanc sy'n dod yn ffrindiau gyda gwraig lawer yn hŷn na hi, a'r anturiaethau sy'n dilyn hynny. Gwibia'r nofel o Gaerdydd i Doscana yn yr Eidal gan gynnwys themâu, megis ffantasi, celf a llofruddio. Nofel fodern yn llawn hiwmor. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mehefin 2006.
A novel telling the story of a young girl befriending a much older woman, and the adventures that follow. The novel travels from Cardiff to Toscana in Italy, and it includes themes such as fantasy, art and murder. A modern humorous novel. Reprint; first published in June 2006.
|
|
Ar gychwyn nofel gyntaf Catrin Dafydd, Pili Pala, fe ges i’r argraff fy mod i ar fin darllen llyfr fyddai’n ddigon tebyg i waith nifer o awduron eraill. Mae’r nofel yn agor drwy sôn am Anest, merch yn ei hugeiniau, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn gweithio yn y cyfryngau ac yn breuddwydio am ddod o hyd i ŵr. Bridget Jones Gymraeg, meddyliais. Ond erbyn diwedd y nofel, roeddwn i’n gwybod nad ysgrifennu chick lit Cymraeg yw bwriad Catrin Dafydd, ond rhywbeth llawer mwy uchelgeisiol. Nid Helen Fielding yw’r prif ddylanwad, ond Mihangel Morgan, dybiwn i. Ac fel sy’n digwydd yn Dirgel Ddyn gan y nofelydd hwnnw, mae’r cymeriadau’n cyfarfod mewn dosbarth nos.
Mae Anest yn derbyn cynnig gan un o’i chyd-ddisgyblion yn ei dosbarth celf i fynd ar wyliau i Toscana. Mae Mrs Blanche yn wraig weddw fohemaidd, soffistigedig, sy’n berchen ar dŷ haf yn yr Eidal. Mae hi hefyd wedi ffoli ar jazz ac yn awyddus i rannu’i brwdfrydedd am gerddoriaeth gydag Anest.
Â’r ddwy ar eu ffordd i Toscana, cawn hefyd gyfarfod â nifer o Eidalwyr: Sarjant Piccolomini, y plisman pentref busneslyd, a'r cyn-gariadon Marco a Marielle, a’u teuluoedd. Unwaith i Anest a Mrs Blanche gyrraedd y tŷ haf roeddwn yn disgwyl y byddai byd y Cymry a byd yr Eidalwyr yn cyd-daro. Mae’n debyg mai rhagfarn oedd yn gwneud i mi gredu mai unig swyddogaeth yr Eidalwyr fyddai chwarae rhan yn stori Anest a Mrs Blanche. Unwaith eto, roeddwn yn anghywir. Er eu bod nhw a’r Cymry'n cyfarfod, mae’r Eidalwyr yno fel cymeriadau yn eu hawl eu hunain, gyda’u straeon eu hunain i’w hadrodd.
Felly llwyddodd y nofel hon i’m taflu oddi ar fy echel sawl gwaith, a hynny cyn cyrraedd y troadau annisgwyl tu hwnt tua diwedd y stori. Unwaith i mi sylweddoli nad oeddwn yn darllen nofel realaidd, ond gwaith uchelgeisiol lle nad yw’r gwirionedd wastad mor hawdd i’w ganfod, cefais flas o’r newydd ar y gwaith, ac ar yr ail ddarlleniad cefais lawer mwy o bleser o’r nofel nag ar y darlleniad cyntaf. Gair o gyngor: mae angen darllen y nofel hon gyda meddwl agored!
Mewn ambell fan yn y nofel, mae’r mynegiant ychydig yn chwithig, ond mae Catrin Dafydd yn llais newydd gwreiddiol yn y Gymraeg, ac mae hi'n bendant i’w chanmol am anelu mor uchel gyda’i nofel gyntaf. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddarllen rhagor o nofelau ganddi, ac rwy’n sicr y bydd hi’n datblygu’n awdur o bwys.
Kate Crockett
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|